|
|
Pwyso
a mesur awdur Llyfr y Ganrif
Cyhoeddi bywgraffiad Islwyn Ffowc Elis
Awst 2003
|
Nid yn unig y mae'n awdur Llyfr y Ganrif ac yn arloeswr y nofel Gymraeg
fodern ond mae penderfyniad Islwyn Ffowc Elis i beidio a dal ati i
sgrifennu yn ddirgelwch llenyddo nad yw wedi ei egluro.
Wedi cychwyn mor rhyfeddol o lwyddiannus nid yn unig fel nofelydd
ond fel dramodydd radiohynod boblogaidd rhoddodd y gorau i sgrifennu
cyn cyflawni yr addewid yr oedd pawb wedi ei weld yn ei waith.
Ac er iddo ef ei hun ddweud ei fod yn gweithio ar nofel fawr i goroni
ei yrfa ni welodd hi byth olau dydd.
Dim rhyfedd felly fod diddordeb arbennig mewn bywgraffiad sydd newydd
ei gyhoeddi gan T. Robin Chapman, Rhywfaint o Anfarwoldeb.
Meddai'r awdur "Mae'n amhosibl dychmygu ffurfafen lenyddol (na gwleidyddol
na diwylliannol ehangach) Cymru ail hanner yr ugeinfed ganrif hebddo."
Ganwyd Islwyn Ffowc Elis yn Nyffryn Ceiriog yn 1924 ac mae'n byw heddiw
yn Llanbedr Pont Steffan lle treuliodd bymtheng mlynedd yn ddarlithydd
coleg.
Dylanwad Maldwyn
Yr oedd yn gwbl addas mai yn Y Babell L锚n ym Meifod yr wqythnos diwethaf
y tynnwyd sylw at Rhywfaint o Anfarwoldeb gan y cyhoeddwyr
ac y traddodwyd darlith amdano gan Robin Chapman.
Yn ystod ei gyfnod yn weinidog ym yng nghapel y Wesleaid ym Meifod
yn y pumdegau y daeth y syniad iddo am yr enwocaf o'i nofelau, Cysgod
y Cryman
Ac yn ystod y cyfnod hwnnw, ac yntau'n byw yn Llanfair Caereinion,
yr ysgrifennwyd nofel sydd wedi hudo darllenwyr Cymraeg ym mhob degawd
ers hynny.
Y sbardun i sgrifennu
Dywedodd Robin Chapman nad oes gronyn o amheuaeth mai ei brofiad o
fyw yn Llanfair oedd y sbardun i ysgrifennu.
"Sylwodd llawer o adolygwyr a beirniaid bod harddwch Maldwyn yn gymeriad
pwysig yn y gyfrol," meddai llefarydd o Wasg Gomer.
"Bron mor bwysig 芒 Harri Vaughan, y prif gymeriad, mab fferm cyfoethog
a breintiedig, sy'n fyfyriwr yn y Brifysgol ym Mangor ond sy'n dod
o dan ddylanwad Comiwnyddiaeth ac o'r herwydd yn troi ei gefn ar werthoedd
ei dad - a'i gyfoeth," meddai.
Fel hyn y cofnodir y cefndir gan Islwyn Ffowc ei hunan, yng nghyfrol
Robin Chapman:
Dau ddosbarth yn unig oedd yn fy hen ardal i, sef y bobl gyffredin
a'r sgweier o Sais oedd yn byw yn y Plas. Ond yn y rhan hon o Faldwyn
yr oedd graddfeydd cymdeithasol cymhleth. Nid Saeson oedd yn y ffermydd
mawr, ond Cymry Cymraeg gl芒n gloyw. Ac eto roedd y pentrefwyr yn edrych
i fyny at y ffermwyr mawr a'u teuluoedd.
"Isaac Roberts y gof" ond "Mr Jones y Parc". Y ffermwyr mawr hyn oedd
arweinwyr y gymdeithas, un efallai'n gynghorydd sir ac yn ynad heddwch,
y lleill yn ddiaconiaid ne'n flaenoriaid yn y capeli.
Mi feddyliais, "Beth petai gan un o'r ffermwyr mawr hyn fab disglair,
ac yntau, er ei anfon i ysgol breifat. . . yn mynd i'r Brifsgol ym
Mangor, fy hen goleg i, lle byddai holl blant gogledd Cymru'n mynd
yn y pedwar degau, ac yno'n troi'n erbyn crefydd a gwlediyddiaeth
ryddfrydol ei deulu, oni fyddai cythrwfwl yn y teulu a'r ardal?
Llyfr y Ganrif
Dyna gychwyn y bestseller Cymraeg sydd wedi gwerthu bron i
50,000 ac a ddewiswyd gan ddarllenwyr Cymru yn llyfr Cymraeg y ganrif
adeg dathliadau'r mileniwm.
Ar ben hynny, Islwyn Ffowc Elis oedd y llenor Cymraeg cyntaf i fentro
ennill ei fywoliaeth o ysgrifennu a bu'n gyfrifol am weddnewid barn
pobol am yr hyn yr oedd hi'n bosib ac yn dderbyniol ysgrifennu amdano
yn Gymraeg.
Ond dydi'r darlun ddim mor syml a hynny gan i'r awdur hynod boblogaidd
hwn gilio i'r cyrion ar yr union adeg yr oedd disgwyl am Y Nofel fawr
ganddo.
Mae'n enciliad na chafodd erioed ei egluro'n llawn.
Rhywfaint o Anfarwoldeb : Bywgraffiad Islwyn Ffowc gan Robin Chapman.
Gwasg Gomer.
Holi
Robin Chapman
Cyfle i chi fynegi barn - ebostiwch
|
|
|