Diwrnod Dau yn y Sioe Frenhinol a mae pethau'n dechrau twymo. Er i'r nefoedd agor yn y bore, parahau i ymgynull ym maes y sioe a wanaeth y dorf.
Ar ddiwedd y dydd ddoe agorwyd Pencampwriaethau Cyneifio'r Byd. Mae'r Pencampwriaethau'n dod a canoedd o gystadleuwyr o 28 o wledydd at eu gilydd gyda'r cyntaf o'r rhagbrofion yn dechrau heddiw am 10 o'r gloch y bore.
Dywedodd Bryan Williams, Prif Steward y Pencampwriaethau, bod y digwyddiad yn "anrhydedd helaeth i'r Sioe Frenhinol," gan gymharu'r proses ymgeisio i'r gemau Olympaidd. Aeth Mr. Williams ymlaen i ychwanegu bod y Gemau'n "newyddion dda i Gymru."
Roedd un cyneifiwr, Nick Denniss o Gilgandra, De Cymru Newydd, Awstralia, yma i gystadlu yn y cyneifio dull traddodiadol gan ddefnyddio llafn yn hytrach na peiriant.
Er ei fod yn cael trafferth ymgyfarwyddo i'r tywydd cymraeg dywedodd ei fod yn edrych ymlaen yn fawr iawn i'r cystadlu gan bwysleisio ei gred ei bod hi'n bwysig trosglwyddo'r dull hynafol yma i'w blant ac i genhedlaethoedd i ddod.
I bobl sy'n mwynhau crefft a diwylliant traddodiadol mae yna lawer mwy i Arddangosfa Greft y Sioe Frenhinol. Mae arddangoswyr proffesiynol a brwdfrydig pob blwyddyn yn llwyddo i arddangos ffrwythau ei llafur gan ddenu llawer o ymwelwyr.
Unwaith eto, y mae Sefydliad y Merched yn mynychu'r Sioe ac mae rhai aelodau o d卯m eleni yn falch i ddweud bod eu Cymdeithas wedi bod yma ers y dechrau.
Mae'r awyrgylch tu fewn i'r Neuadd yn groesawgar ac yn gyfeillgar ac mae 'na lawer o nwyddau (a chymeriadau) diddorol i'w cael yno. Ymysg rhain cawn llwyau-caru, m锚l, telynnau, crochenwaith, celf a cherfluniau pren.
Er ei fod wedi ei leoli ar ben arall y maes, celf a chreft oedd hefyd y ffocws i fyny gyda'r gof heddiw. Ar ddydd Mawrth gwelwyd dechrau'r beirniadu ar amrwyiaeth o waith-haearn can gynnwys gwarchodwyr t芒n, cannwyllbrennau a gatiau.
Roedd cystadlu yng nghystadleuaeth 'creu sgidiau ceffyl hefyd yn ei anterth gyda sawl tim o ar draws Prydain yn cymryd rhan.
Wrth i'r ddiwrnod dod i ben, mae meddylion 'nawr yn troi i yfory ac i'r diwrnod y mae llawer yn ystyried yw uchafbwynt yr wythnos sef diwrnod y Cobiau Cymreig. Mae hi'n addo i fod yn ddiwrnod i gofio.