Tua Bethlem dref y buon ni'n teithio drwy'r wythnos, ac roedd na fintai gref o ffermwyr ifanc yn aros amdanon i ganu carolau....
...heb anghofio ein seren am y dydd - Heledd Cynwal, a dreuliodd ei phlentyndod yn y pentref. Pwy arall oedd yno? Wel neb llai na Mair - Mair Cooper, oedd yn adnabod yr ardal yn dda ac yn gwybod am draddodiad a phoblogrwydd y pentref hynod hwn yr adeg yma o'r flwyddyn. Sut ffordd well o ddathlu naws y Nadolig na gyda Mair ar un llaw a llond cae o fugeiliaid ar y llaw arall!
O fferm dyrcwn OP Hughes yn Nasareth i gartref Dan Puw yn Y Parc i dynnu cyflaeth, o stabal driniaeth y milfeddyg yn Llambed i'r cast o ddoethion, bugeiliaid, angylion ac asyn unig Casblaidd, heb os, 'roedd hi'n daith i'w chofio.
Dydd Iau y daith. Deffro yn Llambed a theithio i Bentre Bach i gwrdd a chymeriadau Caffi Sali Mali. 8 ysgol leol yn dotio at gael cwrdd a Bili Bom Bom a'r dyn ei hun, Sion Corn.
Troi trwyn y car nol at Lambed i gwrdd a'r milfeddyg, James Thomas ac ambell i gwsmer ffyddlon...a'u perchnogion!
Golwg da ar gotiau'r cwn, ond beth am fy nghot i? Ymlaen i siop trin gwallt yn y dre am ychydig o dips Nadoligaidd gan Delyth a Tony.
Pawb yn edrych ar eu gorau ac yn barod am wledd i'r llygad a balm i'r galon. Ymlaen a ni i Gasblaidd...
O Lanrwst i'r Parc ger Y Bala, ac i gartref Dan Puw, arweinydd y cor adnabyddus - Meibion Llywarch. Do, mi gawsom ambell bennill gan y criw oedd wedi dod ynghyd i'n croesawu...
...ond prif fwriad yr ymweliad oedd i gael gwers ar wneud cyfleth - taffi neu losin sydd wedi goroesi'r cenhedlaethau yn yr ardal arbennig hon a sydd yn rhan o draddodiad y Nadolig. Mae Lona, gwraig Dan, yn giamstar arni ac yn gwybod be' 'di bon braich!
Teulu Dan a chyfeillion. Mi alwodd Dilwyn Morgan draw am sgwrs hefyd - mae'n well jocar na thynnwr cyfleth! Diolch i Dan a'r teulu am y croeso cynnes - ac am y cwdyn o gyfleth ar gyfer y daith i Fethlehem!
Ar ol ffarwelio a'r tyrcwns yn Nebo, ymlaen a ni i Borthmadog i gwrdd a Phrifathro Ysgol Eifion Wyn, Kenneth Hughes, ac i fwynhau perfformiadau byr o ddrama Nadolig yr ysgol.
Llanrwst oedd yn galw b'nawn Mawrth, a meddwl am ein boliau eto wrth ymweld a Dyddgu ac Arwel y cigydd i ofyn am gyfrinachau paratoi'r sosej mewn cig moch...
...a rysait yr ysgewyll a'r panas yn y siop lysiau - w, a sws hefyd!
Mi ddechreuodd y daith Nadolig yn Nasareth, Dyffyn Nantlle ddydd Llun y 15fed a'r gobaith ydi cyrraedd Bethlehem yn saff Ddydd Gwener y 19eg! Dyma luniau o'r daith hyd yn hyn...
Dydd Llun...
Y car ffyddlon yn barod i'n cludo o Nasareth i Fethlehem. Ychydig brafiach nag ar gefn ebol asyn efallai?!
Cartref Eluned Owen sydd yn gwneud dros bedail mil o fins peis yn flynyddol! Ein seren Ddydd Llun oedd neb llai na'r canwr Bryn Fon sydd yn byw yn yr ardal, ac yn ogystal a chanu ac actio mae'n dipyn o gogydd hefyd!
Be fyddwch chi'n ei gael i ginio 'Dolig? Mae O P Huws, Nebo yn magu tyrcwns ar gyfer ei ffrindiau ac aelodau'r teulu, a mae'n cyfaddef ei bod yn anodd ffarwelio a'r cymeriadau pluog ar ol eu magu a'u bwydo dros gyfnod o 20 wsnos.
Rhan o weithgaredd hanfodol y Nadolig ydi'r siopa am anrhegion i annwyliaid ac mi gafwyd nosweithiau arbennig yn Y Bala a Rhuthun i ddathlu a chreu naws Nadoligaidd. Mi ges i gyfle i gwrdd a rhai ohonoch dros ambell fins pei...
Goleuo'r goeden ar sgwar Rhuthun.
Maer Rhuthun, y llenor Hafina Clwyd.
Robat Arwyn yn rhoi ychydig o newyddion diweddaraf cor Rhuthun i ni.
Seindorf Harlech yn diddori trigolion Y Bala.
Genod y raffl yn Y Llew Gwyn yn Y Bala.
Efallai y dyliwn i ei galw'n Ffair Aeafol Llanelwedd. Yn y bore bach roedd hi'n 7 gradd o dan y pwynt rhewi. Ond wrth lwc yng nghanol y gwair cynnes yn sied y gwartheg y g'nes i gyfarfod Catrin Edwards, fferm Penbryn, ger Llanrwst, merch ifanc -yn wahanol i'w brodyr - sydd wedi gwirioni ar ffermio. Fe fuon ni'n sgwrsio efo'n gilydd ar raglen Eleri a Daf, ac yn hytrach na dewis Can cyn Cychwyn, roedd o'n fwy addas iddi hi ddewis Can cyn Carthu - Frisbee a Heyla.
Yn y babell grefftau, tu ol i fwrdd oedd yn gwegian o dan bwysau llechi Stiniog, fe ddois i ar draws Alan. Hogyn o Loegr yn wreiddiol ond yn gall iawn, fe ddaeth i Gymru a chael hyd i wraig sydd efo fo rwan yn y busnes o greu crefftwaith amrywiol allan o lechi Blaenau Ffestiniog. A bellach mae Alan yn cytuno efo'r Tebot Piws, mai Stiniog yw ei "seithfed ne'"
Fi yng nghwmni un o'r landed gentry! Richard Rees, wrth gwrs, "best of breed" heb os, ac yn dal i lenwi'r Sosban efo cerddoriaeth wych bob bore Sadwrn ar Radio Cymru.
'Dwi ddim yn sicr pa mor dal ydi "tall". Mae'n siwr fod chwe troedfedd a thair modfedd yn nhraed eich sannau yn ddigon agos!
Do, fe welsoch chi Catrin yn gynharach, ond dyma hi efo'r anifail a enillodd y wobr gyntaf i Catrin- croesiad o Belgian Blue a Limousine. A finna' wedi meddwl erioed mai car hir du oedd Limousine!!
Cystadlu am y tro cyntaf, ac ennill am y tro cyntaf yn adran y moch. Dyna hanes Liz Shankland sy'n cadw tyddyn yn ymyl Merthyr Tydfil. Ac wrth gwrs roedd yn rhaid i'r mochyn o Fon gael ei lun efo'r enillydd.
Nos Wener diwethaf roedd na barti mawr mewn tafarn yn y brifddinas i ddathlu'r ffaith fod Menter Caerdydd wedi bod yn hyrwyddo'r Gymraeg a Chymreigrwydd ers 10 mlynedd.
Balwns, bwyd, a band jazz - roedd o'n dipyn o barti, a fi gafodd y cyfrifoldeb i rannu'r hwyl efo Cymru gyfan drwy gyfrwng rhaglen Geraint Lloyd ar Radio Cymru.
Un o ferched enwog y ddinas ydi Heather Jones ac mi oedd hi yno yng nghwmni Sandra de Pol, o Archentina yn wreiddiol, ond sydd bellach wedi ymgartrefu yn y ddinas ers blynyddoedd.
"Mae na lawer mwy o gyfle i fwynhau eich hun drwy gyfrwng y Gymraeg yn y ddinas bellach- diolch i'r Fenter." Dyna oedd barn y ddwy.
Os 'da chi am fwynhau Hwyl yr Wyl Aeaf - dewch i'r brifdinas ar Ragfyr y10fed. Mae Menter Caerdydd wedi trefnu fod Misdar Urdd, Norman Price, Superted a Sali Mali yn mynd i fod wrth law i'ch cyfarch rhwng 4 a 6.
Gyda llaw 'dwi'n gobeithio mwynhau mins pei yng nghwmni Sali Mali pan fydda i'n ymweld a Pentrebach yn ystod fy nhaith Nadolig o Nasareth, ger Nebo, i Fethlehem, SIr Gar. Ond cyn hynny, dwi'n gobeithio'ch gweld chi yn siopa'n hwyr yn Y Bala Nos Iau ac yn Rhuthun ddydd Gwener pan fydd Hafina Clwyd yn goleuo'r sgwar a'r goeden.