Hanes y Cymro o'r Bermo, Harold Lowe, yr unig swyddog ar y i fynd yn 么l i achub teithwyr wedi i'r llong suddo yn 1912.
09 Tachwedd 2011
Y Cymro a aeth yn 么l
Meddai Renee Harris, Americanes cefnog ag achubwyd gan Harold Lowe o'r Titanic: "Wrth edrych i gyfeiriad y llais gwelais hogyn ifanc tua chwe troedfedd o daldra, tenau iawn a chyhyrog. Roedd siap ei wyneb yn glir ac yn goch Brydeinig. Roedd ganddo lygaid du dwfn llawen."
Dewiswyd Ioan Gruffydd i chwarae rhan Lowe yn y ffilm enwog am y Titanic yn 1998.
Harold Lowe oedd y trydydd o wyth o blant George a Harriet Lowe. Ganwyd ef ar 21 Tachwedd 1882 yn Neganwy. Roedd ei dad yn awyddus iddo fynd yn brentis i ddyn busnes llwyddiannus o Lerpwl ond roedd Harold, ar y llaw arall, yn benderfynol o fynd i'r m么r. Yn 14 oed, gadawodd ei gartref yn y Bermo ac ymuno 芒'r Llynges Fasnachol gan wasanaethu yng ngorllewin Affrica cyn ymuno 芒 chwmni White Star yn 1911.
Llong enwocaf hanes
Fis Ebrill 1912, penodwyd Harold Lowe yn Bumed Swyddog llong newydd sbon danlli y Titanic a hynny ar gyfer ei mordaith gyntaf ar draws yr Iwerydd. Ar y noson dyngedfennol honno, roedd Harold yn cysgu'n drwm pan ddeffrowyd o gan s诺n rhedeg a gweiddi mawr. Pan sylweddolodd beth oedd yn digwydd aeth ati'n syth i dywys teithwyr i'r badau achub oedd ar gael. Yna cymerodd fad rhif 14 a rhwyfo i ddiogelwch y nos.
Ond yn wahanol i'r holl swyddogion eraill, penderfynodd na allai wrando'n unig ar sgrechiadau'r teithwyr druan oedd yn marw yn y d诺r rhewllyd. Rhannodd y teithwyr oedd yn ei fad ymysg y cychod eraill a rhwyfo yn 么l at y Titanic i chwilio am unrhyw un allai fod yn dal yn fyw. Llwyddodd i achub pedwar o bobl eraill o'r d诺r.
Llwyddodd hefyd i achub y teithwyr oedd ar gwch gwynt oedd yn suddo gan sicrhau eu bod i gyd yn cyrraedd diogelwch y Caparthia yn fyw ac yn iach.
Croesawu'r Arwr
Pan ddaeth yn 么l i'r Bermo, fe ddaeth dros 1,300 o bobl i anrhydeddu Harold Lowe mewn cyfarfod yn y Picture Pavilion. Cyflwynwyd oriawr aur arbennig iddo ac arni'r arysgrif: "Presented to Harold Godfrey Lowe, 5th officer R.M.S. Titanic by his friends in Barmouth and elsewhere in recognition and appreciation of his gallant services at the foundering of the titanic 15th April 1912."
Cofiodd Renee Harris amdano hefyd gan ei gyflwyno gydag anrhegion arbennig - binoculars a secstant gyda'r arysgrif, 'Gwir Arwr y Titanic' arnynt.
Roedd hi'n stori arall lle'r oedd Cwmni'r White Star yn y cwestiwn. Roedd y Titanic a'u rhan yn y gyflafan yn gysgod drostynt. Yn y cwest yn Efrog Newydd, holwyd Harold gan farnwr llym oedd yn cwestiynu stori'r Cymro am ei ran yn y drasiedi. Ond dywedodd Harold ei farn yn blwmp ac yn blaen wrtho.
Cysgod y Titanic
Ni chafodd gydnabyddiaeth swyddogol am ei ddewrder a chladdwyd y stori gan Gwmni White Star Line a'r awdurdodau. Byddai cydnabod arwriaeth Harold yn codi gormod o gwestiynau am weithgareddau'r swyddogion eraill ar y noson enbyd honno.
Ym mis Medi 1913 priododd Harold ag Ellen Whitehouse ac fe gafon nhw ddau o blant - Florence Josephine a Harold William. Gwasanaethodd yn y Llynges yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf cyn ymddeol yn ddiweddarach efo'i deulu i Ddeganwy. Bu farw yn 1944 ac fe'i claddwyd yn eglwys Llandrillo-yn-Rhos. Mae ei deulu yn dal i fyw yn yr ardal ac mae gan ei 诺yr yr anrhegion a gafodd am ei ddewrder o hyd.
Yn 2001 cyflwynodd S4C ac ITV1 Cymru rhaglen ddogfen am stori Harold Lowe gydag Ioan Gruffudd yn ei chyflwyno.
Ym mis Ebrill 2011 daeth trigolion y Bermo at ei gilydd i drafod y posibilrwydd o godi cofeb i Harold Lowe yn barod ar gyfer cofio canmlwyddiant boddi'r Titanic yn 2012.