Cefais her ar raglen Eleri a Dafydd bythefnos yn ôl i ysgwyd llaw gyda 2,009 o bobol cyn diwedd yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Bala.
Erbyn bore 'ma am hanner awr wedi naw, 'roeddwn i wedi ysgwyd llaw gyda 999 o bobol, ac erbyn deg - yn fyw ar y rhaglen o'r Sioe - 'roeddwn yn cyflwyno Dafydd ac Eleri i Catrin Evans o Dalgarreg.
Ei llaw hi oedd y milfed i mi ei ysgwyd ers dechrau'r ymgyrch.
Felly mil a naw o ddwylo i'w hysgwyd a phythefnos i fynd cyn diwedd yr 'hala-BALA-lw' diwylliannol yn y Gogledd.
Dim problem o gwbwl, gan fy mod yn mynd i Å´yl y Ffin cyn hynny yn yr Wyddgrug ddydd Sadwrn.
Ymhen yr awr fe fyddai 'n gadael y Sioe ac yn troi trwyn y fan i gyfeiriad Caerdydd.
Diolch i bawb am eu croeso gwresoga glawog i mi yn Llanelwedd, a phob dymuniad da i Geredigion, noddwyr sioe 2010.
Byddai Owen Griffiths yn hoffi darlledu, medda fo.
A phan gawson ni sgwrs efo'n gilydd roedd hi'n amlwg fod y bachgen ifanc sy'n mynychu Ysgol y Ddolen, Penybont-ar-Ogwr yn gwybod dipyn am ffilmiau. Yn enwedig Jaws 1, Jaws 2 a Jaws 3!
Digwydd taro ar y chwaraewr rygbi rhyngwladol ar y maes, yn ochrgamu'r pyllau dwr. Ond oeddech chi'n gwybod y ffeithiau canlynol amdano?
- Pan oedd o'n adnewyddu ei dÅ·, fe benderfynodd roi carreg yn y mur efo tair pluen tywysog Cymru arni. Ac o fewn dim fe gafodd glywed ei fod wedi ei ddewis i chwarae i Gymru.
- Fo ydi'r chwaraewr cynta o dîm rygbi Aberaeron i chware dros ei wlad.
- Mae ganddo Golden Retriver o'r enw Sam.
- Ei law o oedd y rhif 859 i mi ei hysgwyd.
Ond 'nes i ddim gwasgu'n rhy galed rhag ofn i mi gael hergwd i'r mwd!
Wyddoch chi be'?
Mae fy mywyd i'n fêl i gyd ers i mi ddŵad i'r Sioe yn Llanelwedd. Ac mae 'na dunelli ohono fo yma.
Mae 'na fêl i'w fwyta, lluniau i'w mwynhau wedi eu gwneud o gŵyr y gwenyn, a hyd yn oed canwyllbrennau wedi eu llunio o'r cŵyr.
'Melys fedd y melyn fêl' - mae hwnnw yma hefyd i'w sipian yng nghwmni hen ffrind, .
Erbyn hyn mae hi wedi symud i Benllŷn, a chyn bo hir mae hi'n mynd i ail afael yn y brwsh a'r paent a pheintio lluniau o harddwch un o ardaloedd prydferthaf Cymru. Tipyn o ddeud gan un o Fôn.
'Sgwn i, gyda llaw, fydd y llun yma'n ymddangos yn Western Mêl?
Bill Fowlie oedd un o'r moch, a fi oedd y llall.
Er bod gwreiddiau Bill yn yr Alban, mae o'n byw ers blynyddoedd yn Braemore, Berffro, ac wedi bod yn dangos moch ers pan oedd o'n hogyn ifanc, ac wedi cael dipyn o lwyddiant.
A be 'di cyfrinach y llwyddiant hwnnw? Cwestiwn da. Ac ateb Bill oedd - gwymon y môr. Mae o'n ei ychwanegu o at eu bwyd.
Ond mae ymroddiad hefyd yn bwysig iawn. Fe gododd am hanner awr wedi pedwar i baratoi'r baedd ar gyfer y gystadleuaeth amser cinio ddydd Llun.
Ac unwaith eto mi gafodd y cerdyn coch - ac yn wahanol i chwaraewyr peldroed, mae cystadleuwyr y sioe, yn hapus iawn os gawn nhw'r cerdyn hwnnw!
'Roedd band arian Crwbin wedi dwad draw i sioe Bancffosfelen. Ac fe fydd Julian Jones yr arweinydd yn chwifio'i faton, ac yn doethinebu yn ystod cystadleuthau'r bandiau yn yr Eisteddfod hefyd. Aled Lloyd Davies ddudodd unwaith "Mae eisteddfodau cefn gwlad Cymru, yn bwysig, gan mai y nhw sy'n bwydo'r 'Steddfod Genedlaethol."
A 'dwi'n siwr y byddai trefnwyr Sioe Fawr Llanelwedd yn cytuno fod cyfraniad y sioeau bach, yn bwysig hefyd.
Dewch draw, i ysgwyd llaw, yn y sioe> Neu cysylltwch efo fi drwy ebostio hywel@bbc.co.uk.
Oes 'na anghenfil yn nyfroedd oer a thywyll Llyn Tegid? Ble mae'r ceffyl Bendigo wedi ei gladdu? A sut fath o gylchgrawn sy'n mynd i ymddangos erbyn y 'Steddfod wedi ei gynhyrchu gan ferch o'r Bala? Fe gewch chi'r atebion i gyd ar y rhaglen Bala Wa!, am 6 o'r gloch nos Fercher y nawfed ar hugain o Orffennaf. Ac un cwestiwn arall fydd yn cael ei ateb ydi hwn- Pam ddaru'r lori sgrap oedi am sgwrs pan ddechreuodd
Dilwyn Morgan son am ei lyfrau jocs.
'Dwi'n dwad yma ers 1947" meddai Enid, un bore tu allan i'r gwesty yn Llangollen, lle 'roedd hi'n aros. "Mae'n hyfryd gweld gwledydd y byd yn cyfarfod eu gilydd am wythnos, a phawb yn cyd-dynnu." Ac o dan faneri lliwgar y gwahanol wledydd yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, fe ges i gyfle i gyfarfod aelodau o gor ifanc o Pretoria, ensemble bywiog o Singapore, a'r chwiorydd Magnolia o Louisiana. Felly mae'r ymgyrch ysgwyd llaw, wedi mynd i bedwar ban byd, ac 'roedd y criw ifanc yma o Gymru yn awyddus i estyn eu dwylo dros y mor hefyd.
"
Ar wahoddiad Des Davies, trefnydd Gwyl Aberteifi, fe aeth y fan a fi, i'r fan a'r lle
i gyfarfod, y llefarwyr , a'r cantorion, ond yn bwysicach na dim, i feirniadu. Ie! Fi oedd beirniad answyddogol y salad, y pice ar y man, a'r treiffl. Ac heb os, 'roedd genod y gegin yn yr Wyl, yn llawn deilyngu'r wobr gyntaf.
Er waetha'r ffaith ei bod hi'n debyg i law ( gweler yr ymgyrch uchod er mwyn gwerthfawrogi'r joc yna!) fe ddaeth cannoedd draw i Farbeciw Ysgol Gynradd Aberystwyth, sy'n dathlu ei phenblwydd yn saith deg oed eleni, gyda llaw..
Tu allan i siop Blodau'r Bedol, Donald yn Llanrhystud, 'roedd na griw o'r ysgol leol, wedi dod draw i ganu ar raglen Jonsi, ac fe ges i chydig o hanes y pentref gan Anti Mary Morgan, a chadeirydd y Papur Bro, John Morris. Dim ond 1980 o ddwylo i'w hysgwyd eto!
Gan fy mod i'n hen law ar siarad efo pobol, 'dwi wedi cael her gan Eleri Sion a Daf Du, i ysgwyd llaw efo dwy fil a naw o bobol cyn diwedd y 'Steddfod y Bala. Ac fe gychwynodd yr ymgyrch ym marchnad Llanelli.
Brian Fowler rheolwr y farchnad oedd y cyntaf.
Yr ail. Mrs Gladys Megan Lewis, sydd wedi bod tu ol i'w stondin, ers 62 mlynedd.
A'r trydydd...Parvez Akhtar....ddaeth draw o Bakistan i Lanelli deng mlynedd ar hugain yn ôl.
Yn Theatr Twm o'r Nant fe ges i sgwrs efo'r actores, Gaynor Morgan Rees, am y theatr ar ei newydd wedd. Fe agorwyd y theatr yn wreiddiol ym 1979 gan y llenor Kate Roberts, ond yn lle te yn y grug, 'roedd na win yn y dderbynfa, i garedigion y theatr oedd wedi mynd draw i weld y newidiadau dramatig.
Mae 'na hanes diddorol iawn i dref Porthmadog, ac ers sawl blwyddyn bellach mae'r pasiant blynyddol wedi bod yn adrodd gwahanol agweddau o'r hanes hwnnw. Eleni
y frwydr yn erbyn y datblygwyr oedd y thema a phan alwais i draw 'roedd Eurwyn Pierce a'r bobol ifanc wrthi'n ymarfer. Eurwyn oedd prif leisydd y grwp Dino and the Wildfires..."amser maith yn o-o- ôl"
Yn Ysgol Tudweiliog mae plant yr ysgol gynradd yn rhan o gynllun newydd Da bryd, lle mae nhw'n yn rhannu bwyd i bobol hyn y pentref, a nhwtha yn eu tro yn rhannu eu hatgofion efo'r plant. Tydi fy atgofion i o fwyd ysgol ddim yn rhai pleserus iawn, arwahan i'r semolina efo jam, oedd yn gymysgedd pinc, arallfydol, blasus.
Ond peidiwch a gofyn fy marn am y bresych mewn bi carb, na'r grefi llawn lympia!