| |
|
|
|
|
|
|
|
Holi Robin Chapman Holi Robin Chapman, awdur, Rhywfaint o Anfarwoldeb, cofiant Islwyn Ffowc Elis.
Enw: : T. Robin Chapman
Beth yw eich gwaith? Darlithydd a chyfieithydd
Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud? Athro ysgol, geiriadurwr (Geiriadur yr Academi)
0 ble'r ydych chi'n dod? Caerly^r (Leicester)
Ller ydych chin byw yn awr? Aberangell (yn symud i Aberystwyth cyn bo hir)
Wnaethoch chi fwynhau eich addysg? Do - o'r chweched dosbarth ymlaen. Rwy'n dal i wneud hefyd.
Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf:? Y cymhelliad cyntaf oedd dangos bod mwy i Islwyn Ffowc na Cysgod y Cryman. Wrth imi weithio arno, daeth yn ymgais i egluro sut y gall awdur feithrin y ddawn i ysgrifennu, a'i cholli hefyd.
Dwedwch ychydig amdano. Bywgraffiad digon confensiynol, mae'n debyg. Bm yn ddigon ffodus i weld nid yn unig bapurau preifat Islwyn ei hun ond hefyd lythyrau oddi wrtho at y ffigurau amlwg a adwaenai.
Mae'n fywgraffiad sy'n dweud cryn lawer, er enghraifft, am Gwynfor Evans - ac edrychaf ymlaen yn eiddgar at weld ymdriniaeth Rhys Evans 芒 Gwynfor a'i gyfnod ymhen blwyddyn neu ddwy eto.
Ceir math o is-stori ym mhob bywgraffiad a chofiant, mae'n debyg, a'r stori sy'n brigo i'r wyneb yma yw hanes rhywun a fynnai fod yn llenor proffesiynol yn wyneb anawsterau ymarferol - ac annealltwriaeth ei gydnabod.
Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu? Cofiannau i WJ Gruffydd ac Ambrose Bebb, ac ambell beth bach arall.
Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn? Stor茂au William Richmal Crompton.
A fyddwch yn edrych arno'n awr? Yn dibynnu bellach ar ddarlleniadau meistraidd Martin Jarvis ar radio ac ar d芒p sain y 成人论坛, sydd wedi dod 芒'r gyfres yn fyw unwaith eto.
Pwy yw eich hoff awdur? Mihangel Morgan, yn ei afiaith.
A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch? Rwy'n cofio cael fy nghyfareddu gan Caniadau T. Gwynn Jones (o bopeth) pan oeddwn i yn y Coleg. Wyddwn i ddim y gallai neb ysgrifennu mor goeth yn Gymraeg.
Y llyfr Saesneg a'm cyfareddodd pan ddarllenais ef am y tro cyntaf oedd Possession A.S. Byatt; y llyfr i ddeall meddylfryd ac obsesiynau bywgraffydd.
Pwy yw eich hoff fardd? Mae gen i chwaeth anfeirniadol o eang: gallaf weld Ifor ap Glyn a T.H. Parry-Williams ar yr un silff yn y gornel.
Pa un yw eich hoff gerdd? Dim clem.
Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth? 'Di fegi bendefigion ' JM-J, am ei sain rhagor ei hystyr. Mae'n ddefnyddiol iawn wrth ddysgu nodweddion cynghanedd sain.
Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu? Ffilm: American Beauty. Teledu: The Simpsons, debyg
Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth? Hoff gymeriad: Jane, yn Jane & Prudence, Barbara Pym. Cas gymeriad: y traethydd yn Rhaid i ti fyned y daith honno dy hun, Aled Jones Williams.
Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir? Rwy'n hoff o ddyfynnu Kate Roberts, er nad wyf yn siwr o'r ffynhonnell, na'r orgraff: 'Rydan ni'n mynd drwy fywyd heb ei fyw o, am yn bod ni'n disgwyl rhwbath gwell o hyd'.
Pa un yw eich hoff air? Chwilfrydedd
Pa ddawn hoffech chi ei chael? Canu'r piano
Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau? Diamynedd. Hygoelus. Dryslyd
A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan? Gweler yr uchod
Pa berson byw neu hanesyddol ydych chin ei edmygu fwyaf a pham? Rwyf wedi dysgu edmygu Islwyn Ffowc - yn ei hoffi erioed
Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn? Byddwn yn rhy ofnus i siarad 芒 neb o'r gorffennol sy'n fy niddori.
Pa un yw eich hoff daith a pham? O Ddulyn i Galway - i gyfeiriad y machlud ar noson o haf
Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd? Cyri yn y Kashmir yn Bradford, wrth fwrdd heb liain arno na chyllell na fforc: dim ond pentwr o naan.
Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden? Ysgrifennu - yn gobeithio cael gwylio lot mwy o b锚l-droed byw ar 么l symud.
Pa un yw eich hoff liw? Glas - ond nid oherwydd unrhyw gysylltiadau gwleidyddol.
Pa liw yw eich byd? :?
Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi? Deallaf fod deddf yng Ngweriniaeth Iwerddon lle caiff unrhyw un sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus ddewis bwrw blwyddyn sabothol (yn ddi-d芒l) bob saith mlynedd yn gwneud rhywbeth heblaw ei swydd arferol. Mae'n swnio'n ddeddf iachus iawn.
A oes gennych lyfr arall ar y gweill:? Oes, am ddelweddau Cymreictod yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif.
Mae gen i ryw wyth pennod ar eu hanner, ac mae'n dechrau dod at ei gilydd. Y drwg yw fod y deunydd crai mor ddiddiwedd.
Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith arall? Heb ateb
Mwy am Rhywfaint o Anfarwoldeb
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人论坛 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|