³ÉÈËÂÛ̳

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dewis eu geiriau

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 10:28, Dydd Gwener, 19 Awst 2011

Casgliad o sylwadau a welwyd yn y wasg ac a glywyd ar y cyfryngau Cymreig yn ystod yr wythnos.

  • Dwi am longyfarch y disgyblion sy'n dathlu ar eu cyraeddiadau ac yn dymuno'r gorau iddyn nhw wrth barhau i ddysgu. Dwi wedi dweud ar sawl achlysur fy mod am weld safon addysg yng Nghymru yn gwella - , Gweinidog Addysg Cymru, yn dilyn cyhoeddi canlyniadau'r arholiadau safon uwch lle gwelwyd Cymru yn syrthio ymhellach y tu ôl i Loegr.
  • Rwy'n ffieiddio yr iaith mwnci ddarfodedig . . . Rwy'n casáu y modd y mae Cymru wedi cael ei throi yn wlad dramor gyda gorsaf radio Gymraeg, sianel deledu ac arwyddion ffyrdd dwyieithog - yn adolygu'r llyfr 'Bred of Heaven' yn y 'Daily Mail'.
  • Dw i ddim yn dal dig at neb - meddai Eleanor Burnham yn am yr y ffordd y cafodd ei thrin gan ei phlaid y Democratiaid Rhyddfrydol. "Dw i wedi bod dan staen ofnadwy a doeddwn i ddim yn disgwyl, ar ôl i fu weithio mor galed am gymaint o flynyddoedd dros y blaid, eu bod nhw'n mynd i ddelio efo fi mewn ffordd mor gywilyddus," meddai.
  • Byddai Nero a'i ffidil yn teimlo'n gartrefol iawn yn y Babell Lên - Lyn Jenkins, Aberteifi, yn gresynu mewn llythyr yn y wasg na fu unrhyw gerdd yn erbyn melinau gwynt gan yr un o'r dros gant o "feirdd gorau Cymru" a gymerodd ran yn y Babell Lên yn Wrecsam eleni.
  • Mae cydgyfeiriant pedwar argyfwng yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf - trychineb y banciau, y cyhoedd yn colli ffydd yn gyfan gwbl yn y gwleidyddion, y cyfryngau a'r heddlu ac yn awr y ffrwydrad o drais gan yr ieuenctid hynny sydd i bob pwrpas wedi'u gwahardd yn gymdeithasol, yn dangos Prydain fel na fu erioed o'r blaen, sef ein bod wedi cyrraedd cyfwng cymdeithasol a moesegol dwfn yn ein hanes cenedlaethol - paragraff cyntaf llai na bachog stori dalen flaen heddiw gan Wynford Ellis Owen.
  • Ei hoff bethau oedd ei deulu a'i ardd, Cymru a'r Gymraeg, Man U a'r bwci a Symi a'r haul - Dafydd Iwan yn cofio ei frawd, a fu farw yn 69 oed.
  • Yn absenoldeb arlwy safonol o ddramâu yn yr Wyl eleni, roedd hon [sioe 'Salsa'] (ynghyd â Bara Caws) yn boenus o embaras mewn cyfnod o wir angen am arweiniad a gweledigaeth theatrig - Paul Griffiths yn cwyno yn 'Y Cymro' am ddiffyg drama yn Eisteddfod Wrecsam eleni.
  • Mon - Sun 05.00 - 23.00. Dydd Llun - Dydd Sul 06.00 - 23-00 - Arwydd oriau agor bwyty McDonalds yn Llandudno. Sy'n well na chamgymeriad iaith, bosib!
  • Fe wnaethom ni aros mewn pob math o leoedd o westai i wely a brecwast ac fe wnaethom ni hyd yn oed dreulio un noson ar lawr neuadd bentref - Ron Williams un o'r cerddwyr a fu'n o Abaty Basing yn Sir y Fflint i Ynys Enlli.
  • Gyda phris cyngherddau nos wedi codi yn aruthrol hefyd, dwi'n amau weithiau sut fath o bobl mae'r Eisteddfod yn ceisio eu denu . . . Beth ddigwyddodd i Steddfod y Werin deudwch? - Angharad Tomos yn atodiad 'Yr Herald Cymraeg' yn y 'Daily Post'.
  • Mae'r diwydiant alcohol wedi manteisio'n effeithiol iawn ar dechnoleg y rhyngrwyd fel ffordd i hyrwyddo ei gynnyrch. Mae gan y rhan fwyaf o'r prif gwmnïau diodydd bresenoldeb ar Facebook neu Twitter - .
  • Yr ydw i'n reit ymosodol. Os nad ydw i'n cael rhywbeth yn iawn yr ydw i'n rhegi a chicio - Gareth Thomas y chwaraewr rygbi yn dysgu canu'r delyn. Cwynodd hefyd bod ei fysedd yn brifo a swigod yn gwaedu.
  • Yr ydw i wedi bod mor flinedig dydw i ddim wedi gweld neb ond ar Facebook mae petha'n wallgof - Jamie-Lee Williams 25 oed o'r Beddau ger Pontypridd sydd newydd ei dewis yn Miss Galaxy International 2012. Hi yw'r drydedd o Gymru i ragori yn y maes hwn gyda Alize Mounter, hefyd o Bontypridd, yn Miss England a Chloe-Beth Morgan yn Miss Universe.

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.