³ÉÈËÂÛ̳

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Eisteddfod Nia - dydd Sadwrn

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Blogiwr Gwadd | 06:19, Dydd Llun, 8 Awst 2011

Bu Nia Lloyd Jones yn blogio o gefn llwyfan gydol yr wythnos yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, a'r Fro 2011.


Nia Lloyd Jones


Dyma ei chyfraniad olaf . . . tan tro nesaf . . .

Gair i gall cyn dechrau - peidiwch byth â lladd ar y wraig. Dyna'n union wnaeth Trefor Pugh o Drefenter ger Aberystwyth yng nghystadleuaeth goffa Lady Herbert Lewis lle'r oedd o'n canu alaw werin anghyfarwydd i mi, Castiau Gwraig ac yn cwyno ar ei fyd yn y penillion cyntaf, cyn gweld y goleuni ar ddiwedd y gân a sylweddoli pa mor lwcus oedd o i gael gwraig o gwbl!

A llongyfarchiadau mawr iddo ar ennill y gystadleuaeth hon hefyd.

Dwi wedi sôn yn barod am 'y dwbl' sydd yn gysylltiedig â'r Eisteddfod yn Wrecsam, ac un arall sydd wedi llwyddo i gyflawni dwbl - a hynny o fewn yr un gystadleuaeth ydi Carwyn John sydd wedi ailadrodd ei gamp yng Nghasnewydd yn 2004 ac ennill eto Wobr Goffa Llwyd o'r Bryn

Nia a Carwyn John

.
Wrth gwrs nid ar chwarae bach mae rhywun yn gwneud hyn ac mae Carwyn rŵan yn ymuno â chriw dethol iawn yn cynnwys y diweddar Stewart Jones a Sian Teifi - sy'n hyfforddi Carwyn.

Mae mynd ati i ffurfio côr meibion newydd yn dipyn o dasg. Yn ogystal â chael digon o aelodau a threfnu lle i ymarfer mae angen meddwl am enw.

Un na chafodd drafferth yn y byd ydi Elis Gruffydd. Casglodd griw ynghyd sydd yn cynnwys rhai o Gaerdydd a gorllewin Cymru, ymarfer yn nhÅ· ei fam a dewis enw bach slic iawn, Animato.


Elis  a Gareth, aelod o'r cor, gyda Nia


Ydi, mae animato' yn derm cerddorol ond o dorri'r gair yn ddarnau mi gewch chi "a ni 'ma to"!

Ond i chi gael gwybod y gwir - yr enw cyntaf ddaeth i feddwl Elis oedd Côr Blimey ond gan nad oedd ei fam yn or-hoff o'r enw yma bu'n rhaid ail feddwl.

Ta waeth, llongyfarchiadau mawr i Elis ac Animato ar ennill y gystadleuaeth i gorau meibion rhwng 20 a 45 o leisiau - a hynny ar eu cynnig cyntaf erioed.

Uchafbwynt arall heddiw oedd cystadleuaeth y Rhuban Glas a llongyfarchiadau mawr i Gwyn Morris o Aberteifi ar ennill. Ac yn ogystal a bod yn unawdydd talentog iawn mae Gwyn hefyd yn aelod o Gôr Undebol Ar Ôl Tri ac Animato!

Ennill y Rhuban Glas

Y gystadleuaeth gorawl olaf ar lwyfan y Brifwyl eleni oedd cystadleuaeth y corau meibion mawr - dros 45 mewn nifer a'r côr ddaeth i'r brig eleni oedd Côr Meibion Rhosllannerchrugog ac yn naturiol roedden nhw wrth eu boddau a braf iawn oedd cael sgwrs hefo Len Gilpin sy'n aelod ers 1948.


A dyna ni; wythnos arall o holi ar ben.
A sôn am wythnos dda oedd hi. Cyfle i weld hen ffrindiau a chreu llu o rai newydd.

Diolch eto i bawb fu'n fodlon sgwrsio hefo fi am y byd â'i bethau ac os byw ac iach mi gwelai chi eto ym Mro Morgannwg flwyddyn nesaf.

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.