Sioe Meirion ...a Tom, ac Iola!
Ar gyrion Harlech y cynhaliwyd Sioe Merion eleni, ac fe gawson ni ddiwrnod i'w gofio. Er bod dynion a merched y tywydd, yn darogan glaw - ni ddisgynnodd hyd yn oed
ddropyn ar faes y sioe, er ei bod hi'n glawio lawr y ffordd yn Aberystwyth.
Ysgrifennydd y sioe ydi Douglas Powell, a'r tro diwethaf i mi ei gyfarfod o oedd yn Ysgol Gyfun Llangefni, lle 'roeddan ni'n dau'n ddisgyblion.
Tydi amser yn hedfan? (fel dduodd y dyn ar ôl lluchio cloc larwm ar draws y 'stafell!).
Llongyfarchiadau Douglas a'r tîm, am drefnu sioe wych. Fel yn yr Eisteddfod, 'da chi'n siŵr o daro ar hen ffrindiau yn y sioe hefyd, ac yn wir, un o'r rhai cynta' i mi ei weld oedd Tom Gwanas, ac fe lwyddais i'w berswadio i ganu deuawd efo mi (oedd yn dipyn o anrhydedd iddo fo) ar raglen Jonsi.
'Wrth fynd efo Deio i Dywyn' oedd y gân, a'r sôn ydi fod cwmni recordio Sain, am i ni wneud cryno ddisg o ddeuawdau enwog efo'n gilydd - y Pysgotwyr Perl, Hywel a Blodwen, ac yn y blaen. Gawn ni weld!
Sêr eraill yn y sioe oedd Dei Lloyd ac Iola Horran. Fe enillodd Dei bymtheg o wobrau cyntaf am ddangos ei ieir bantam - ac fel y ceiliogod yn y babell Ffwr a Phlu, roedd ynta'n clochdar yn fuddugoliaethus.
Yn y babell fwyd y g'nes i gyfarfod Iola, Iola Horran, ac 'roedd hithau hefyd wedi ennill gwobrau lu gan gynnwys y cerdyn coch am y bara brith gora' neu Bara Brithdir, fel y bydd o'n cael ei alw o hyn ymlaen yn ardal Dolgella'- gan mai hogan o'r dre ydi Iola.
Ac mae'n wir i ddeud fod pawb ddaeth i Sioe Meirion ar eu hennill.
'Dwi eisoes yn edrych ymlaen at Sioe Llansannan, ger Dinbych. Fanno y bydda' i ar Å´yl y Banc, ac yn Llanystumdwy y diwrnod canlynol yn crwydro o gwmpas TÅ· Newydd.
Mae tymor y sioeau yn dirwyn i ben, ond mae 'na un ddwy eto ar ôl, ac os 'da chi am hysbys i'ch sioe chi, neu unrhyw ddigwyddiad o bwys yn yr ardal, yna, cysylltwch efo fi - hywel@bbc.co.uk. Wela i chi yn Llansanan.