Lle mae'r pentre?
'Does 'na ddim byd o'i le mewn dwyn syniadau pobol eraill - os 'di o'n syniad da.
Ei ddwyn o, ond ei addasu o - dyna 'di'r gêm.
'Stalwm 'roedd Geraint Lloyd yn gofyn i bobol oedd yn gwrando ar ei raglen - lle mae'r ciosg? Ar ôl rhoi nifer o gliwiau i'r lleoliad, enillydd y gystadleuaeth oedd yr un oedd yn codi'r ffôn pan oedd o'n canu yn y ciosg.
Wel, y cwestiwn heddiw ydi 'Lle mae'r pentre'?' Y cliw cynta' ydi Miles Richards.
Miles Richards tu allan i gapel Tabernacl
Cyfreithiwr saith deg a naw oed ydy Miles, sy'n dal i weithio'n ddyddiol fel cyfreithiwr, ac sy'n dal i siarad tafodiaith yr ardal, y Wenhwyseg.
Fe fues i'n ei holi o ym mynwent capel y pentref sef Capel y Tabernacl.
Yr ail gliw ydi Owain Morus. Gŵr o Drefdraeth, sir Benfro yn wreiddiol, ond ar ôl cyfnod yn gweithio i'r diwydiant awyrennau, fe benderfynodd roi'r gorau i hedfan o amgylch Ewrop ac fe laniodd yn y pentref yma, ac erbyn hyn fo sy'n cadw'r swyddfa Bost, a'r siop.
Un o'r rhai sydd wedi bod yn gyfrifol am adfywio'r bywyd diwylliannol Cymraeg yn y pentref ydi'r Parch Eirian Rees, ac yn y llun isod, mae o a'i ferch yng nghyfraith Catrin yn sefyll ar brif stryd y pentref.
Parch Eirian Rees, a'i ferch yng nghyfraith Catrin
Un cliw arall i gloi. Fe enillodd parti bechgyn sydd â chysylltiadau â'r pentre' yma un o brif wobrau yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Enw'r parti ydi Parti'r Efail. Dyna'r cliwiau.
'Does 'na ddim gwobr - ond fe gewch yr ateb fore Iau yma (Hydref 21ain) ar raglen Nia Roberts ar Radio Cymru, pan fydda i'n crwydro'r pentref yng nghwmni rhai o'r trigolion.