³ÉÈËÂÛ̳

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Ar droed i Ysgol Felinwnda

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 11:34, Dydd Llun, 25 Hydref 2010

Fe ddaeth yr atgofion yn llifo'n ôl y bore o'r blaen wrth i mi groesi buarth Ysgol Felinwnda, Llanwnda ger Caernarfon.

Atgofion o ddyddiau cynnar yr Ysgol Gynradd yn Llangefni, flwyddyn neu ddwy yn ôl erbyn hyn. Cofio'r tân mawr yn y dosbarth a'r athro Stephen Edwards yn rhoi poteli llefrith o flaen y grât i gynhesu.

Cofio cael y gansen hefyd am ddeud pethau cas wrth Iorwerth Roberts, ac am gael ffeit efo fo. Cofio mynd allan i'r caeau tu ôl i'r ysgol i gasglu blodau a phlanhigion ar gyfer y bwrdd natur. Dyddiau difyr.

A theithio'n ôl i'r gorffennol fu hanes plant ysgol Felinwnda y bore o'r blaen wrth iddyn nhw gamu i mewn i'r dosbarth a chamu'n ôl i Oes Fictoria.
Yn ddirybudd, fe ganodd cloch yr ysgol a daeth yr athro i mewn, wedi ei wisgo mewn du, a chanson yn ei law. 'Stand' medda fo.

Rhai o blant Ysgol Felinwnda yn cael profi gwers Fictorianaidd

Ac fe safodd pob un yn syth bin, wrth i'r athro eu hannerch yn Saesneg , a gofyn i bob un ohonyn nhw ddangos eu dwylo er mwyn gneud yn siŵr eu bod nhw wedi ymolchi cyn cerdded y tair milltir i'r ysgol. "Don't forget" meddai "Cleanliness is next to Godliness".

Cafodd un ferch druan y gansen am luchio mwd at ffenestri un o'r tai cyfagos ar ei ffordd adre o'r ysgol, a 'doedd fiw i neb siarad Cymraeg yn ystod y wers neu fe fyddai'n rhaid iddo fo neu hi wisgo'r Welsh Not, sef darn o bren a'r llythrennau WN wedi eu cerfio i mewn iddo.


Dilwyn Williams gyda'r 'Welsh Not' yn Ysgol Felinwnda


Dilwyn Williams oedd yn actio'r 'athro cas', a hwyrach i chi ei weld o ar y rhaglen 'Snowdonia 1890' cyfres newydd ³ÉÈËÂÛ̳ Cymru, sy'n dilyn hynt a helynt dau deulu wrth iddyn nhw geisio ymdopi â bywyd caled yng nghesail mynyddoedd Eryri, fel y basan nhw wedi ei fyw, dros gant ac ugain o flynyddoedd yn ôl.

Yn sicr, roedd y profiad o gael Dilwyn o flaen y dosbarth wedi ei wisgo fel athro ysgol o'r cyfnod Fictorianaidd yn effeithiol dros ben, ac 'roedd 'na olwg bryderus iawn ar wynebau rhai o'r plant wrth iddo fo weiddi arnyn nhw "

"Training young minds. That's the whole point of education.. So let me hear you recite your five times table." Yn wir, mae 'na rai ym myd addysg yn credu fod angen mwy o ddisgyblaeth yn y dosbarth." Beth ydi'ch barn chi?

Fe fydd hanes yr ymweliad ac ysgol Felinwnda ar raglen Nia yr wythnos yma. Ffoniwch y rhaglen ar 03703500500, neu e-bostiwch Nia@ bbc.co.uk i ddeud eich barn.

Mwy o’r blog hwn…

Pynciau dan sylw

    °ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

    Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

    Cyfranwyr diweddaraf

    ³ÉÈËÂÛ̳ iD

    Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

    ³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.