Ac mae cyn-fewnwr Abertawe a Chymru Robert Jones yn credu y bydd Phillips yn gadael Stadiwm Liberty ar ddiwedd y tymor. Mae Jones yn teimlo bod 'na newidiadau ar droed yn Stadiwm Liberty ac y bydd y rhanbarth yn dangos ffydd y to ifanc. "Mae 'na lot o dalent yno a bois ifanc yn dod drwodd ac i fi bod nhw'n newid y ffordd maen nhw'n meddwl a datblygu chwaraewyr yw'r ffordd ymlaen. "Wrth gwrs mae'n gofyn cwestiwn mawr am ddyfodol Mike Phillips." Mae Gavin Henson eisoes wedi gadael y rhanbarth a bydd James Hook, Lee Byrne a Craig Mitchell yn ymuno gyda chlybiau eraill ar gyfer y tymor nesaf. Yr wythnos ddiwethaf fe gyhoeddodd y Gweilch eu bod wedi arwyddo mewnwr Samoa Kahn Fotuali'i o'r Crusaders ar gytundeb dwy flynedd. Ac mewn cyfweliad papur newydd fe ddywedodd prif hyfforddwr y Gweilch, Sean Holley na allai sicrhau lle i Phillips yn y t卯m cyntaf o hyn allan. "Mae Mike bant yn aml," meddai Holley mewn cyfweliad gyda'r Western Mail. "Mi fydden yn eu colli yn yr haf gyda'r Cwpan Byd yn dod lan a bydd hefyd i ffwrdd ar gyfer y Chwe Gwlad. "Mae rhai o'n mewnwyr dan gytundeb a rhai sydd ddim dan gytundeb felly nid ydym am bentyrru stoc. Mae gan Phillips gytundeb gyda'r Gweilch tan 2014 wedi iddo arwyddo cytundeb newydd ym mis Mawrth 2010. Fe ymunodd gyda'r Gweilch o'r Gleision ym mis Ebrill ac ers hynny wedi sefydlu ei hun fel mewnwr dewis cyntaf Cymru ac wedi cynrychioli'r Llewod yn Ne Affrica. Mae clybiau o Ffrainc eisoes wedi arwyddo Hook a Byrne ac mae'n debyg y byddai clybiau'r wlad yn awyddus i ddenu Phillips hefyd. Ac mae'n edrych yn debyg y bydd y blaenwyr profiadol Jerry Collins a Marty Holah yn gadael y Gweilch yn yr haf pan ddaw eu cytundebau presennol i ben. Yn ogystal 芒 Fotuali'I mae'r Gweilch wedi arwyddo Joe Bearman o'r Dreigiau a George Stowers o Wyddelod Llundain.
|