³ÉÈËÂÛ̳

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Hywel Gwynfryn yn cyrraedd yr Eisteddfod

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 09:46, Dydd Sul, 5 Awst 2012

Ar y maes yn gynnar, bore dydd Gwener tua hanner awr wedi saith a chael cwmni Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith Dylan Jones ar ei ffordd I'r cae. Dangos fy nhocyn yn y brif fynedfa. Y dyn ddim yn hapus. "Ond mae o'n deud dydd Sadwrn arno fo" 'Ydi" medda'r dyn "Ond nid dydd Sadwrn yma-dydd Sadwrn nesa!" Wrth lwc y Penbandit tocynyddol ydi brawd Meical Pofi, aelod anrhydeddus iawn o'r clwb cyri, ynghyd ac Alwyn Humphreys, Rhisart Arwel, Geraint Jones a finnau, felly er nad oedd tocyn gŵr y Tikka, yn iawn, fe ges i faddeuant a mewn â mi.

Y tîm yn cyfarfod am 10.30. Rhiannon Lewis, Nia Lloyd Jones a Stifyn Parri. Mae Stifyn wedi bygwth cerdded o gwmpas y maes mewn pâr o drôns nofio gan ei fod o wedi gwirioni ar y nofio yn y Mabolgampau Olympaidd! Fe fydd y blog yma yn eich rhybuddio lle bydd Stifyn yn ei Speedos, er mwyn i chi fedru osgoi yr ardal honno . Rhiannon wedi cael persawr newydd yn arbennig ar gyfer yr ŵyl, naill ai Tregaron Nights neu Silian Sensation - 'doedd hi ddim yn cofio. P'nawn o wrando ar y bandiau a'r corau. Un band yn cael ei arwain gan gyfrifydd - addas iawn gan mai band pres oedd o.

Cyfrol Eisteddfodol wedi dwad i law- cyfrol o farddoniaeth, Cyril Jones - Eco'r Gweld. Mae o'n brifardd coronog ac yn un o feirniaid y Goron eleni. Yn addas iawn, gan ein bod ni ym Morgannwg, mae o wedi cynnwys nifer o dribannau - un i Shane Williams sy'n cael ei urddo i'r Orsedd:

SHANE

I'r chwith, I'r dde, mae'n gwibio

Fan hyn, fan draw, mae'n ffugio

Ond Aman bach a fydd yn ben

A'r linell wen o dano.

Cofiwch os yda chi am wylio'r holl berfformiadau o'r eisteddfod ewch i bbc.co.uk/eisteddfod

Mwy o’r blog hwn…

Pynciau dan sylw

    °ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

    Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

    Cyfranwyr diweddaraf

    ³ÉÈËÂÛ̳ iD

    Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

    ³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.