Portreadau o gymeriadau hynod
Adolygiad Glyn Evans o Iaith y Brain ac Awen Brudd - portreadau gan Harri Parri. Gwasg y Bwthyn. 拢9.
Dim ond darllen paragraff cyntaf y gyfrol hon ac yr ydych yn gwybod yn syth eich bod yng nghwmni sgrifennwr y bydd yn bleser pur bod gydag ef.
Ni ellid gwell na dyfynnu'r paragraff hwnnw i gyfleu naws a natur y gyfrol.
"G诺r heulog oedd William Parry, Bodwyddog Fawr, brawd 'nhad, ar wah芒n i'r adegau prin hynny pan 芒i'r haul hwnnw o dan gwmwl ac aros felly, weithiau, am gyfnodau hir. Math o ffarmwr hamdden oedd o wrth ei alwedigaeth, a hen lanc. Math o ffarmwr a allai fforddio llusgo'i draed ym Mhwllheli ar bnawniau Mercher heb orfod brysio adra i odro; cyrchu i ocsiynau ar hyd a lled Pen Ll欧n; mynd i'r mart yn Sarn Mellteyrn wedyn ar ddydd Gwener, a chael un glasiad o stowt yn Nh欧 Newydd cyn troi am adra. Roedd o'n gefnogwr i gonsart a chyfarfod pregethu, os oeddan nhw o fewn cyrraedd. Mynychai gapel Pencaerau ar y Suliau, gyda chysondeb mawr, ond heb yr ham-byg o orfod newid dillad rhwng oedfeuon - fel y gwn芒i 'nhad. Ar nosweithiau rhydd roedd rhaid galw heibio i gymdogion i gael g锚m o gardiau (os oedd hi'n aelwyd a ganiat芒i ddifyrrwch felly) ac aros yno hyd berfeddion nos i frywela a diddori. Ond wedi nosweithiau hwyr o'r fath doedd hi ddim yn hawdd i ddyn godi'n rhesymol fore drannoeth - ffarmwr neu beidio. I'w chwaer, Anne, y disgynnai'r gorchwyl o'i ddeffro."
Hudo darllenwyr
Mewn swyddfeydd papur newydd arferai hen lawiau dreulio oriau yn diamynedd ddysgu cybiau ifanc sut i sgrifennu paragraffau agoriadol fyddai'n hudo darllenwyr i ddarllen gweddill stori.
Bod yn fyr ac yn gryno oedd un rhinwedd yn yr ymdrech hon i fod yn ddigon trawiadol i gipio'r dychymyg.
Mewn ysgrif lenyddol dydi'r byrder hwnnw ddim cweit mor allweddol gan fod mwy o le i droi a bagio ar ddalen llyfr na rhwng colofnau papur ond fe ddywedwn i fod 'brawddeg y g诺r heulog' uchod yn ateb y ddau ddiben.
A'r paragraff yn ei gyfanrwydd yn codi archwaeth wrth i'r awdur hwylio ei ford lenyddol ar ein cyfer.
Mae yma briodas ddedwydd rhwng sylwgarwch a sgrifennu crefftus.
Mae yma Gymraeg llithrig a lliwgar.
Mae yma lenor.
Ac nid yw'r gyfrol yn siomi wrth iddi fynd rhagddi.
Cael eich swyno
O'i bath y mae Iaith Brain yn gyfrol sy'n addysg ac yn fwynhad - yn un y byddai'n fuddiol i unrhyw un sy'n meddwl llunio ysgrifau portread dreulio amser rhwng ei dalennau - a chael eu swyno mewn byd hudolus ddiflanedig.
Mae Harri Parri yn feistr ar ddarlunio gyda thynerwch a hiwmor ffordd o fyw, a'r bobl oedd yn ei byw, ym Mhen Ll欧n ddyddiau fu.
Wrth gwrs, ni fydd hynny'n syndod i'r rhai hynny sydd eisoes yn gyfarwydd ag amryw straeon awdur sydd yn rheng flaenaf ein sgrifenwyr.
Campau
Er mai llyfr am bobl go iawn yw hwn mae ynddo ddisgrifiadau na fyddent yn chwithig yn un o straeon Carreg Boeth neu Borth yr Aur. Dyna'r hanesyn am Jemeima, morwyn yr Hendra, yn ceisio dynwared campau gymnasteg un o'r enw Wil Ellis oedd yn gallu eistedd ar ei gwrcwd a'i goesau tu 么l i'w ben:
"Mi steddodd [Jemeima] ar 'i thin ar yr aelwyd, o flaen y gr芒t, ac mi gafodd un goes dros i hysgwydd. A wir iti, hefo dipyn o ymdrech mi gafodd y llall wedyn. Ond yn wahanol i Wil, fedra Jemeima ddim chwalu wedyn. Dyna lle roedd hi, fel ryw 诺ydd newydd i phluo a'i syspensions hi i gyd yn golwg . . ."
Pobl a chymdeithas a liwiodd ac 芒 fowldiodd yr awdur a'i wneud yr hyn ydyw yw cynnwys Iaith Brain. Ond nid mewn unrhyw ffordd bregethwrol y cyfl毛ir hynny
Iaith wneud
Iaith y brain yn y teitl yw iaith wneud cwbl annealladwy i'r rhelyw - ond i'w chlywed fel pe byddai'n gwbl siaradadwy i'r glust - y byddai rhai yn Ll欧n yn ei harfer ar un adeg er difyrrwch ond yn arfer sydd wedi diflannu o'r tir erbyn hyn er bod Harri Parri yn cynnwys paragraff yn enghraifft yn y llyfr hwn - "Iwnial coles jeifus wefing membrans getting oilid " ac yn y blaen.
Barddoni
Gwrthrych yr "awen brudd" yn y teitl yw modryb yr awdur, Mary Tyddyntalgoch Uchaf a gyfansoddodd ddegau ar ddegau o benillion cofio trwm eu cyfeiriadaeth Feiblaidd a hael eu canmoliaeth ar gyfer y wasg Gymraeg gan gynnwys cerdd bob diwedd blwyddyn yn rhestru pawb o'r ardal adawodd y fuchedd hon yn ystod y deuddeng mis a aeth heibio.
Ond er mor ddiwyd a deheuig oedd hi'n llunio'r penillion hyn ni fyddai'n troi ei llaw at unrhyw fath arall o ganu.
Un o nifer o gymeriadau cyfrol hawdd ymgolli ynddi yw hi.
Ychwanegir at ddifyrrwch a rhinwedd y gyfrol gan nifer helaeth o hen luniau perthnasol. Amryw ohonynt 芒 chymaint o bethau o ddiddordeb yn eu cefndir ag yn y prif wrthrychau.
Cyfrol hyfryd, werth chweil.