³ÉÈËÂÛ̳

Help / Cymorth

Archifau Ionawr 2011

Blwyddyn Newydd, weddol, dda.

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 13:32, Dydd Mawrth, 25 Ionawr 2011

Sylwadau (0)

Fe wyddoch yn iawn fod unrhyw un sy'n cychwyn brawddeg efo'r geiriau 'Tydw i ddim yn un am gwyno...' ar fin cwyno!

Felly, mae ganddoch chi syniad go lew be' dw i ar fin wneud. Dyna chi, cwyno.
Dipyn o'r Victor Meldrew ar ddechrau blwyddyn fel hyn.

Er mae'n rhaid i mi ddechrau efo canmoliaeth. Canmoliaeth i bobl Cwm Gwaun, Sir Benfro am y croeso ges i ganddyn nhw ar Ionawr 13eg, pan es i draw i'r 'cwm tu draw i'r cymoedd', (chwedl Gwilym R. Jones yn un o'i gerddi) uwchben Tudraeth i ddathlu'r hen Galan ar Ionawr 13eg.

Fe es i heibio tafarn Bessie, lle mae hi'n dal i werthu cwrw drwy'r 'hatch' ac 'roedd hi mor groesawgar ac erioed.
'Be chi moin?' medda hi. 'Sdim amser 'da fi heddi i siarad. Mae'r plant yn dod o gwmpas i gasglu calennig'

Ac yn wir, mae'r traddodiad mor fyw ac erioed, a phlant ysgol fechan Llanychllwydog yn mynd o dÅ· i dÅ· drwy'r dydd yn canu am eu calennig.

Diolch i Bonni Davies Golygydd papur Bro y Llien Gwyn am drefnu fy ymweliad, ac yn enwedig i Lilwen a Gaynor yn y Swyddfa Post am eu croeso. Fe fyddai Llywelyn Fawr ei hun wedi bod yn hapus iawn efo'r wledd o fwyd yng ngartre Gaynor, yn enwedig y Fictoria Spynj enfawr ar ganol y bwrdd tua'r un maint â Chanolfan y Mileniwm. Gwych!
Reit dyna'r canmol drosodd.

Be' 'di'r gŵyn?
Wel, ar y Sadwrn canlynol fe es i i'r Gogledd i nôl fy nghar oedd wedi bod yn glaf mewn garej ym Mhrestatyn ers cyn y 'Dolig. Yn glaf iawn a deud y gwir. 'Roedd angen injan newydd, ac felly roedd rhaid teithio ar y trên i nôl y claf a'i injan newydd. Dyma sut ath petha:
7.20 dal y trên o Gaerdydd. 10.50 cyrraedd Prestatyn. 11.30 Cael y car a chychwyn ar y daith yn ôl drwy'r glaw. 12.30 Awr yn ddiweddarach, och a gwae, yn ymyl Croesoswallt, cebl y clutch yn torri. 12. 40 Ffonio'r cwmni achub, a chael y newyddion da y byddai rhywun yn dod i fy achub - ymhen teirawr!

2.40. Dyn y cwmni achub yn creu cebl newydd allan o ddarn o weiran ar ôl straffaglu ym mol yr injan am hanner awr. 3.30 Gyrru nôl i Brestatyn er mwyn gadael y car yn y garej, 'o'r lle ni ddaeth fy nghymorth' a dal trên chwarter i chwech yn ôl i Gaerdydd.

Wel, ddim yn hollol.
9.05 Cyrraedd Casnewydd mewn pryd i glywed cyhoeddiad 'This train terminates at Newport due to signal failure.
9.20. Tacsi yn ôl i Gaerdydd - £25. O ia, a £2,000 am injan newydd i'r car.

Ond mae pethau wedi gwella. (Mi fysai'n anodd iddyn nhw fynd yn waeth)
Fe es i i fyny i Gricieth ddechrau'r wythnos i gyfarfod â Bob y Caffi a chriw o ffrindiau a chael llond plât o syniadau (a sgons!) ar gyfer rhaglenni o'r cylch yn y dyfodol.

Ar ôl treulio'r pnawn efo'r gantores opera Marian Bryfdir ym Mangor, gyda'r nos roeddwn i ym Mryncroes, Llŷn, yn gwrando ar ddarlith ddiddorol iawn am archaeoleg Gwynedd.
A wyddoch chi pwy oedd yn darlithio? Neb llai na sylfaenydd band Pync Yr Anrhefn - yn y ganrif ddiwetha'!

Oedd, 'roedd o'n dipyn o sioc i weld Rhys Mwyn yn siarad mor awdurdodol o ddifyr am gyfnod y Rhufeiniad. Bore trannoeth,' roedd o a finna' ar safle llys Llywelyn Fawr yn Abergwyngregyn, lle mae'r cloddio bron a dŵad i ben. Yn anffodus, 'doedd Siwan ddim yno. Wedi mynd i siopa i Gaer efo Gwilym Brewys, mae'n siŵr.

Erbyn i chi ddarllen hyn o lith, fe fydda i ar fy ngwyliau, yn nhref Aberystwyth, lle byddai'n cael cyfle i arafu, a thawelu, a chargo'r batris ar gyfer y daith nesa.

Blwyddyn Newydd Dda? Ddim Eto!

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 15:54, Dydd Mercher, 5 Ionawr 2011

Sylwadau (0)

Mae 'na bobl yn Tsieina a nifer yng Nghwm Gwaun yn methu deall pam fod pobl wedi bod yn cyfarch ei gilydd ers Ionawr y cyntaf drwy ddweud 'Blwyddyn Newydd Dda, i chi'.

Chwefror y trydydd ydi dechrau blwyddyn newydd y Tsieineaid ac ar Ionawr y 13eg y maen nhw'n dathlu'r Hen Galan, a dyfodiad y flwyddyn newydd yng Nghwm Gwaun, Sir Benfro. Felly Gymry annwyl, be' 'di'r brys?

Mae eleni yn flwyddyn y Gwningen yn Tsieina. Felly os cawsoch chi'ch geni
yn ystod y blynyddoedd canlynol 1939, 1951, 1963, 1975, 1987, 1999, neu wrth gwrs 2011, yna hon ydy'ch blwyddyn lwcus chi, oherwydd mae unrhyw un sydd wedi ei eni o dan arwydd y gwningen yn mynd i fyw'n hir.

Yn ôl chwedlau Tsieina, pan mae rhywun o'r Gorllewin yn syllu ar y lleuad, maen nhw'n gweld fod 'na ddyn yn byw yno, ac yn bwyta dim byd ond caws.
Ond pan mae Tsieineaid yn syllu ar y lleuad mae o'n gweld 'sgwarnog yn eistedd ar ddarn o graig, o dan goeden Cassia, gyda phowlen o ddŵr bywiol wrth ei ochor. Arwydd o oes hir, a blynyddoedd o lwc dda.

Mae pobl sydd wedi ei geni ym mlwyddyn y gwningen yn bobl awyddus i blesio, yn ddoeth, yn feddylgar, yn ffasiynol ac yn garedig.
Dyna pam mae fy nghynhyrchydd i wedi ei eni dan arwydd y Ceffyl!

Fe fydd na ddathliadau lliwgar a swnllyd yma yng Nghaerdydd ar Chwefror y 3ydd gyda nifer o dai bwyta Tsieineaidd yn cynnig gwledd o fwyd, dawnsio a thân gwyllt.

Ond yng Nghwm Gwaun, maen nhw'n fwy sidêt o lawer, ac yn parhau efo'r hen arfer o fynd o dŷ i dŷ yn canu am galennig:

Calennig i mi, calennig i'r ffon
Calennig i bawb y flwyddyn hon.

Ac yna, pan fyddai'r drws yn agor, fe fyddai'r plant yn gweiddi eu diolch:

Blwyddyn Newydd Dda i chi
Ac i bawb sydd yn y tÅ·
Dyna yw'n dymuniad ni
Ar y flwyddyn newydd hon.

Llynedd yng Nghwm Gwaun, 'roedd 'na ddeuddeg troedfedd o eira yn ôl yr hanes, ond fe aeth y dathlu yn ei flaen ar waetha'r tywydd garw.

A dyna le bydda i ymhen yr wythnos - yng Nghwm Gwaun yn darlledu'n fwy i raglenni Radio Cymru drwy'r dydd, ac yn mwynhau'r croeso a'r Macsi cwrw.

Gyda llaw, os byddwch chi yn dathlu'r flwyddyn newydd mewn tÅ· bwyta Tsieineaidd
ar Chwefror 3ydd, cofiwch eu cyfarch nhw drwy ddweud, Blwyddyn Newydd Dda - Gung Hay Fat Choy .

Fe fydd hynny'n siŵr o sicrhau platiaid arall o Chop Suey i chi, yn rhad ac am ddim.

Mwy o’r blog hwn…

Pynciau dan sylw

    °ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

    Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

    Cyfranwyr diweddaraf

    ³ÉÈËÂÛ̳ iD

    Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

    ³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.