Fel y gwynt ac yn gynta'
Oherwydd mod i wedi enill ras ŵy a llwy ym Mabolgampau Ysgol British Llangefni ym 1949, roeddwn i'n ddigon haerllug i gredu y gallwn i leisio fy marn am Usain Bolt. A dyna pam y gwnes i drydar neithiwr y byddai'r disgybl, Yohan Blake, yn trechu'r Meistr. O chwi o ychydig ffydd!
Mewn llai o amser (9.63 eiliad) na gymerodd hi i mi drydar na fyddai'r daranfollt o Jamaica yn ennill y ras - 'roedd o wedi gwneud! Coroner Bolt yn ben, a pheidied neb a gofyn i mi ar y Maes heddiw broffwydo a fydd na goroni a'i peidio. Dwi ddim yn gwybod, ac yn bwysicach, dwi ddim eisiau gwybod, nac yn cael gwybod nes bydd yr Archdderwydd yn cyhoeddi ffug-enw.
Ar y llaw arall mi fedrai ddeud wrthach chi beth ddigwyddodd ym 1968 pan oedd yr Eisteddfod ym Mro Morgannwg diwetha'. 'Roedd na deilyngdod - yn dilyn shambls! Roedd Waldo o blaid coroni Haydn Lewis, Tomos Parry am roi'r goron ar ben Huw Llywelyn Williams ac Euros Bowen am roi'r wobr i Dafydd Rowlands.
Felly beth ddigwyddodd? Wel, ymhell cyn dyddiau Chris Tarrant a "Who Wants to be a crowned bard" - fe ffoniwyd ffrind, sef Alun Llywelyn-Williams, ac fe gytunodd o efo Waldo.
'Ew' medda chi' efallai na tydi Gwynfryn dim yn gwybod unrhywbeth am athletau, ond mae o'n wybodus iawn am hanes yr Eisteddfod.' Nac ydw wir. Dwi'n ffan mawr o'r safle Canrif o Brifwyl, lle mae gwybodaeth am Eisteddfodau'r gorffennol wedi ei hel a'i ddidoli gan yr Olympian llenyddol - Alan Llwyd.
Fodd bynnag os da chi am wybodaeth am y cystadlu heddiw, ac am weld seremoni'r coroni prynhawn ma (gobeithio!) ewch i'n safle ni bbc.co.uk/eisteddfod.