Pytiau Eisteddfodol Sul
Mewn yn gynnar erbyn tua 7 30. Glyn EvansÌý(gweler ei flog dyddiol ar bbc.co.uk/eisteddfod), i fewn eisoes. Wyddwn i ddim nes i mi ddarllen y blog, mai ystyr Llandw ydi Llan-Duw. Diolch Glyn. Ond tydio ddim yn olrhain tarddiad Llandough.
Felly gadewch i mi eich goleuo chi. Pentre bychan iawn oedd Llandough ers talwm, lle roedd pobol yn byw bywyd hamddenol. Byth yn brysio i unman. Pawb yn cerdded yn ‘dough, dough.’
Hywel yn gweithio'n galed yn yr Eisteddfod!
’Rol a chig moch ym mwyty Bethan am 8. 9.30, dechrau paratoi i sŵn canu emynau o’r pafiliwn - oedfa’r Eisteddfod dan arweiniad y Parchedig Kevin Davies.
Yr emyn oedd - Bydd yn ŵrol paid a llithro - cyngor i unrhyw un sy’n ceisio ochorgamu pyllau mwd sydd yma ac acw ar y maes. Ond fe ddaeth y Nefol wynt, a’r haul cynnes i sychu’r mwd sychu’r maes. Falle fod Kevin Davies wedi gael gair bach tawel efo Rhywun.
Thema’r oedfa oedd ‘Cario’r Fflam’ a neithiwr roedd Mo Farrar yn y stadium Olympaidd yn rhedeg ac yn ennill y ras 10,000 medr. Sgwn i be’ fasa thema ei bregeth o i redwyr ifanc y dyfodol. Geiriau Paul, ella?:
‘Mi a ymdrechais ymdrech deg, mi a redais yr yrfa, mi a gedwais y ffydd.’
Gyda llaw, hoffais y pennawd uwchben llun o’r rhedwr yn y papur bore ‘ma, a fynta yn hedfan o amgylch y trac am y tro ola. Dau air yn unig - FLY MO!
Ar fy ffordd i’r stiwdio ar gyfer tair awr o ddarlledu fe ddaeth rhywun ataf a chynnig bisced i mi efo darn tena o gaws llwydaidd yr olwg, a thaflen gyda holl hanes Cymdeithas i’r rhai hynny sydd am fyw bywyd y figan. Wel, pawb at y peth y bo, ond ar ol bwyta’r caws - figan ddim diddordeb. A beth bynnag roeddwn i newydd gladdu rol cig eidion.
P'nawn ma fe fydd Rhiannon a finnau yn eich cwmni chi yn cael mwynhau mwy o sŵn y bandiau pres, sain y corau, yr unawdwyr dan 12, y llefarwyr unigol a’r grwpiau offerynol ar Radio Cymru, a chofiwch fod na lif cyson o gystadlu a gwybodaeth ar ein safle ni bbc.co.uk/eisteddfod.