'Sgynnoch chi ryw syniad lle mae'r fan? Yr ateb ydi milltir o Soar y Mynydd, uwchlaw Tregaron. Ond beth am y lluniau yma...
Un o afonydd enwoca' Cymru, ac fe fydda' i'n pysgota ac yn darlledu ar lan yr afon yma yn y dyfodol agos. Ond ym mhle?
Castell Newydd Emlyn? Nage! Dyma lle bydd y ffermwyr ifanc yn cynnal rasys llygod ar Ebrill 3ydd. Mwy cyffrous o lawer na gwylio Lewis Hamilton yn chwyrnellu o gwmpas y trac. Ac fe gewch chi fwynhau'r holl gyffro a'r hwyl ar raglen Geraint Lloyd Nos Wener Ebrill 3ydd.
Ym mha Gwm mae'r tai yma? Yr ateb ar raglen Jonsi pnawn Gwener y trydydd, pan fydda' i yn siarad efo pobol y cwm. Ac yn cael cwmni cerddorol pedwarawd lleol.
Cwstardleuaeth! Heulwen ydi enw'r gogyddes, yng nghantîn yr ysgol sy'n dathlu ei phen-blwydd yn 130 oed fore Gwener Ebrill 3ydd, ar raglen Nia. Fe fydda i yno yng nghwmni cyn ddisgyblion, ac yn cael llond powlen o gwstard Heulwen cyn gadael. Ond lle mae'r ysgol? Atebion cyn bo hir!
Os 'da chi am weld y fan a fi yn eich ardal chi, anfonwch ebost at
hywel@bbc.co.uk 'Dwi'n chwilio am dalentau lleol - unigolion, partion cantorion, offerynwyr, grwpiau, deuawdau. Fe rown ni lwyfan cenedlaethol i'r talentau lleol ar Radio Cymru! Welai chi yn fan yn fuan.
'Roedd y Llew Du, Talybont, yn orlawn Nos Wener......
...ar gyfer lanshio dau o lyfrau'r Lolfa. 'A Gymri di Gymru' gan Robat Gruffydd, a nofel Geraint Evans 'Y Llwybr'. Er rhyddhad i'r gynuilleidfa fu dim rhaid iddyn nhw ganu i gyfeiliant triawd jazz Harriet Earis.
Erbyn hyn mae 'na dros drigain a phump o bapurau bro yng Nghymru ac mae Papur Bro cylch Dinefwr, y Lloffwr, yn mynd o nerth i nerth, gyda'r cylchrediad, a maint y cylchgrawn, wedi cynyddu. Penblwydd hapus gyda llaw i'r Lloffwr yn ddeg ar hugain oed eleni. O'r chwith i'r dde Gwenda Rees, Mansel Charles a Dafydd Jones.
Os oes gennych stori i'r Lloffwr ebostiwch ylloffwr@papurbro.org
Mae 'na dymor o raglenni ar ³ÉÈËÂÛ̳ Cymru ar hyn o bryd, sy'n edrych ar blentyndod.
Dyna pam yr oeddwn i, am hanner awr wedi wyth fore Llun yng nghanol sŵn a hwyl y plant bach yn Meithrinfa Miri Mawr, yn Ystum Taf, Caerdydd yn sgwrsio efo un o'r perchnogion, Wendy Wylie.
Cyn athrawes ydi Wendy, sy'n cofio Caleb, a Dan Dŵr, a'r dyn Creu-cymeriadau y rhaglen deledu boblogaidd, Miri Mawr. Ond bellach mae hi a'i phartner busnes Meinir Williams, a'u tîm o gynorthwywyr yn gyfrifol am ddiddanu'r plant-drwy'r dydd! Wyddoch chi be', mae pobol yn cael medalau am lai!
Ddiwedd yr wythnos fe fydda i yn Machynlleth yng nghwmni Timothy Evans, ac erbyn Nos Wener yn y Llew Du Talybont, a phwy a ŵyr, os ca' i wahoddiad, yn eich ardal chi yn fuan. Cysylltwch efo fi drwy e-bost: hywel@bbc.co.uk
Naw mlynedd yn ôl fe sefydlodd y cyfansoddwr Guto Puw Wŷl Gerdd Bangor, gŵyl sydd, fel Guto ei hun, yn gwthio'r ffiniau cerddorol.
Yn ystod yr Wŷl fe ddaeth criw ifanc at ei gilydd i ffurfio côr cymunedol,
ond er i mi gynnig fy hun fel canwr-bath, profiadol, 'doedd na ddim lle i mi yn
rhengoedd y baswyr. Ai dyna pam mae 'na wen gynnil ddieflig ar wyneb Guto
Cynhaliwyd nifer i weithdai hefyd yn ystod yr WÅ·l, gyda phlant Ysgol Pendalar
yn adrodd stori'r Castell, drwy gyfrwng cerddoriaeth a synau electronig.
Gyrru'r fan wedyn dros yr uchelgaer uwch y weilgi i Fôn ac i bentref Rhosneigr
Cartref Hughie Hughes a'i Austin A35 sy'n dathlu ei phenblwydd yn ddeugain a phedair mlwydd oed. Ychydig dros £400 o bunnau dalodd Hughie amdani, ond hyd yn petae chi'n cynnig £4,000 o bunnau iddo fo-tydi'r trysor yma ar bedair olwyn
ddim ar werth.
Gyda'r nos roeddwn i yn Theatr Fach Llangefni, lle roedd Mannon Wyn Williams yn cynnal gweithdai efo aelodau ifanc y Theatr, tra 'roedd Tony Jones yn cyfarwyddo cynhyrchiad diweddara'r Theatr Fach 'Dedwydd Briodas' fydd i'w gweld nos Fawrth Mawrth 24ain.
Gyda llaw arwyddair y Theatr ydi'r cyfieithiad yma o eiriau Shakespeare
"Fel cysgodion ydym, fel cysgodion yr ymadawn." Rhybudd amserol i unrhyw
gyflwynydd!
Yr wythnos nesa fe fyddai yn ymweld a Machynlleth a Thalybont ac os 'da chi am i'r fan a fi alw acw anfonwch ebost i hywel'bbc.co.uk.
Am gyfnod fe fu Delme Lloyd, perchenog y Llanina Arms, rhwng Aberaeron ac Aberteifi yn chwarae rygbi yn Chicago. Fe alwodd yn Lerpwl ar ei ffordd yn ôl i Gymru, er mwyn gweithio fel hyfforddwr ffitrwydd i aelodau tîm peldroed y ddinas.
'Dwn i ddim os ydi 'You'll never walk alone' yn un o'r caneuon mae o'n eu canu
efo'i fand, ond fe ganodd o gân Hugh Chiswell am y Cwm yn fyw o'r dafarn ar raglen Jonsi , a phawb yn cytuno ei bod hi'n dda cael ei weld o adre fel hyn.
Mae tafarn y Glanrafon, yn Nhalgarreg wedi bod yn gyrchfan, cantorion Cymru ers blynyddoedd ac yn ol y perchnogion Hywel a Megan, mae o fel ail gartre i John ac Alun a Hogia'r Wyddfa.
Fe fuo ni'n trafod pob math o bynciau ar raglen Geraint Lloyd- y casgliad anhygoel o 700 o jygia' sy'n crogi o do'r dafarn, llyfr Lloyd Jones ar hanes Talgarreg a brechdanau 'samon' Megan, oedd mor flasus a'r rhai yr oedd Nain yn eu paratoi ar gyfer te'r gweinidog ers talwm.
Y Celtic Caffi ydi'r lle i gyfarfod yn Aberaeron, ac am hanner awr wedi deg ar ei ben fe ddaeth Betti Davies, Talsarn, Laura Lewis,Cilcennin a Gillian Harries, Ciliau Aeron, drwy'r drws yn barod am goffi cynta'r dydd a sgwrs am y papur bro Llais Aeron. Mae na dros drigain o bapurau bro yng Nghymru, a 'dwi'n gobeithio cael sgwrs efo pob papur bro yn ei dro, er mwyn rhoi sylw cenedlaethol i'r straeon lleol.
Felly os oes na groeso i'r fan a fi yn eich ardal chi, anfonwch e bost at hywel@bbc.co.uk.
'Dwi'n cofio mynd am drip bysgota efo Yncl Frank pan oeddwn ni tua'r un maint a brithyll go fawr, a'r cwbwl wnes i ddal- oedd annwyd! Petawn i yng nghwmni Moc Morgan, un o bysgod mwyaf Cymru, ellan baswn i wedi cael gwell lwc. Yn ddiweddar fe ges i ei gwmni o a'i ffrindiau ar lan y Teifi yn Llanio, ar ddechrau'r tymor pysgota.
Ar Fawrth y chweched, roeddwn i'n dathlu diwrnod y llyfr yng nghwmni Llyr Gilmor Jones, Pennaeth Ysgol Maelgwn, Cyffordd Llandudno, ac fe gafodd Tesni Kerens, sy'n hoffi llyfrau am geffylau a Iolo Wyn James sydd wedi gwirioni ar rygbi a Shane Williams, a Fflur Medi Owen, sydd wrth ei bodd efo cwningod, fe ddaru'r tri ddewis cân ar raglen Eleri a Dafydd- Trons dy Dad, gan Gwibdaith Hen Fran.
Gwibio draw i Landudno wedyn a threulio dwy awr ddifyr iawn yng nghwmni arweinydd Cor Maelgwn, Trystan Lewis, sydd wedi agor siop lyfrau yn Madog Street. Mae o a'i wraig Llinos, wedi eu hamgylchynu gan ffrindiau sydd nid yn unig yn gofalu am y siop os oes raid, ond yn fwy na hapus i fagu Leusa y babi newydd.
Mynd ar goll fu fy hanes yn y prynhawn, rhwng Bylchau a Dinbych. Chwilio 'roeddwn i am griw y Gadlas, yn eu swyddfa mewn pentref twt, o'r enw Clwt. Llwyddiant o'r diwedd a sgwrs dros baned efo Hywel Evans, y ffotograffydd, Robert Melfyn Williams, Ilyd Davies ac Emlyn Williams.
Mi faswn i'n fwy na hapus i ddwad i'ch ardal chi. Felly os oes ganddoch chi stori, cysylltwch efo mi hywel@bbc.co.uk.