Enwogion Glyn Ceiriog
Yn Neuadd y pentre', sy'n dathlu ei phen-blwydd y flwyddyn nesa yn gant oed, mae 'na nifer o ffenestri lliw trawiadol, ac uwchben y llwyfan mae'r ffenestr fwyaf yn dangos llun o'r bardd enwog John Ceiriog Hughes, sydd ddim yn syndod gan mai fo ydi un o enwogion y cylch.
Fe'i ganwyd ar fferm Penybryn yn Llanarmon Dyffryn Ceiriog, ac mae'r neuadd, lle mae ei wyneb barfog, fictorianaidd i'w weld, ym mhentref Glyn Ceiriog.
Un arall o enwogion y pentref ydi Theo Davies, a 'dwi'n cofio holi Theo flynyddoedd yn ôl pan gafodd ei gomisiynu i wneud cadair yr Eisteddfod Genedlaethol, Bro Delyn 1991. Gyda llaw, pwy enillodd y gadair honno? Ateb ar y diwedd.
Erbyn hyn mae Theo wedi ymddeol, ac mae'r meibion, Peris, Einion ac Arwyn, sy'n gofalu am y busnes. Cofiwch chi, mae Theo yn dal i gadw golwg arnyn nhw, ac fe fuon ni'n dau yn hel atgofion am yr hen amser, pan oedd o mewn busnes crefftau efo un o lenorion enwoca' Cymru - Islwyn Ffowc Ellis - a fo oedd yn gyfrifol am gynllunio'r arwydd uwchben y sied fechan lle'r oedd y crefftau Cymreig yn cael eu creu.
Bellach mae'r busnes gwneud dodrefn wedi tyfu ac eangu hefyd i feysydd meddygol a gofal, fel y cewch chi glywed yr wythnos nesa' ar Radio Cymru a rhaglen Nia Roberts (Dydd Llun Awst 30ain).
Mae'n bur debyg eich bod chi eisoes wedi sbecian ar yr ateb i'r cwestiwn - pwy eisteddodd yng nghadair Theo Davies, yn Eisteddfod Bro Delyn 1991.
A'r ateb? Robin Llwyd ap Owain, o Ruthun.
Cofiwch gysylltu efo mi os wyddoch chi am straeon yn eich ardal chi, ar gyfer gwasanaeth Radio Cymru. Yr e-bost ydi hywel@bbc.co.uk