Nid gwyrddni coed yr ardd ym Mrynaman oedd yn amgylchynu Meirion Davies 60 mlynedd yn ôl, ond tân y gynnau mawr yn Korea.
Cafodd ei saethu, ei glwyfo gan fayonet a'i arteithio gan y Tseiniaid, ond rhywsut neu'i gilydd fe ddaeth yn ôl i ddweud ei stori. Ac fe gewch chi glywed y stori honno ar raglen Nia Roberts, fore Mercher ar Radio Cymru.
Neu ewch i wefan Nia i wrando ar y sgwrs yn ei chyfanrwydd.
A chofiwch hefyd am y rhaglen gyntaf mewn cyfres newydd am Y Rhyfel Oer ar ³ÉÈËÂÛ̳ Radio Cymru nos Sul yma'r 1af o Dachwedd am chwarter i saith.
Hwn oedd yr ail arbrawf. Arbrofi ym myd cerddoriaeth gwerin yr oedd y criw bywiog a ddaeth draw i'r ganolfan ym Margam, dan arweiniad Robin Huw Bowen, Sian Thomas, Esyllt Harker ac eraill. Ac fe gewch chi'r hanes i gyd ar raglen Geraint Lloyd am ddeg munud wedi saith Nos Lun.
Ar fy nheithiau ddechrau'r wythnos i Bontrhydfendigaid, fe alwais heibio Tregaron ar ôl clywed fod Dafydd Morgan - sydd wedi treulio 2009 yn gadael i bawb wybod ei bod hi'n bedwar can mlynedd ers marwolaeth Twm Sion Cati - yn gasglwr o fri.
Casglu anifeiliaid mae o, sy'n byw yn Ne America, De Affrica, Ynysoedd y Galapagos, Antartica, De Awstralia, Seland Newydd a Tregaron. Mae nhw'n gallu nofio ar gyflymdra o bymtheg milltir yr awr. Mae 'na tua chan miliwn ohonyn nhw yn y byd - a dwy fil yn Nhregaron, yng nghasgliad anhygoel Dafydd, ei wraig Frances, a'i ferch fach Catrin.
Sôn yr ydw i am y pengwin. Ond pam, casglu pengwiniaid, bach, mawr, wedi ei gwneud o glai, gwydr, pren, wedi ei gweu, pengwiniaid mawr yn sefyll ar y piano, ac mae 'na un yn y casgliad sy'n llai o faint na phen sgriw.
Yr ateb yn syml, yn ôl Dafydd, oedd eu bod nhw'n greaduriaid hoffus iawn sy'n rhoi gwen fach ar eich wyneb bob tro 'dachi'n edrych arnyn nhw.
Yn debyg iawn i Dafydd ei hun fel mae'n digwydd!
Dros y Mynydd Du yr aeth Bois y Blacbord i Frynaman, gan anfarwoli'r lle yn eu can. Ond fe es i lawr yr M4 a throi am Bontardawe i gyfeiriad Gwauncaegurwen, cyn cyrraedd Brynaman Isaf ac yna mlaen i Brynaman Uchaf. Fe ymwelodd George Borrow a'r ardal hefyd, ddwy ganrif yn ol, ond Y Gwter Fawr oedd yr enw bryd hynny, enw a fabwysiadwyd gan y cwmni drama enwog a llwyddiannus..(er mae'n wir i ddweud eu bod nhw wedi colli yn erbyn Cwmni Drama Minny Street, Caerdydd yng nghystadleuaeth ddrama yr Eisteddfod Genedlaethol 2008).
Fe atgoffais Mel Morgans o'r noson honno pan gyfarfyddais Mel, Mair Thomas, Sarah Hopkin a Wyn Churchill yng Nghanolfan y Mynydd Du, ym mhentref Brynaman. Bu Wyn yn dysgu am dros deugain o flynyddoedd yn Llundain ond mae hi bellach wedi dychwelyd i'r ardal i fyw. Merch Lucy Thomas ydi Mair, enillodd Wobr Goffa Syr Thomas Parry-Williams ym 1986, ac mae hithau fel Sara Hopkin, cyn athrawes ddylanwadol yn Ysgol Glanafan , yn llawn syniadau am bobol ddiddorol yn y cylch y bydda i mae'n bur debyg yn eu holi yn y dyfodol ar Radio Cymru.
Mae Mel yn aelod blaenllaw o gwmni Drama'r Gwter Fawr, ac yn gyn brifathro Ysgol Saron. Ond, mae ganddo gyfrinach! Cyfrinach a rannodd efo mi dros baned o goffi. Mae e wedi gwirioni ar jeli coch. Arferai ei dad fynd a jeli coch efo fo o dan ddaear er mwyn cael gwared o flas y llwch yn ei geg, ac ers blynyddoedd mae Mel yn cael jeli coch i frecwast! Cychwyn crynedig i'r dydd, efallai.
Ysgol Penalltau, yn ymyl Ystrad Mynach ydi'r ysgol gynradd Gymraeg ddiweddara i agor ei drysau. Ac os ydi hi yn ymyl Ystrad Mynach, yna mae hi'n agosach o lawer i'r hen waith glo, lle bu tad yr hanesydd Elin Jones yn gweithio.
Ar ol taith o amgylch yr ysgol yng nghwmni Andrea Woods y brifathrawes frwdfrydig, fe ges i beth o hanes diwydiant a diwylliant y cylch yma gan Elin oedd wrth ei bodd fod Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn ymweld a'r ardal yn 2009.
Mae Bryn Saith Marchog ar y ffordd i Rhuthun. Sut cafodd y lle yr enw 'sgwn i? Pwy oedd y saith marchog? Oedd na frwydr yn y cylch? Os wyddoch chi'r ateb cysylltwch a hywel@bbc.co.uk
Toedd Ceiriog Morris ddim yn gwybod yr atebion. Ond wedyn, 'does ganddo fo ddim amser i wneud ymchwil, gan mai hen geir sy'n mynd a'i fryd o.
Y Mini oedd fy nghar cynta' i, nol ym 1964, ac fe gostiodd ffortiwn i mi ar y pryd - £325! Ym 1965 y taniwyd injan y mini coch yma am y tro cyntaf, ac 'roedd na dipyn o waith adfer ar y corff. Ond yn ei gyflwr presennol, ar ol i Ceiriog ei drin a'i drwsio, mae o'n werth tua £4000.
Ar y ffordd yn ôl o'r Gogledd fe fyddai'n aml iawn yn oedi ar y Bannau i gael paned mewn caffi ochor ffordd.
Mae'r te yn gryf a'r frechdan cig moch wedi ei llosgi heb ei thebyg. Beth bynnag y tro yma 'roedd 'na fotor beic wedi ei barcio yn y lle bei na welais i ei debyg erioed o'r blaen.
Nid adeiladu'r beic a wnaeth y perchennog, Marc o Ferthyr, ond creu cerflun cain mewn metel.
Fe wireddwyd y freuddwyd Roc a Rôl gafodd Dewi Pws, ond dwi'n dal i freuddwydio am reidio Harley Davidson yn fy nillad lledr tynn. 'Sgwn i fasa Marc, yn gwerthu ei hen un i mi mewn metel.
Be' 'di'r cysylltiad rhwng y pennawd a'r llun?
Cliw arall?
Dyma record gynta Cwmni Sain sefydlwyd gan Dafydd Iwan a Huw Jones ym 1969.
Yn Llundain a Threfynwy y gwnaed y recordiau cyntaf, a Meic Stevens oedd yn gofalu am yr ochor dechnegol.
Fe gafodd Radio Cymru eu gwahodd i'r parti, ac roeddwn i yn fwy na hapus i fynd yno i ddarlledu'n fyw ar raglen Geraint Lloyd.
Io! Ho! Ho!
Am hanner awr wedi naw y bore canlynol, roeddwn i yn ysgol Chwilog, lle 'roedd y plant a'r staff wedi eu gwiso fel mor ladron ar long Barti Ddu, i ddathlu bywyd a gwaith yr awdur plant mwyaf poblogaidd erioed - T.Llew Jones.
'Eilun llen'. Felna cafodd o'i ddisgrifio gan y diweddar Dic Jones. Ac yn sicr, o holi'r plant,
'doedd na ddim amheuaeth pwy oedd y Brenin-Llew.
Gyda llaw, fe glywais i fod Edward Elias y prifathro yn gwisgo fel mor leidr bob dydd. A wel! Pawb at y peth y bo!
'Roedd hi'n arferiad ers talwm i feirdd fynd o gwmpas Cymru yn adrodd eu barddoniaeth yn y plasdai.
Dyma blasdy ac 'roedd na groeso cynnes iawn i ddau fardd a chriw o bobol ifanc a finnau pan oeddwn i ar fy ffordd i fyny i'r Gogledd.
Y ddau fardd oedd Sian Northey a bardd plant Cymru-y Prifardd Twm Morus, a'r criw creadigol, barddonol, oedd disgyblion Ysgol Uwchardd Tregaron.
Ar ol crwydro o gwmpas y stad, aeth y plant ati i gyfansoddib cerddi am yr hyn yr oeddan nhw wedi ei weld.
Ac yn wir, fe ges innau fy ysbrydoli.
Fe fyddaf i yn dod yn ol
I'r plasdy Ngheredigion.
Pan fydd yr Urdd yn dod a'i Gwyl
I gaeau Llanerchaeron.
Mae rhywun yn darllen fy Mlog. Hwre!
Sut 'dwi'n gwbod. Wel oherwydd 'dwi wedi cael ymateb. Ac mae ymateb, o unrhyw fath, yn well na dim ymateb o gwbwl. Fel dudodd neb llai na Laurence Olivier pan ofynodd rhywun iddo fo a oedd o'n poeni os oedd adolygydd dramau yn feirniadol o'i berfformiad
"Nac ydw" meddai Larry "Y diwrnod y bydda i'n poeni ydi'r diwrnod pan fydd neb yn dweud unrhywbeth amdana i."
Ond 'does dim rhaid i mi boeni, ar hyn o bryd, beth bynnag, oherwydd mae'r ymateb i un o'r blogiau, wedi cyrraedd ar ffurf awgrym - a dyma fo
"Pam nad oes fersiwn Cymraeg o Strictly Come Dancing? 'Rwy'n siwr gallet ti gael Brucie Bonus, am gyflwyno'r rhaglen, ond pwy fyddai'r ferch orau i gymeryd rhan Arlene Phillips?" Diolch am yr ymateb. Neis i'w weld o - i'w weld o neis.
'Dwi'n ffan anferthol o Bruce Joseph Forsyth Johnson (ei enw llawn) ers dyddiau cynnar, Sunday Night at the London Palladium, pan oedd 15 miliwn a mwy yn gwylio'r rhaglen. Yn wir fe ddaeth gwraig un o ddiaconiaid Capel Smyrna, lle 'roeddwn i'n deud fy adnodau bob nos Sul at y gweinidog a gofyn a oedd modd perswadio fy nhad i ddysgu llai o adnodau i mi. A phan ofynwyd iddi "Pam" ei hateb oedd "Wel, 'da ni'm colli dechra' Saturday Night at the London Palladium"
Ond i ddychwelyd at y cwestiwn. Fe allwn i gamu i mewn i sgidiau dawnsio Bruce, oherwydd fi oedd un o ddisgyblion mwyaf disglair Mrs. Iris Henry, yr athrawes Bioleg, yn ei dosbarth dawnsio-ar-ol-ysgol. Y Samba, y Waltz, y Fox Trot, a hyd yn oed y Pasa Doble, efo'r partner iawn, yn gafael yn dyn yn fy mraich, 'dwi'n siwr y gallem greu argraff ffafriol iawn ar y beirniaid. A phwy fyddai ar y panel yn lle Arlene Phillips, oedd rhan olaf y cwestiwn. Beth am, Margaret Williams. Llond stiwdio o steil, a phrofiad - a llond tair stiwdio, o ddillad. Alwyn Humphreys yn lle Len. Rhywun fyddai'n deud ei farn yn ddiofn. Tudur Owen yng nghadair Bruno, a rotweiller wrth tjaen yn lle Craig Revel Horwood. Ond am funud bach. Os mai fi fyddai Bruce Forsyth, mi faswn i isho dewis rhywun i fod wrth fy ochor yn lle Tess Daly. Pwy'n well na Nia Roberts.
Mi fuon ni'n bartneriaid ar radio Cymru am bum mlynedd, 'da ni'n dau o Sir Fon, ac yn deall ein gilydd i'r dim. Ac wrth gwrs fe fyddai bob amser, chwedl Brucie yn "Neis i'w gweld hi-i'w gweld hi-neis!"
'Da chi'n cofio'r gyfres deledu Bonanza flynyddoedd maith yn ol. Cyfres am gowbois yn byw ar ranch o'r enw Ponderosa. Fe ges i f'atgoffa o'r gyfres pan alwais i heibio Geraint Lloyd y diwrnod o'r blaen, yn ei gartre yn Lledrod. Ond nid yno 'roeddwn i, i gael fy nhywys o gwmpas y stad, ond yn hytrach i fusnesu tu ol i ddrysau ei sied enfawr.
Ynghanol y sied mae 'na hen dractor coch - sgerbwd o beth a deud y gwir. Ond gan mai hen dractor ei dad oedd, mae Geraint wedi dechrau ei adnewyddu, a'i obaith ydi gyrru'r tractor yn yr orymdaith fawr yn Sioe Amaethyddol Llanelwedd 2010.
Ddiwedd y mis yma fe fydda i, a Geraint hefyd, yn ymweld a siediau led led Cymru
Mawr, bach, pren, carreg, tô sinc, tô llechi, dim tô o gwbwl- dim ots. 'Da ni am glywed am eich siediau chi...
Felly, os oes ganddoch chi sied ddiddorol, neu os wyddoch chi am rywun efo sied
cysylltwch efo hywel@bbc.co.uk , Ac mi ddo i draw a pharcio'r fan tu allan i'r sied - neu tu mewn, os 'di hi'n sied digon mawr!