"Ar Ddydd Sul cwmwlog ond sych ar Maes y Sioe Frenhinol, mae cystadleuwyr o ar draws y Deyrnas Unedig ac o bellach i ffwrdd yn ymgynull am un o brif ddigwyddiadau'r flwyddyn amaethyddol.
Ar y maes roedd cystadleuwyr yn brysur yn dadlwytho da byw, ac yn gorffen paratoi am fwrlwm y cystadlu tra yn y cefndir roedd swn ymarferion y "King's Troop" yn rhoi elfen o ddrama i hedd cefn gwlad Cymru.
Ym mhafiliwn y blodau mae Lynne Lydiate yn paratoi arddangos ei threfniant blodau yn y Sioe Fawr am y drydedd tro.
Ar 么l llwyddiant yng Ngerddi Kew llynedd y mae hi'n gobeithio am ganlyniad tebyg yma yng Nghymru eleni.
Eleni mae Lynne yn paratoi cyfansoddiad ar y thema "Cymru Gwyllt". ?
Er bod y cystadlu yn bwysig, mae Lynne yn dwyn mwynhad yn bennaf oherwydd yr awyrgylch.
Meddai: "Mae'r sioe fel un teulu mawr, mae pawb yn helpu ei gilydd."
I fyny gyda'r ceffylau 'roedd Mr Douglas Boys o Reigate yn Swydd Surrey, yn paratoi eu cobiau Cymreig.
Dywedodd Mr Boys, a wnaeth fynychu'r Sioe am y tro cyntaf yn 1968, mai hon oedd y Sioe orau yn y DU ac ei fod yn cael "yr un wefr allan o'r Sioe Fawr heddiw ag yr oeddwn yn ei gael dros 30 mlynedd yn 么l."
Tra bod mwyafrif o'r cystadleuwyr yn parhau i baratoi yr hyn yr oeddent yn bwriadu arddangos 'roedd Anne a Mike, sy'n gweithio fel gofalwyr yn y Sioe, yn mwynhau hufen i芒 ar 么l diwrnod caled o waith.
Nid digwyddiad unwaith y flwyddyn yw'r Sioe Frenhinol iddynt.
Dywedodd Anne: "Mi fydd y paratoi am flwyddyn nesa'n dechrau Dydd Gwener."
Ar ddiwedd y dydd 'roedd y gobeithion yn uchel a hwyliau'n dda yn enwedig gan fod dechrau'r wythnos yn un sych, pwy a wyr a fydd hyn yn parhau?"
|