Merthyr a'r Chwildro Diwylliannol
Yn ôl yr hanes, yn y flwyddyn 480, fe laddwyd, merch y brenin Brychan, o Frycheiniog, gan baganiaid ger tref Merthyr. Ei henw oedd Tydfil, ac ar ei hol hi yr enwyd y lle yn Merthyr Tydfil.
Wel, dyna mae'r llyfrau hanes yn ei ddweud beth bynnag, ac yn sicr mae Merthyr yn dref sydd â lle pwysig iawn yn ein hanes ni fel cenedl.
Dyma'r dref fwyaf yng Nghymru ar un adeg, a chrud y chwildro diwydiannol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Fe fu na chwildro arall yn y dref ym 1831 ac un o brif arwyr y chwildro hwnnw oedd yr enwog Dic Penderyn, anfarwolwyd gan Meic Stevens yn un o'i ganeuon.
Mae 'na arwyr ym Merthyr o hyd, yn creu chwildro tawel diwylliannol yn y dre. Pobol fel Lis Mclean a Les Davies, Einir Siôn a Phil Griffiths.
Y diwrnod o'r blaen fe es i draw i chwilio amdanyn nhw. Tydi hi ddim yn hawdd dŵad o hyd i Gapel Soar. Mae o'n cuddio tu ôl i adeiladau eraill oddi ar y stryd fawr yng nghanol y dre'.
Einir Siôn a Lis McLean (ar y dde) tu allan i Ganolfan Soar
Ond y gobaith ydi y daw pawb yn Ne Cymru i wybod am Soar oherwydd mae Lis Mclean, prif swyddog Menter Merthyr, wedi bod yn arwain y frwydr i gael arian er mwyn addasu'r capel yn Ganolfan gymunedol, lle bydd 'na theatr a stiwdio dawns.
>
Einir Siôn, Lis McLean a Phill Griffiths yn siop Canolfan Soar
Eisoes, ar ôl brwydr galed, maen nhw wedi sicrhau yn agos at filiwn a hanner o bunnau, ac mae'r gwaith o addasu'r hen adeilad wedi dechrau. Fe ges i sgwrs dros baned efo Phill Griffiths, a Les Davies.
Phill sy'n gofalu am y siop lyfrau a recordiau, ac mae Les yn cynnal dosbarthiadau dysgu Cymraeg i griw eiddgar iawn.
Les Davies gyda'r dosbarth Cymraeg ynghyd â rhai o weithiwyr Canolfan Soar
Gyda chymorth, yr actores Einir Siôn, fe ddylai'r perfformiad cyntaf yn y theatr newydd fod yn barod erbyn dechrau'r flwyddyn newydd, ac unwaith eto fe fydd capel Soar, ar ei newydd wedd, yn llawn.
Cofiwch y bydda i'n darlledu fy rhaglen arferol ddydd Sul nesa' (Hydref 17eg) yn fyw o Ferthyr am 1045am tan 1200pm
Ebostiwch fi gyda'ch straeon