³ÉÈËÂÛ̳

Help / Cymorth

Archifau Ebrill 2010

Taro Tant ym Mhontyberem

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 15:59, Dydd Mercher, 28 Ebrill 2010

Sylwadau (0)

Nos yfory fe fydd y carped coch tu allan i neuadd Pontyberem, a chriw o bobol ifanc
talentog Cwm Gwendraeth, yn cerdded i mewn i'r neuadd orlawn i berfformio sioe
newydd sbon, Taro Tant, wedi ei sgwennu gan Gwenda Owen ac Emlyn Dole. Carys Edwards sy'n cynhyrchu'r sioe fywiog ac afieithus. A sut dwi'n gwybod fod na noson gofiadwy yn eich aros chi nos fory? Oherwydd fe es i draw yn gynharach yr wythnos yma i'r Neuadd i weld yr ymarfer ac fe gewch chi'r hanes ar raglen Jonsi pnawn fory rhwng dau a phump ar Radio Cymru.
Mae'r fan a fi yn crwydro eto yr wythnos hon. I'r Alltwen a Mynydd y Garreg heddiw, yna i Aberystwyth a Tal-y-llyn, gan orffen y daith yn y Fedwen Lyfrau yn Llanrwst.
Os 'da chi am i ni alw acw i roi sylw cenedlaethol i'r hyn sy'n digwydd yn eich ardal chi anfonwch ebost i hywel@bbc.co.uk

TAROTANT1.jpg

Marathon o ras

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 10:10, Dydd Iau, 22 Ebrill 2010

Sylwadau (0)

traed_aled_bullman.jpg

Dyma bar o draed fydd yn rhedeg ym Marathon Llundain ddydd Sul. Ond traed pwy ydyn nhw. Ateb ar ddiwedd y Blog.

Buddsoddi yn nyfodol Banc Sion Cwilt
Y diwrnod o'r blaen, ar wahoddiad y pennaeth Helen Hopkins fe es i draw i fro Sion Cwilt, i weld yr ysgol Fro newydd sbon, ac i gael hanes y bonwr Cwilt. Ond lle mae'r ysgol? Wel, os ewch chi i Synod Inn, ac yna dilyn y ffordd i Cei Newydd, mae'r Ysgol ar y chwith, rhyw ddau can llath o'r groesffordd, a'r baneri tu allan yn chwifio eu croeso i chi yn y gwynt.

Mae'r ysgol wedi ei henwi ar ol smyglwr parchus o'r cylch, oedd yn arfer defnyddio traeth Cwm Tydu, i lawr y ffordd i drafod busnes efo'i gwsmeriaid a'i ffrind mawr T. Llew Jones.

Eisoes mae'r ysgol wedi cael llwyddiant yn y rhagbrofion ar gyfer Gwyl yr Urdd fydd yn cael ei chynnal yn Llanerchaeron eleni, a synnwn ni ddim, na fydd 'na un neu ddau o'r ysgol ar lwyfan yr Eisteddfod. Gobeithio wir.

Pob dymuniad da i blant ac athrawon Ysgol Bro Sion Cwilt.

ysgol_bro_newydd.jpg

O Dregaron i Lundain
Dyma berchennog y traed a'r sgidiau rhedeg, Aled Bullman o Dregaron. Mae e'n hen law ar yrru beic mynydd, ac yn hen droed erbyn hyn ar redeg hefyd. Elusen MS fydd yn elwa o ymdrech Aled, a dyma pam mae ei Anti a'i dad yn meddwl ei fod e'n dipyn o arwr. Pob hwyl i ti Aled.

aled_bullman.jpg

O Dri Deg a Phump i Gant ac Wyth

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 12:36, Dydd Mawrth, 20 Ebrill 2010

Sylwadau (0)

Rhuddlan1.jpg

Penblwydd hapus iawn i Gylch Meithrin Rhuddlan. Roeddwn i mewn parti bnawn Sadwrn, efo Sali Mali a Sam Tan a chriw o blant, a mamau a thadau swnllyd i gyd yn dathlu penblwydd y cylch yn dri deg a phump. Yn gynharach yn yr wythnos 'roeddwn i wedi bod yn siarad efo aelodau Cymdeithas y Deillion o Borthmadog a Chricieth, ac ar y ffordd i'r car fe glywais lais yn gweiddi "Dowch i weld Ani Enid".

Ac 'roedd Anti Enid (dyna mae pawb yn ei galw hi) yn werth ei gweld hefyd. Yn y flwyddyn 1902, roedd Balfour yn brif-weinidog, Lloyd George yn apelio am gefnogaeth i streicwyr y Penrhyn, Hwfa Mon yn Archdderwydd a T Gwynn Jones yn ennill y gadair yn eisteddfod Bangor am ei awdl enwog Ymadawiad Arthur. Ac yn y flwyddyn honno, y ganwyd Anti Enid. Bellach yn gant ac wyth oed, hi ydi seren y Cartref ym Mhorthmadog.

108goiawn.jpg

Clec y gwn yn Llanbedrog

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 12:02, Dydd Mawrth, 20 Ebrill 2010

Sylwadau (0)

Flynyddoedd yn ol, 'roedd na gyfres boblogaidd iawn ar S4C, yn cael ei chyflwyno
gan Gerallt Lloyd Owen. Shotolau, oedd ei henw ac roedd cystadleuwyr yn rhoi cynnig ar saethu colomenod clai a sgorio pwyntiau. Ond pam oedd Gerallt yn ei chyflwyno?

Wel, pwy'n well, a fynta' ar y pryd yn hoffi mynd allan efo'i wn i hela ychydig, ac wrth gwrs wedi hen arfer a chlec y gynghanedd hefyd. Fe ges i gyfle i saethu ar y rhaglen honno, felly doedd tanio'r gwn a cheisio chwalu'r g'loman glai yn Ysgol Saethu Llanbedrog ddim yn brofiad angyhyfarwydd i mi.

Y tri saethwr yn y llun o'r dde i'r chwith ydi Monty, Ffion,a Huw Williams, tad Ffion.

saethu1.jpg

Hogia Pwllheli

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 11:33, Dydd Mawrth, 20 Ebrill 2010

Sylwadau (0)

Ar y ffordd i mewn i dre' Pwllheli, mae 'na ddau weithdy, yn dynn wrth ochra'i gilydd-Gweithdai Hefin a Griff. Os 'da chi'n cael problem efo'r peiriant torri gwair Griff 'di'r dyn neith 'i drwsio fo i chi. Ond pam ddaru o benderfynu gadael byd addysg a throi ei law at drin peiriannau?

gruff1.jpg

Crefftwr mewn llechen a marmor ydi Hefin. Mae o'n cerfio enwau tai a ffermydd ar lechen ac yn coffau yr ymadawedig hefyd ar y cerrig marmor du yn ei weithdy. Dau weithdy, dau grefftwr a dwy stori o Bwllheli ar raglen Geraint Lloyd yn fuan.

hefin1.jpg

Pentre'r môr leidr yn cofio

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 09:51, Dydd Llun, 12 Ebrill 2010

Sylwadau (0)

Mae pentre' Casnewy' Bach, cartre' Barti Ddu, rhwng Hwlffordd ac Abergwaun, ac ar y morfa o flaen yr Eglwys, mae 'na garreg i goffau'r môr leidr enwog.

Ddydd Sadwrn fe ddadorchuddiwyd cofeb arall yn y pentre' i goffau digwyddiad trist
ym 1943, pan ddisgynnodd awyren y Flying Fortress o'r awyr i'r ddaear, ar gyrion y pentre'.

Aethpwyd a'r peilot Americanaidd, Dale Canfield i'r ysbyty yn Hwlffordd ond bu farw o'i anafiadau. Fe ddadorchuddiwyd y gofeb gan yr Uwch Gapten Douglas A. Pryer o Kansas, ac fel rhan o'r seremoni fe ganodd Catrin Raymond anthem yr Unol Daleithiau.

hywel_casnewybach1.jpg

Ar ôl y seremoni, fe ddaeth pawb at ei gilydd yn y Neuadd i flasu croeso Cymreig
Casnewy' Bach.

hywel_casnewybach2.jpg

Ac ar waetha' absenoldeb yr hambyrgyrs a'r hot dogs mae'n amlwg fod yr Uwch Gapten wedi mwynhau'r profiad newydd o fwyta pice ar y man a brechdanau wy!

Siarad drwy fy het.

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 13:57, Dydd Mercher, 7 Ebrill 2010

Sylwadau (0)


'Dwi 'di cael blynyddoedd o brofiad o siarad drwy fy het, ond 'dwi erioed wedi gweld gymaint o hetiau lliwgar i'w gwisgo tra roeddwn i'n siarad ag a welais i dros y Pasg ym mhentref Derwen Gam.

hywel_het.jpg

Hwn oedd y pentref a anfarwolwyd yn y saithdegau mewn cân brotest gan Edward H. yn erbyn yr arwerthwyr oedd yn gwerthu tai yn y pentref i fewnfudwyr o Loegr, tra 'roeddan ni'r Cymry taeogaidd yn gadael i'r pentref farw ar ei draed. Dipyn o ddeud. Ond ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, mae'r pentref yn dal ar ei draed, a theuluoedd ifainc Cymreig ydi'r menfudwyr bellach, ac mae'r Saesnon sy'n byw yn y pentref wedi ymdoddi'n hapus i'r gymdeithas.

hywel_het2.jpg

Dyna'r neges ges i pan es i draw i'r Shed ar gwr y pentref i ddathlu'r Pasg, drwy wisgo het wyrion, chwilio am wyau a bwyta llond plat o frechdanau wy a salmon. Lot o hwyl, sgwrsio difyr, a llond bol o fwyd. Pasg i'w gofio.

Yn Abergwaun y bydda i ddydd Gwener ac yna ddydd Sadwrn yng Ngasnewy' Bach yn dadorchuddio cofeb ac fe gewch chi'r hanes i gyd ar Radio Cymru.

A chofiwch, os da chi am i'r fan a fi ddwad i'ch ardal chi i roi sylw cenedlaethol i'r hyn sy'n digwydd acw, anfonwch ebost at hywel@bbc.co.uk

O Landdewi i DÅ· Ddewi

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 09:30, Dydd Iau, 1 Ebrill 2010

Sylwadau (0)

llanddewi_taith.jpg

"Ydi pawb yn gallu 'ngweld i?"

"Nag ydyn" meddai'r llais o'r cefn. Ar hynny, fe gododd y tir o dan ei draed, a disgynnodd colomen ar ei ysgwydd, ac fe glywodd pawb yr hyn oedd gan Dewi i'w ddweud. Dyna'r hanes. A bore dydd Mawrth, tu allan i eglwys Llanddewi - a sefydlwyd gan ein nawddsant - fe glywodd pawb Huw Roberts yn diolch i'w gefnogwyr oedd wedi dod draw i ddymuno'n dda iddo fo pan oedd ar fin cychwyn ar daith gerdded o Landdewi i Dyddewi.

Fe fydd yr arian fydd yn cael ei gasglu ar y ffordd yn mynd i gefnogi gwaith ymchwil pwysig Sefydliad Prydeinig y Galon. Gyda llaw, 'roedd dewis cychwyn y daith yn Llanddewi yn addas am un rheswm arall. Un o'r ardal oedd Doctor William Evans, TÅ· Domen, un o sylfaenwyr Sefydliad y Galon.

Mewn undod y mae nerth

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 09:26, Dydd Iau, 1 Ebrill 2010

Sylwadau (0)

Pwy ydi'r pump o amgylch y bwrdd? Os 'da chi'n byw yn Llangyndeyrn neu yn un o'r pentrefi cyfagos, fe fyddwch yn gwybod yn iawn pwy ydyn nhw.

llangyndeyrn_bwrdd.jpg

O'r chwith i'r dde: Joan Jones, John Thomas, Arwyn Richards, Nina Rees a Huw Owen.

Fe fyddwch chi'n cofio hefyd i bentrefwyr Llangyndeyrn frwydro ddechrau'r chwedegau yn erbyn y bwriad gan Gorfforaeth Abertawe i foddi mil o aceri o dir yn ymyl y pentre'. Er mai babi bach dau fis oed oedd John ar y pryd, mae o wedi clywed yr hanes droeon gan ei dad oedd yn un o arweinwyr yr ymgyrch, ac fe fu'r pump ohonyn nhw yn hel atgofion yng nghysgod y garreg enfawr a godwyd tu allan i'r pentre' i gofio am y frwydr.

Y geiriau yng nghanol y garreg ydi "Mewn undod y mae nerth." Ac fel dywedodd Arwyn Richards "Roedd pawb yn gytûn na fydden ni'n ildio modfedd ac fe brofon ni mai trech gwlad nag arglwydd."

llangyndeyrn_carreg.jpg

Mwy o’r blog hwn…

Pynciau dan sylw

    °ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

    Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

    Cyfranwyr diweddaraf

    ³ÉÈËÂÛ̳ iD

    Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

    ³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.