Brodyr y llaeth a'r beics
Y dydd o'r blaen, fe aeth y fan a fi i bentre' Pennant yn ardal Aberaeron, i gartre' Dafydd Edwards a'i wraig a'u mab Gwilym - Laburnham Hall. Yn ôl bob sôn, Dafydd ydi'r dyn llaeth hyna' yng Ngheredigion - os nad yng Nghymru.
Yn 81 oed, mae o'n mynd o gwmpas ei gwsmeriaid yn ei fan fach wen yn gwneud yn siŵr fod 'na botel o laeth ar stepen y drws yn ddyddiol, ac mae'n gwneud hyn ers deugain mlynedd a mwy.
Dafydd Edwards yn barod i fynd ar ei lownd laeth ym mhentre Pennant
Wrth ddisgwyl i'r fan gyrraedd, fe fues i'n sgwrsio efo Gwilym y mab, sy'n gofalu am y fferm hanner can erw, ond gyrfa ym myd cerddoriaeth oedd wedi ei gynllunio ar ei gyfer.
Oherwydd yn 8 oed, fe aeth i Ysgol St. Paul's yn Llundain, sy'n enwog am ei chanu corawl, ac am feithrin talentau ifanc yn gerddorol. Mae o'n dri deg erbyn hyn ac er na wireddwyd y freuddwyd gerddorol, mae o'n dal i gael pleser yn canu mewn cyngherddau lleol.
Lawr y ffordd mae Tom, brawd Dafydd yn byw. Yn ystod y rhyfel, ac yn sŵn y blitz hefyd, 'roedd Tom yn gweithio mewn labordy yn arbrofi ar lygod mawr er mwyn ceisio darganfod brechlyn i wella'r ffliw.
Fe arhosodd yn y byd gwyddonol a dod yn ôl i Gymru i weithio yn y Fridfa blanhigion yn Aberystwyth.
Ar ôl ymddeol, fe aeth ati i gasglu motor beics ac erbyn hyn mae'r garej yn llawn o feiciau BSA a Triumph a thri thractor.
Tom Edwards, gyda'i gasgiad o hen dractors a motobeics
Dau frawd diddorol iawn - Dafydd a Tom - ac fe gewch chi fwy o'i hanes
nhw ar raglen Geraint Lloyd cyn bo hir.