Ar y trên i Gaernarfon
Fel hyn y disgrifiwyd taith ar y trên gan fardd yn 'sgwennu o gwmpas 1890.
Gyda llaw, 'roedd Ceiriog yn orsaf feistr wrth ei alwedigaeth, ond 'dwi ddim yn credu mai fo 'di'r awdur:
'Rôl lapio'm traed mewn hugan llwyd, fel pawb oedd yn y trên
Ac ysgwyd llaw ac Wmffra Llwyd, a chanu'n iach i Jane
Chwibanodd y peiriant yn gryf ac yn groch
Fel gwichiad soniarus pum ugain o foch
'Olreit' medda rhywun. A chanwyd y gloch!
'Doedd fy nghyd-deithiwr, ar y trên stem o orsaf Dinas i Gaernarfon y diwrnod o'r blaen ddim yn gyfarwydd â'r gerdd aruchel, ond mae o'n gwybod am hanes dyfodiad y trên i Gymru a'r chwildro cymdeithasol a ddaeth yn sgil hynny.
David Gwynne ar blatfform gorsaf Dinas, ger Caernarfon
Mae David Gwynne yn archeolegydd a hanesydd, ond mae o hefyd wedi gwirioni ar drenau stem, a bellach mae o'n un o gyfarwyddwyr Rheilffordd Ffestiniog ac Eryri.
Unwaith yr wythnos, mae o'n diosg ei siwt ac yn gwisgo'i oferôls, gan mai fo ydi stocar rheilffordd Llyn Tegid.
Hwlti heltar, sgiltar sgeltar ffwrdd a ni
Fel rhai ar badellau, neu res o degellau
Linc linc wrth gynffon ci.
Dyna ymgais y bardd yn y gerdd i ddisgrifio sŵn y trên Fictorianaidd yn mynd dros y cledrau, ac fel esboniodd Dafydd, er bod y trenau yn teithio'n gymharol ara' deg, roedd taith ar y trên dipyn yn gynt na cherdded o le i le.
Ac 'roedd pobol y pentrefi yn arfer sefyll bob ochor i'r lein yn chwifio fflagia' wrth i'r trên chwyrnellu heibio ar gyflymdra o ugain milltir yr awr!
David Gwynn ymysg y stêm ar blatfform Dinas
Gyda llaw, fe enillais i hanner coron yn 'steddfod Llannerchymedd, am adrodd 'Y Trên', ac mae'r bardd wedi llwyddo i gyfleu hisian y stem, wrth iddi arafu a chyrraedd pen ei thaith, yn effeithiol iawn:
Dacw efail, dacw siop, dacw Gymru
S..S..STOP. S....S...STOP...S...S...STOP.
Ond pwy ydi'r awdur?
Os wyddoch chi, cysylltwch efo fi
hywel@bbc.co.uk