Y Lleol a'r Cenedlaethol
Ydych chi wedi clywed am orsafoedd radio Tudno Fm, GTFm, a Bro Radio? Gorsafoedd radio cymunedol ydyn nhw, ac yn ystod y flwyddyn yma fe fydd ³ÉÈËÂÛ̳ Cymru, yn gweithio'n agos efo'r gorsafoedd yma.
Yn ddiweddar fe fues i i fyny yn y Gogledd yn sgwrsio efo Alwyn Samuel, ddarlithydd yn y cyfryngau wrth ei alwedigaeth, ond mae o hefyd yn rhoi ei amser hamdden yn rhad ac am ddim i gyflwyno rhaglenni Cymraeg ar Tudno FM, sy'n darlledu i ddalgylch o bymtheng milltir o amgylch tre Llandudno.
Wedyn fe es i am dro i lawr yr arfordir i Brestatyn i gyfarfod Nia Lloyd Williams, cyflwynydd ar Point FM. Ac ar ôl sgwrs a phaned yn y stiwdio fe aethom draw i Ruthun i gyfarfod Robat Arwyn, fydd yn un o westeion Nia, yn y dyfodol agos.
Fe fydda i hefyd yn ymweld â gorsafoedd yn y de, ac eisoes mae 'na daith wedi ei threfnu yng nghwmni Eifion Lloyd Jones, cyflwynydd gwasanaeth radio cymunedol Blaenau Gwent i Amgueddfa yn yr ardal sy'n adrodd hanes y Siartwyr. Dyna i chi ragflas yn unig o'r hyn sydd i ddod.
Fe gewch chi flasu mwy, a chlywed profiadau cyflwynwyr y gorsafoedd radio Cymunedol led Cymru ar raglen radio Geraint Lloyd yn ystod yr wythnosau nesa.
Pan o'n i'n rhodio mynwent eglwys.......
A chredwch chi fi, mae yna gannoedd o bobl drwy Gymru wrth eu bodd ym mynwentau, yn ôl yr ymateb i'r straeon am fynwentydd diddorol Cymru ar raglen Nia. Ac os wyddoch chi am stori fynwent ddiddorol cysylltwch efo hywel@bbc.co.uk ac fe wna i'n siwr fod y stori yn cael ei chlywed ar raglen Nia. Yn ddiweddar fe ges i gwmni Cerwyn Davies, ym mynwent Bethel, Mynachgloddu, lle mae Twm Carnabwth, un o arweinwyr terfysg Beca wedi ei gladdu.
Ac yng Nghwm yr Eglwys, fe adroddodd Rex Harries, hanes y noson y chwalwyd muriau eglwys, pentref bychan Cwm yr Eglwys, dros gant a hanner o flynyddoedd yn ôl. Mae o a chyfeillion wedi mynd ati dros y blynyddoedd i ofalu am y fynwent , ac wedi cofnodi'r manylion sydd ar bob un garreg fedd. Dyna i chi lafur cariad.
Cofiwch os oes 'na unrhyw beth diddorol yn digwydd yn eich ardal chi anfonwch e-bost at hywel@bbc.co.uk.