Gŵyl y Banc yn Llansannan
Dros yr ha', dw i 'di bod yn ymweld â sioeau Cymru - yn fach a mawr, ac ar Ŵyl y Banc, 'roeddwn i mewn cae yn Llansannan yn mwynhau'r heulwen efo ffermwyr y cylch, ac yn gwylio'r cobiau yn prancio o gwmpas y prif gylch.
Draw yng nghornel pella'r cae roedd beirniaid y defaid Texel yn edrych yn feirniadol ar y cystadleuwyr gwlanog. Erbyn canol dydd, roedd pob teisen, pot o jam, picls a chytni, wedi cael eu gosod ar fyrddau yn y Neuadd, wrth ochor y cae, a'r nionod mawr, a'r cennin mwy, y tomatos-maint-peli-criced, a'r tatws, fel peli rygbi, yn gorwedd wrth ochrau'i gilydd a phob un yn disgwyl am y cerdyn coch.
Llongyfarchiadau i ffermwyr ifanc Llansannan am drefnu'r Sioe, a diolch iddyn nhw hefyd am eu croeso i ni, ac i ferched y gegin am y salad blasus a'r banad!
O Lansannan fe es i draw i Tŷ Newydd, yn Llanystumdwy. Hwn oedd y tŷ olaf i Lloyd George fyw ynddo fo, ond ers blynyddoedd bellach mae o'n encil llenyddol i unrhyw un sydd â diddordeb mewn sgwennu rhyddiaith neu farddoniaeth, a'r penwythnos yma, mae Tŷ Newydd yn dathlu'i ben blwydd yn un ar hugain oed, ac yn ôl Bethan Jones Parry, sy'n trefnu cyrsiau Tŷ Newydd, fe fydd o'n barti i'w gofio.
Yn ei chwmni hi fe es i o amgylch y TÅ·, ac fe gewch chi hanes yr ymweliad ar raglen Nia, bore fory ar Radio Cymru.
Gyda llaw, ddydd Gwener 'dwi'n mynd draw i briodas yn Aberystwyth - y briodas gynta' erioed i gael ei chynnal yn y Llyfrgell Genedlaethol. Ac fe fydd yr hanes i gyd, efo pinsiad o gonffeti, unwaith eto ar raglen Nia, fore Llun.
Cofiwch gysylltu os 'da chi am i mi ddŵad i'ch ardal chi, i roi sylw cenedlaethol, ar wasanaeth cenedlaethol Radio Cymru, i'r hyn sy'n digwydd acw. Y cyfeiriad ydi hywel@bbc.co.uk