|
Ocsiwn Bob Owen Llun gan Kyffin - llythyr Caradog Prichard, chwip o Batagonia - a mwy. . .
Bydd llun gan Kyffin Williams a llythyrau dadlennol am Caradog Prichard ar werth mewn ocsiwn ddydd Sadwrn, Medi 23, 2006.
Mewn llythyr mae'r bardd a'r llenor yn dweud sut yr oedd yn methu a chysgu yn dilyn darlith aflwyddiannus i fyfyrwyr ym Mangor!
Cynhelir yr ocsiwn yn ystod ffair lyfrau flynyddol Cymdeithas Bob Owen yn Ysgol y Berwyn, Y Bala.
Fel rheol mae'r ffair yn denu rhai cannoedd o bobl yn brynwyr ac yn werthwyr a dywedodd Mel Williams sy'n ei threfnu mai ei obaith yw y bydd yr ocsiwn yn tynnu mwy fyth o bobl.
Mr Williams, sy'n olygydd Y Casglwr, cylchgrawn Cymdeithas Bob Owen, fydd yr arwerthwr a dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at werthu pethau sy'n amrywio o chwip a wnaed gan garcharorion ym Mhatagonia i bedwar cwpan wy yn dwyn y geiriau, "A present from Bala."
Llythyr Caradog Er bod y ffair ei hun gyda 50,000 a mwy o lyfrau yn agor yn y bore am ddau y pnawn y bydd yr ocsiwn.
"Heb os mi fydd yna ddiddordeb mewn print o un o luniau Kyffin Williams wedi'i rifo a chyda'i lofnod gwreiddiol," meddai Mel Williams.
O ddiddordeb arbennig i'r llengar bydd dau lythyr "dadlennol" gan Caradog Prichard lle mae'r nofelydd yn disgrifio ymweliad a'r Coleg Normal a aeth o chwith!
"Yr oedd Caradog wedi cael gwahoddiad i ddarlithio i fyfyrwyr Y Coleg Normal yn 1965 ac yn ei dyb o, methodd yn lân â thorri drwodd a chael unrhyw argraff arnynt," meddai Mel Williams.
"Dyma mae o'n i ddweud yn y llythyr: 'Yn wir mi dderbyniais lawer mwy nag a roddais rhwng y gwartheg yn brefu trwy'r noson yn y stesion a phangau edifeirwch am fethu a rhoi teilyngach stwff i gynulliad bach mor frwd a deallus, chysgais i ddim winc drwy'r nos.'
"Mae'n debyg fod y gwesty lle'r arhosodd wrth y stesion a dyna'r rheswm iddo glywed y gwartheg," meddai Mel Williams.
Cardiau post Ar werth hefyd bydd cardiau post yn dangos Suffragette â'r frawddeg, "I want your vote a bostiwyd at T. I. Ellis ar Ebrill 27.
Gellir cynnig hefyd am Neges Ewyllys Da gyntaf erioed yr Urdd yn dyddio o 1922.
Bydd bwydlen a llofnod Canghellor Awstria a lofruddiwyd gan y Natsiaid hefyd o ddiddordeb arbennig.
Beth sydd ar werth? Dyma'r rhestr gyflawn ddiweddaraf o'r hyn fydd ar werth gydag amcan o'r prisiau tybiedig:
1. Gwasg Gregynog: Neges Ewyllys Da plant Cymru 1922 (Hon oedd y
darlleniad cyntaf un) - £15-£20
2. Map o Dreffynon ynghyd â disgrifiad o'r dref. Un o'r mapiau a gynhyrc wyd ar gyfer ail ddiffinio'r terfynau, 1867/68 - £12-£15
3. Copi o'r gyfrol 'Y Genod yn ein Bywyd' gan Caradog Prichard, 1964 gyda
chyflwyniad gan yr awdur ynghyd â thoriadau papur newydd, - £12-£15
4. Dau lythyr dadlennol gan Caradog Prichard at y Prifathro Thomas Rees - £25-£30
5. Watcyn Wyn. Casgliad o ddeg o'i weithiau 1880 - 190 6 mewn dwy gyfrol. Y ddwy gyfrol mewn octavo ac wedi'u rhwymo mewn dau chwarter morocco bwrgwyn. Y meingefn wedi ei rhwbio ychydig, ac yn dod o lyfrgell Mrs. Watcyn Wyn (Anne Davies Wyn) gyda'i llofnod ar un gyfrol ynghyd â thoriadau diddorol iawn. Cyflwr da iawn. Ynghyd â Chofiant Watcyn Wyn gan y Parch Penar Griffiths 1915. - £55-£60
6. Else Lasker-Schuler. Cerddi. Wedi'u darlunio gyda bloc lein gan Josef Herman.Tern Press 1980. 1/130 copi yn unig (rhif 69) Arwyddwyd gan y cyfieithydd (Nini Ettlinger) a Herman - £55-£60
7. Poems by Dylan Thomas. Dewiswyd gan Aeronwy Thomas, Granville Press Pamphlets 2005. Fel newydd. Pamffledyn rhif 1/100 gyda llofnod Aeronwy. - £12-£15
8. John Dyer. Grongar Hill and other poems. The Grongar Press 1977. 1/200o gopiau (rhif 105) a arwyddwyd gan John Petts a baratodd bedwar engrafiad â'r cyflwyniad gan Lynn Hughes. - £35-£40
9. Corn car - £12-£15
10. Chwip ceffyl wedi'i wneud gan garcharorion o Batagonia. - £12-£15
11. Teclyn a ddefnyddiwyd gan Euros Bowen i gadw ei gyfeiriad yn Rheithordy Llangower - £12-£15
12. Print lliw o waith y diweddar Syr Kyffin Williams o bentref yn Sir Fôn wedi ei arwyddo gan yr arlunydd (201/750) - £150-£200
13. Cwpan a soser Gaudy Welsh wedi ei haddurno mewn patrwm tiwlip - £40-£50
14. Tair cwpan wy ar stand wedi ei arddurno gyda'r ysgrifen 'A present from Bala' - £15-£25
15. Dau lyfr hanesyddol 'Episcopal Acts Relating to Welsh Dioceses 1066- 1272' a They Fought in North Wales gan Norman Tucker - £20-£30
16. Calendar of the Caernarvonshire Quarter Sessions Records. - £12-£15
17. The Towns of Medieval Wales gan Ian Soulsby Gwasg Phillimore 1983 - £12-£15
18. Jwg porslen gan Royal Worcester wedi'i addurno mewn aur. Victoria. - £12-£15
19. Powlen siwgr o wydr ceiriosen y wern (cranberry) yn dyddio o Oes Fictoria - £10-£15
20 Poster A5: GWR New Halt at PENHELIG between Gogarth and
Aberdovey yn cynnwys amserlen - £6-£10
21. Rhaglen Cinio ac Eisteddfod Clwb yr Efail, Llanrwst, 1953. Llofnodion 14 o'r aelodau, gan gynnwys T. Glyn Davies a'r Gŵr Gwadd, John
Gwilym Jones - £3-£5
22. Cyfrol fechan o gerddi Augustus May Georgina Heap, oedd â'i chyfeiriad ym Mae Penrhyn, Llandudno -'Dedicated to the Lasting Glory of the Fighter Pilots of the Royal Air Force... in the Battle of Britain, September, 1940...'Llythyr bach rhydd ganddi at Mr. Ellis yn Hyd. 1940 yn diolch am y P.O. o swllt y byddai'n anfon at y 'Spitfire Fund'. Hefyd
yn rhydd taflen swyddogol ar ran y frenhines (sef gwraig Siôr V) yn cydnabod derbyn copi ym 1940. Credir mai nifer cyfyngedig iawn a gyhoeddwyd, o bosib 200 - £12-£15
23. PUM PLWY' PENLLYN. Hanes gweinyddiad cyfreithiau y tylodion yn y plwyfi uchod am y rhan fwyaf o'r ddwy ganrif ddiwethaf -1720-1987
gan G. Roberts (Gwrtheryn). Cyhoeddwr: D. Roberts, Llyfr-rwymydd, Bala 1897. 116tud. c.m. Glân ond traul i'r cloriau PRIN. - £20-£25
24. Cwpan Wobr arian pur o'r flwyddyn 1936 - £15-£20
25. A Sketch of the History of BALA Grammar School 1713-1893 gan R. T.Jenkins. Adargraffiad o Cofnodion Cymdeithas Hanes Meirionnydd
1951 c.m. 'Gyda chofion R. T. J - £4-£6
26. ARAN: Magazine of the Bala Boys' Grammar School. Summer, 1959
No.8. Un o'r 'School Editors' oedd rhyw Dafydd Iwan Jones gyda phwt o olygydd... yn Saesneg. Chwarae teg! Cyfraniadau arall ganddo (yn Gymraeg) ac Edward a Geraint Lloyd Owen - £3-£6
27. Detholiad o Ryddiaith Gymraeg R. J. DERFEL. 2 gyfrol. Y ddwy
wedi'u llofnodi gan y golygydd, sef, Gwenallt - £8-£10
28. Hanes Cynulleidfa Hen Gapel Llanuwchllyn gan R. T. Jenkins 1937.
'Evan Roberts gyda pharch a diolch yr awdur' - £8-£10
29. Ysgrifau T. H. Parry-Williams 1932 - £8-£10
30 . Roger Bacon in Life and Legend. E. Westacott, 1935 gyda'r arysgrif canlynol gan J .C. P.: 'For my Best & most admired WelshWriter & Critic along with Timothy Lewis - for him who is our best local Historian beyond everyone EVAN ROBERTS - Ieuan Derfel of Bod Alaw,
Llandderfel from his loyal and affectionate devotee J. C. P. on the
thrilling moment of his visit here & here he is ! Dydd Gwener Aug 12,
1955' - £12-£15
31. DAFYDD ap GWILYM FIFTY POEMS. Translated by H. I. & D. Bell. Cymmrodorion 1942. ' E. R. from his faithful & affectionate & admiring friend J. C. P. August 1942' - £18 -£22
32. Llythyr gan Kate Roberts - £8-£10
33. Dau rifyn o The Religious Revival in Wales, Rhifynnau 2 a 3, cyhoeddwyd gan y Western Mail - £12-£15
34. Gwasg Gregynog: Caniadau T. Gwynn Jones Rhif 101 o 500 (wedi'i lofnodi gan yr awdur. - £55-£60
35. Ambitions and other Poems, W. H. Davies 1 o 100 (lofnod yr awdur)- £30 -£35
36. A Treasury of Art Masterpieces from the Renaissance to the Present Day. Ed: Thomas Craven. Simon and Schuster, New York, 1939 (2ail arg.) Llyfr mawr o beintiadau lliw - mewn cyflwr da. Arysgrif: Evan friend J. C. P, Feb. 27th 1955'. Wedyn dyfyniadau mewn Eidaleg ac yna Saenseg yn llaw J. C. P.'There direct upon the green enamel were shewn to me the great spirits so that I glory within myself for having seen them' Disgrifiad Dante o ebergofiant. £20-£25
37. Plât Dathlu Eisteddfod yr Urdd Bro Colwyn, 1980 gydag englyn gan D. J. ar y cefn (cyllunydd E. Meirion Roberts) - £12-£15
38. Plât Dathlu Eisteddfod yr Urdd, Llŷn ac Eifionydd, Pwllheli 1982. Engrafiad o borthladd yn y canol gyda 12 o rai amrywiol, llai oddi amgylch. Englyn LLEYN gan J. Glyn Davies ar y cefn. Rhif 430. (cynllunydd E. Meirion Roberts) - £12-£14
39. Plât Dathlu Eisteddfod yr Urdd Llyn ac Eifionydd, Pwllheli, 1882. Engrafiad o'r Lôn Goed yn y canol gyda 12 o rai amrywiol llai oddi amgylch. Englyn EIFIONYDD gan Evan G. Hughes ar y cefn. Rhif 1890 - £12-£15
40 Llythyr gan R .S. Thomas o Reithordy Manafon (1947) - £20 -£25
41. Cerdyn post yn dangos gweithiwr yn Chwarel Trefor - £5-£8
42. Dau Gerdyn Post o'r Mudiad y Suffragette gyda'r capsiwn: 'Persuading a suffragette' ac 'I want my vote' - £8-£10
43. Cerdyn Post Llyfrgell Genedlaethol Cymru am 1926 yn dangos ci yn
gweithio olwyn rostio cig dros y tân - £8-£10
44. Dau Gerdyn Post Almaenig yn dangos Llong awyr (Zeppelin) am 1912 at T. I. Ellis - £8-£10
45. Cerdyn post at T. I. Ellis ym 1925 yn dangos gweinyddesau a weithiai yn Ysbyty Lerpwl, yn y Congo - £5 - £8
46. Bwydlen Swper Dathlu Yr Urdd (chwarter canrif cyntaf yr Urdd) 1922 - 1947 yn Neuadd y Brenin, Aberystywth. Ceir Llofnodion nifer megis David Jenkins, J. R. Jones - £12-£15
47. Bwydlen Cinio ar gyfer 'The Tenth Plenary Congress of the International Federation of League of Nations Societies - The Annual Conference of the Welsh National Council of the Leaque of Nations Union(June 29 - July 3, 1926). Llofnodwyd ar y cefn gan Engelbert Dollfuss, (Canghellor Awstria o 1932 tan ei lofruddiaeth yn 1934); Dorothy Gladstone, David Davies (Llandinam) a Gwilym Davies (Awdur Neges Heddwch yr Urdd) (Ceir taflen yn rhoi cofiant byr i Dollfuss) - £15-£20
48. Adargraffiad o Egluryn Ffraethineb sef Dosbarth ar Retoreg gan
Henri Perri 1595, Caerdydd 1930 - £12-£15
49. Iolo Manuscripts ailargraffiad 1888, cyf. gan ei fab Taliesin
Williams - £110-£120
50. Holl Weithiau Prydyddawl a Rhyddieithol, William William Panycelyn, gol. J. Kilsby-Jones 1867 - £6-£7
51. 1 kilo o edafedd gwau dwbl heb ei lifo o flew myn wedi'i dyfu a'i nyddu yng Nghymru - £45-£50
52. Dau bamffledyn gan George M. LL. Davies ynghyd â dau lythyr ganddo, un mewn llaw ysgrifen a'r llall mewn teip(prin) - £18-£20
Cymdeithas Bob Owen Sefydlwyd Cymdeithas Bob Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi a'r Cylch yn 1976; wedi ei henwi ar ôl y casglwr a'r hynafieithydd, Bob Owen Croesor.
Cyhoeddwyd rhifyn cyntaf Y Casglwr fis Mawrth 1977 dan olygyddiaeth John Roberts Williams a fu'n olygydd am 15 mlynedd.
Mae'r Casglwr yn ymddangos dair gwaith y flwyddyn. Tâl aelodaeth y Gymdeithas yw, £7.50 y flwyddyn.
Cysylltiadau Perthnasol
Caradog Prichard
Byd a Bywyd Caradog Prichard
Kyffin Williams
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ³ÉÈËÂÛ̳ Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|