Gwlad o hud a lledrith
'Doedd na ddim niwl ar fryniau Dyfed o gwbwl yr wythnos hon, dim ond yr haul yn cynhesu'r cerrig hynafol yn ardal Mynachlog Ddu, lle bues i'n siarad efo Cerwyn Davies ym mynwent Bethel ar lan bedd Thomas Price- gŵr oedd yn hapus iawn i fynd o gwmpas y wlad wedi ei wisgo fel merch - un o ferched Becca, ac 'arweinydd gwerin plwy 'Mynachglogddu ' yn ôl Tecwyn Ifan.
Mae Cerwyn yn hyddysg iawn yn hanes terfysg Becca yn y cylch ac yn hapus i arddel cysylltiad teuluol efo Twm Carnabwth. Yn wir, fe fedrwn i daeru fod ei lygaid yn fflachio wth son amdano.
O Fynachlog Ddu i Nanhyfer, lle ces i sgwrs o dan yr ywen waedlyd gyda'g Alun Ifans, cyn brifathro ymroddedig Ysgol Casmael. Fe fudd o'n adordd hanes Sant Brynach a John Jones, y gŵr fu'n gyfrifol am gyfieithu'r Mabinogi i Charlotte Guest.
Galw heibio Cwmyreglwys wedyn a chyfarfod Rex Harris sydd wedi ysgrifennu llyfr am hanes yr eglwys ddinistrwyd gan y storm a fu'n gyfrifol am longddryliio y Royal Charter oddiar arfordir Môn, yr un noson - Hydref 26ain 1859.
Fe fydd hanes Twm Carnabwth, a'r merched, Sant Brynach a'r gôg, a Chwmyreglwys a'r storm i'w clywed ar raglen Nia yn ystod yr wythnosau nesa.