|
Vaughan Hughes a'i gwestiwn i adolygwyr Ymateb gwahanol beirniaid ac adolygwyr i nofel yn codi cwestiwn pigog
Stori gyda thri chlip sain gwahanol
Tynnodd Vaughan Hughes nyth cacwn yn ei ben gyda chwestiwn am adolygwyr Cymraeg yn Y Cymro
Mewn erthygl 25 Ionawr 2008 holodd Mr Hughes tybed a yw adolygwyr yn ymateb yn wahanol i weithiau ll锚n os ydyn nhw'n gwybod pwy yw'r awduron ac os yw'r awduron hynny eisoes wedi gwneud enw iddyn nhw'u hunain.
Dydi hwn ddim yn gwestiwn newydd wrth gwrs, nac yn gwestiwn Cymreig yn unig, fe'i codwyd gan Alexander Pope yn ei Essay on Criticism yn y ddeunawfed ganrif ac yn ei ddrama Fanny's First Play mae un io gymeriadau Bernard Shaw yn dweud;
"Dydych chi ddim yn disgwyl i mi wybod beth i'w ddweud am ddrama pan nad ydw i'n gwybod pwy yw'r awdur. Os yw hi gan awdur da yna'n naturiol mae hi'n ddrama dda. Mae hynny'n sefyll i reswm!"
Beirniaid llugoer - adolygwyr canmoliaethus Ond yr hyn a sbardunodd Vaughan Hughes yn awr oedd ymateb llugoer beirniaid mewn cystadleuaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol i nofel ddiweddaraf Angharad Tomos, Wrth Fy Nagrau I, ac ymateb tra chanmoliaethus adolygwyr, i'r un nofel yn union,wedi iddi gael ei chyhoeddi.
Cafodd gyfle i ymhelaethu ar y rhaglen radio Wythnos Gwilym Owen yng nghwmni Harri Pritchard Jones, un o feirniaid Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Y Fflint a Kate Crockett a fu'n adolygu'r nofel ar wefan Gwales lle disgrifiodd y nofel fel campwaith.
Yr hyn oedd wedi goglais Vaughan Hughes oedd nad oedd yr un o feirniaid swyddogol yr Eisteddfod Genedlaethol yn rhestru Wrth Fy Nagrau I ymhlith y rhai a ddaeth yn agos at frig y gystadleuaeth.
"Yn nosbarth 2(b) y gosodwyd hi gan Annes Glynn. Yn nosbarth 2(a) y gosodwyd hi gan Robat Arwyn. Yn nosbarth 2 (heb lythyren) y gosodwyd hi gan Harri Pritchard Jones," meddai yn Y Cymro gan ychwanegu:
"Nid oedd yr un o'r tri beirniad ychwaith yn argymell y dylid cyhoeddi'r nofel, sef yr hyn sy'n digwydd fel rheol yn achos ymgeiswyr anfuddugol o safon uchel."
Heb argyhoeddi
Yn wir, wrth feirniadu'r gystadleuaeth cwynodd Annes Glynn nad oedd y nofel na'i phrif gymeriad yn "argyhoeddi" a bod y ddeilaog "at ei gilydd, yn ddi-fflach ac yn amhriodol ddoniol" a'r bennod olaf yn "bregeth/llith athronyddol braidd".
Barn go wahanol i un adolygwyr wedi hynny a'r nofel yn cael ei chymeradwyo am wobr Llyfr y Flwyddyn hyd yn oed.
Pawb yn gwybod Ac meddai Vaughan Hughes yn Y Cymro:
"Wrth gwrs, pan gyhoeddwyd y nofel roedd pawb yn gwybod pwy oedd yr awdur. A dyna ddod 芒 ni at y cwestiwn mawr. Cymaint yw edmygedd carfan o'r Cymry i unplygrwydd ac aberth Angharad Tomos yn ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith fel eu bod nhw wedi ei dwyfoli, bron.
"Ai am nad oedd y beirniaid yn gwybod eu bod nhw'n cloriannu gwaith eicon cenedlaethol y teimlai'r tri, yn annibynnol ar ei gilydd, mai'r ail ddosbarth oedd lle'r nofel hon?" oedd ei gwestiwn pigog.
Ymateb yn onest O'r rhai a ganmolodd y nofel gyhoeddedig dim ond Kate Crockett - a ddisgrifiodd y gwaith fel "campwaith" - a ymatebodd yn Y Cymro gan ddweud iddi hi ymateb yn gwbl onest i'r hyn a ddarllenodd gan ddweud:
"Yn bersonol byddai'n well gen i bechu cydnabod na llunio adolygiad gwenieithus na allwn ei gyfiawnhau."
Gwerth gofyn cwestiwn Wrth gyfiawnhau ei sylwadau ar Wythnos Gwilym Owen dywedodd Vaughan Hughes:
"Mae honna yn sefyllfa y mae'n werth gofyn cwestiwn yngl欧n 芒 hi . . . ac mi wnes i awgrymu tybed a oedd y ffaith fod awdur y nofel yna, Angharad Tomos, gan ei bod hi yn ffigwr cenedlaethol, yn eicon cenedlaethol yng ngolwg nifer o bobl oherwydd ei haberth dros Gymdeithas yr Iaith, tybed a oedd y ffaith fod yr adolygwyr yn gwybod pwy oedd yr awdur tra'r oedd y beirniaid ond yn trin y nofel dan ffugenw mi ofynnais y cwestiwn tybed a oedd hynny wedi dylanwadu ar eu barn nhw."
Pe byddai'n gwybod . . .
Er i Harri Pritchard Jones gydnabod y byddai ef wedi cymryd "llawer mwy o amser" i ystyried y nofel pe gwyddai pwy oedd yr awdur gan fod ganddi gystal "track record" dywedodd mai yn yr un lle yn y gystadleuaeth y byddai wedi ei rhoi.
"Dydw i ddim yn meddwl y byddwn i wedi newid fy meddwl yn sylfaenol [yngl欧n 芒 hi]. Na," meddai.
"Yr oeddwn i'n meddwl ei bod yn nofel dda, . . . ond dydw i ddim yn meddwl y byddwn i wedi ei rhoi hi ddim uwch yn y gystadleuaeth," meddai.
Awgrymodd hefyd na fyddai'r ddau feirniad arall wedi newid eu barn ychwaith o wybod pwy oedd yr awdur.
"Mae hyd yn oed y goreuon yn gallu llithro ac mae eisiau dweud yn union beth ydych chi yn ei feddwl.
"Dwi'n si诺r bod Angharad a phawb arall yn ddigon aeddfed i dderbyn beirniadaeth heb bwdu na chael eu brifo ormod," meddai.
Edrych yn fwy clos
Yn nes ymlaen yn y drafodaeth dywedodd ei bod yn debyg, pe byddech chi yn gwybod mai "meistres" ar ei gwaith fel Angharad Tomos sydd wedi sgwennu rhywbeth y byddech chi'n craffu mwy ar y gwaith hwnnw.
"Unrhyw beth fuasech chi yn ei gollfarnu fe fyddech chi yn edrych ac yn ei gyfiawnhau o i chi'ch hun yn fwy ond yn y diwedd dwi'n gobeithio mai'r un fuasai'r llinyn mesur wrth gloriannu gwahanol nofelau," meddai.
Codi cwestiwn diddorol
Dywedodd Kate Crockett fod Vaughan Hughes wedi codi cwestiwn "diddorol".
"Ac mae anghytuno yngl欧n 芒 llyfrau yn beth iach . . . yr hyn oeddwn i'n meddwl oedd yn gwbl annheg oedd awgrymu fy mod i a phobl eraill sydd wedi adolygu'r llyfr rywsut yn methu 芒 gwneud ein gwaith achos rydw i'n credu bod adolygu llyfrau yn waith pwysig dros ben ac rydw i'n cymryd lot o falchder yn y gwaith rydw i'n i wneud ac os yw fy enw i ar waelod adolygiad yr ydw i eisiau bod yn bendant fy mod i'n cytuno 芒'r hyn ddywedais i ac mae awgrymu fy mod i'n 'dwyfoli' Angharad Tomos jyst yn nonsens," meddai.
Dywedodd Vaughan Hughes "fod gwybod pwy ydi awdur pan fo'r awdur yna yn ffigwr o bwys yn rhwym o ddylanwadu arnoch chi. Mae o'n si诺r o ddigwydd," meddai.
Cytunodd Kate Crockett na oedd yn anwybyddu pwy oedd yr awdur;
"Ond fe fyddai hi wedi bod yn hawdd iawn i mi o wybod beth oedd barn beirniaid yr Eisteddfod i fod yn eithaf llugoer tuag at y nofel a pheidio dweud gormod ond roeddwn i'n teimlo'n gryf fod hon yn gampwaith a dyna pam ddwedes i hynny," meddai.
Ychwanegodd mai cyfrifoldeb adolygydd os nad yw'n teimlo y gall roi adolygiad teg am ryw reswm, fel adnabod yr awdur, yw gwrthod y cynnig i adolygu.
Ar ddiwedd y cklip sain mae'r siaradwyr yn trafod beth oedd beirniaid Gwobr Goffa Daniel Owen yn chwilio amdano.
Hefyd yn ystod y sgwrs:
Clip 2
Mewn gwlad lle mae pawb yn adnabod ei gilydd a oes gwerth i adolygiadau?
Adolygiad 'yn gyllell' - awgrymodd Harri Pritchard Jones fod "rhai adolygwyr" yn defnyddio adolygiad i droi'r gyllell mewn gelyn.
Ac meddai Kate Crockett:
"Dwi wedi darllen ambell i adolygiad a theimlo; Wel, rwy'n gwybod bod yna rhyw gefndir rhwng y ddau berson yma ac nad yw'n deg eu bod wedi defnyddio'r cyfle i adolygu ac mae achlysur pan ddylai pobl ddweud, 'Na, nid fi yw'r person i adolygu'r llyfr yma'."
A ellir cyhuddo adolygwyr o geisio "troi breichiau" beirniaid cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn gyda'u sylwadau am y nofel hon?
Clip 3
Harri Pritchard Jones yn ymateb fel Seiciatrydd i'r nofel. Vaughan Hughes yn dweud beth oedd o'n feddwl o'r nofel gan ddweud nad yw "dyfais ganolog" y nofel yn gynaladawy nac yn gredadwy yn ei farn ef.
Gofyn i Harri Pritchard Jones sut y byddai ef yn teimlo pe byddai'n awr yn gorfod cyflwyno fel cadeirydd Yr Academi wobr Llyfr y Flwyddyn i Wrth Fy Nagrau I
Cysylltiadau Perthnasol
Llyfr gorau'r flwyddyn meddai Meg Ellis
Adolygiad John Gruffydd Jones ar ein gwefan
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人论坛 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|