Medde nhw
Casgliad o sylwadau a welwyd yn y wasg ac a glywyd ar y cyfryngau Cymreig yn ystod yr wythnos.
- Rwy'n gobeithio bod pobl Cymru yn gallu dangos mwy o barch i'w gilydd yn eu cymunedau - y Prif Weinidog yn ymateb i'r helyntion yn ninasoedd Lloegr.
- Mae'n anodd meddwl am unman gwell i fynd os ydach chi'n mwynhau unrhyw agwedd o'r diwylliant Cymraeg a chwmni pobol sydd - er gwaetha'r holl gellwair am Risiart a Glenys - yn halen y ddaear - yn dadlau bod £17 yn dâl rhesymol am fynediad i'r Eisteddfod Genedlaethol.
- Benedictus Wrecsam - pennawd dalen flaen 'Y Goleuad' uwchben erthygl am lwyddiannau Eisteddfod Wrecsam.
- Fydda i ddim yn mynd o gwmpas yn galw fy hun yn Ail Ddafydd ap Gwilym - Rhys Iorwerth, bardd y Gadair yn Wrecsam.
- Mewn ambell i bentref eisteddfod flynyddol yw'r unig beth blynyddol sydd yn cael ei gynnal - Megan Jones, cadeirydd Cymdeithas Eisteddfodau Cymru, yn dadlau dros warchod Eisteddfodau bychain.
- Gwyliais gyngerdd agoriadol a chyngerdd cloi Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam. Beth sydd wedi digwydd i'r traddodiad Cymreig gwych o ddechrau cymeradwyo far a hanner cyn diwedd eitem - Llythyr yn y 'Western Mail' ddydd Mercher gan John Lewis, Aberdâr, dan y pennawd 'Traddodiad coll'.
- Gwastraff amser yw i unrhyw un ei darllen - John Meurig Edwards, Aberhonddu, yn egluro / cwyno mewn llythyr yn bod dalen olaf ei stori yng nghyfrol Cyfansoddiadau Eisteddfod Wrecsam wedi ei hepgor. "Roedd darn mwyaf arswydus y stori ar y dudalen goll hefyd," meddai.
- Fydd Eisteddfodwyr ddim hanner mor llesol i chi â Gavin a Stacey - Madog Mwyn yn 'Y Cymro' yn amau faint o fudd a ddaw i'r Barri yn sgil ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol a Bro Morgannwg y flwyddyn nesaf.
- Yr wythnos ddiwethaf mi weles i hyd yn oed gôr o bensiynwyr yn symud fel tasen nhw'n canu'r gân foreol yn Llangrannog. Weles i erioed y fath beth hurt yn fy nydd - Lefi Gruffudd yn gwaredu at gystadleuwyr yn ia-hŵio, stampio traed, neidio o gwmpas a gwneud campau.
- Yr oedd yn ddiwrnod da - Yu Tao, aelod o dîm godi pwysau Olympaidd China a fydd yn ymarfer ym Mhrifysgol Bangor ar gyfer gemau 2012 yn dilyn taith o gwmpas Castell Caernarfon ac Eryri.
- Garddwr llysiau ydw i - y cyn Brif Weinidog Rhodri Morgan a fydd yn sôn am ei ddiddordeb mewn garddio ar Byw yn yr Ardd, S4C cyn bo hir. Cyfaddefodd mai ei broblem fwyaf yw tyfu pethau mor agos at ei gilydd nad oes digon o le i chwynnu.
- Hyd yn hyn mae'r creision yn gwneud yna dda ond dydym ni ddim eisiau cael ein categoreiddio fel cwmni creision yn unig - Geraint Hughes o gwmni creision newydd 'Jones Crisps' ym Mhen Llŷn sydd hefyd yn gobeithio gwerthu dŵr, teisennau a bisgedi dan yr un enw.
- Dydi'r parciau cenedlaethol ddim eisiau peilons a Sir Fôn ydi'n parc cenedlaethol ni - dydym ni ddim am iddo gael ei ddifwyno am byth - Will Edwards, cangen Môn yr NFU yn gwrthwynebu codi peilonau trydan ar yr ynys.
- Bydd angen imi wneud rhywbeth go arbennig - Gavin Henson ddydd Iau wrth obeithio am gêm yn erbyn Lloegr yfory.
- Es i ffwrdd a dysgu sut mae'r Rwsiaid yn ei wneud o, gan eu bod yn parhau i weithio trwy eu gaeafu - , saer maen a fu'n gweithio i adfer hen felin ddŵr Talgarth ym Mhowys yn dysgu sut mae gweithio drwy oerni'r gaeaf.
- Dichon y bydd sicrhau Cofnod cwbl ddwyieithog yn galluogi ambell i ysgolhaig ar ddiwedd y ganrif i eistedd yn y Llyfrgell Genedlaethol yn pori trwy'i dudalennau, ond os na fyddwn yn canolbwyntio ein hymdrechion dros y blynyddoedd nesaf ar gynyddu'r defnydd a wneir o'r iaith gan drwch y boblogaeth, go brin y bydd gair o Gymraeg i'w glywed y tu allan i'w muriau - Roy Thomas, Gwenfô, yn dadlau mewn llythyr yn 'Golwg' nad cyfieithu Cofnod y Cynulliad i'r Gymraeg ddylai gael y flaenoriaeth yn ystod cyfnod o gynni ariannol.
- Yr oedd Selwyn yn barod i fynd, ac roedd cymylau'n hel am gopa'r Wyddfa - Karen Owen yn cofio Selwyn Iolen yn 'Y Cymro'.
- Ambell waith pan rwy'n cerdded o gwmpas y dref, fe wna i stopio a syllu ar y cloc gan feddwl beth sydd wedi'i gyflawni, mae'n wych - y Cynghorydd Glenda Jenkins a fu'n flaenllaw mewn ymgyrch i .