Adolygiad Marged Davies o MrchDda@ gan Meleri Wyn James. Cyfres Whap. Gomer. 拢4.99.
Fel y byddai rhywun yn ei ddisgwyl oddi wrth y clawr a'r teitl, nofel gyfoes i'r arddegau yw hon.
Mae'n delio 芒 realiti bywyd merch 13 oed gan bortreadu'r peryglon sy'n wynebu'r arddegau pan yn mentro i sgwrsio ar safleoedd sgwrsio ar y we.
Mae'n Nofel sy'n addas i rai 10 i 13 oed.
Prif gymeriad y nofel yw Eli, merch sy'n boblogaidd, yn ddel ac yn alluog, ond merch hefyd nad oes ganddi gariad.
Deuwn i adnabod rhieni Eli 芒 rhai o'i ffrindiau agos fel Charlotte sy'n dwyn cryn dipyn o bwysau ar Eli i fentro i fyd serch.
Pan gaiff Eli gyfrifiadur yn anrheg pen-blwydd gan ei rhieni nid ar gyfer gwaith cartref yn unig y mae'n ei ddefnyddio yn ei hystafell wely ond i geisio canfod cariad ar ystafell sgwrsio ar y w锚.
Camp y nofel yw dangos pa mor rhwydd yw celu cyfrinachau hyd yn oed mewn teulu clos a hapus.
Chawn gip effeithiol ar fyd cyfathrebu mentrus a chyflym yr arddegau; mae yma decstio ar ffonau symudol, er rhaid bod yn effro i wybod pwy sy'n siarad 芒 phwy ar adegau.
Mae'r nofel yn rhyw fath o rybudd.
Yn wers sy'n dangos pa mor beryglus yw'r ystafell siarad ar y we gan s么n am fygythiad y pedoffeil; pwnc difrifol iawn yr ydym yn clywed mwy a mwy amdano ar y newyddion y dyddiau hyn.
Mae MrchDd@ yn nofel sy'n gafael ac yn ein hysgogi i ddarllen ymlaen.
Fel y mae'n dweud ar gefn y nofel, mae'n "nofel ddirdynnol sy'n hawlio sylw ac ymateb".
Rhowch gynnig arni, ni chewch eich siomi!
Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 成人论坛 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008
Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi