Roedd Williams, enillodd fedal arian ym Mhencampwriaeth Ewrop ac efydd yng Ngemau'r Gymanwlad yn y 400m dros y clwydi, wedi bod yn ymarfer ym Mhrifysgol Caerfaddon. Ond yn awr mae Williams wedi ymuno gyda'r hyfforddwr Dan Pfaff yn Llundain wrth iddo edrych ymlaen at Bencampwriaeth y Byd y flwyddyn nesaf yn ogystal 芒'r Gemau Olympaidd. "Mae'n deillio o'r awydd i wella," meddai Williams. "Mae 22 mis tan y Gemau Olympaidd a dyma oedd y cyfle olaf i mi newid cyn y Gemau. Mae Pfaff wedi hyfforddi'r cyn-bencampwr Olympaidd dros 100m, Donovan Bailey ac wedi cynorthwyo yn adfywiad Christian Malcolm. Mae Williams, sydd yn 26 oed, wedi byw yng nghysgod ei gyd-Gymro Dai Greene yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Sicrhaodd Greene fedalau aur ym Mhencampwriaethau Ewrop yn Barcelona ac yng Ngemau'r Gymanwlad yn Delhi. "Does 'na ddim llawer o bobl fyddai'n ennill medal Ewropeaidd a'r Gymanwlad na fyddai'n fodlon gyda hynny," meddai Williams. "Ond tydw i ddim y math yna o gymeriad a byddwn i ddim yn rhai gorau iddi nes byddwn wedi cyflawni be 'dwi mo'yn."
|