|
Dathlu G诺yl Ddewi Cyfrol benigamp i blant - ac athrawon
Adolygiad Linda Edwards o Dathlu G诺yl Ddewi gan Elin Meek. Carreg Gwalch. 拢6.95
Mae'r awdur Elin Meek yn gyn athrawes Almaeneg a Chymraeg ac yn gyn ddarlithydd yn adran y Gymraeg yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin - ond ar hyn o bryd yn addasu a chyfieithu llyfrau.
Mae eisoes wedi addasu llawer o lyfrau i'r Gymraeg i blant ac oedolion - gweithiau awduron fel Roald Dahl a Jacqueline Wilson - a hefyd wedi ysgrifennu llawer o lyfrau addysgiadol i blant.
Mae hefyd wedi ysgrifennu straeon gwreiddiol yn y Gymraeg i blant gan gynnwys Stori Cyn Cysgu yn 2005, eto wedi ei gyhoeddi gan Carreg Gwalch.
Mae ei llyfr diweddaraf, Dathlu G诺yl Ddewi, wedi ei anelu at blant Cyfnod Allweddol 2 - sef plant saith i 11 oed, ac yn hynod ddeniadol a lliwgar; yn llawn lluniau gwych sy'n si诺r o agor drws dychymyg i oes a chyfnod Dewi ond hefyd yn frith o ffotograffau o blant o wahanol ysgolion yn dathlu G诺yl Dewi, ynghyd 芒 lluniau o wledydd tramor yn dathlu.
Mae ynddo hefyd gerddi newydd yn s么n am 糯yl Ddewi wedi eu rhoi at ei gilydd gan blant ysgol yng nghwmni'r beirdd Twm Morys, Iwan Llwyd, Myrddin ap Dafydd a Meirion McIntyre Huws.
Gwneud cawl Mae yma rysetiau clir a hawdd i'w dilyn ar sut i wneud cawl cennin a sut i wneud pice -Welsh cakes; a chyfarwyddiadau manwl ar sut i ddylunio cennin a chenhinen bedr.
Cawn wybod pam fod cennin pedr, y Ddraig Goch a symbolau eraill yn rhan mor bwysig o'n dathlu, a chawn weld sut bydd plant ac oedolion Cymru a thramor yn dathlu'r 诺yl a chipolwg ar wisgoedd traddodiadol a newydd.
Ffeithiau difyr Ond mae'r llyfr yma yn llawer mwy na hyn hefyd - mae ffeithiau difyr am Ddewi ynddo ac am fywyd bob dydd yn oes y seintiau, ynghyd 芒 hanes teithiau'r pererinion, gyda map clir.
Mae hanes adeiladu'r Gadeirlan yn Nhyddewi a'i hynt a'i helynt drwy'r canrifoedd; hanes y wisg Gymreig a hanes baner y Ddraig Goch a phryd a pham y bu i Gymry wisgo cennin gyntaf - ffeithiau difyr wna apelio at bawb fel ei gilydd, ac a wna'r llyfr hwn yn gyfeirlyfr angenrheidiol i bob llyfrgell gyhoeddus, pob llyfrgell ysgol, a phob cartref.
Addtsg grefyddol Yn ogystal, mae'n adnodd pwysig i athrawon Addysg Grefyddol cyfnod allweddol 2 lle mae angen addysgu disgyblion am rai ffigyrau crefyddol pwysig yng Nghymru ac i athrawon Cymraeg Ail Iaith lle mae dysgwyr angen gwybod am draddodiadau a dathliadau Cymru.
Gwybod yn iawn Fel cyn athrawes, mae'r awdur yn gwybod i'r dim beth wnaiff apelio fwyaf at blant ac wedi cynnwys llawer o chwedlau yma fydd yn si诺r o dynnu d诺r o'u dannedd!
Chwedl fel y cynllwyn i ladd Dewi a Sguthyn, disgybl Aeddan Sant, yn cael ei gludo gan anghenfil y m么r i rybuddio Dewi, ac yn cyrraedd yn union fel roedd y mynachod yn eistedd i lawr i ginio, eiliadau cyn i'r cynllwynwyr ddod 芒 bwyd wedi ei wenwyno i Ddewi!
Fel y g诺yr yr awdur yn iawn, bydd plant o bob oed wrth eu boddau yn darllen y rhain neu'n gwrando arnynt.
Mae'r chwedlau yn gwneud y llyfr yma yn berl i bob silff lyfrau.
Mewn gair - penigamp.
Gweler Gwales
Cysylltiadau Perthnasol
Elin Meek yn sgwrsio gyda Gaynor Davies
Plant yn defnyddio'r llyfr
|
aled jones maen dda iawn oherwydd maen hwil ir plant a maen gweud y stori gwyl dewi yn dda.
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人论坛 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|