Cafodd Edwards a Connolly ddirwy o 拢500 yr un, ac mewn erthygl papur newydd, cyfaddefodd Edwards fod ffrwgwd wedi cymryd lle, ond fe wadodd iddo benio'r gwyddonydd chwaraeon. Mewn erthygl yn y Sunday Times, dywedodd Edwards fod y digwyddiad wedi cymryd lle ar fws t卯m Cymru ar 么l y fuddugoliaeth yn erbyn Iwerddon, a fo'r ffrwgwd wedi deillio o ddadl yngl欧n 芒 ch芒n a'i chanwyd. "Roedd yr hogiau yn cael dipyn o hwyl wrth ganu, ond roedd Fergus wedi camddehongli'r sefyllfa. "Daeth ataf yn ddiweddarach, ac roedd hi'n amlwg ei fod wedi gwylltio, ac yna roedd ffrwgwd. Mae'n bosib i'n pennau gyffwrdd gan ein bod yn sefyll mor agos, ond yn sicr wnes i ddim penio Fergus. "Mae Fergus wastad wedi bod yn un o'm ffrindiau gorau, ac rydym yn ffrindiau eto erbyn hyn. "Cefais gyfarfod efo Roger Lewis (prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru) ar ddydd Iau, ac fe fyddai'n cwblhau fy nghytundeb efo Cymru, gan ddechrau efo 'r g锚m yn erbyn y Barbariaid ym mis Mehefin, ac ymlaen at Gwpan y Byd," meddai Edwards. "Rwyf yn parhau i fod yn hyfforddwr amddiffyn t卯m Cymru. "Mae 'na ambell wythnos mewn bywyd, y byddai dyn yn falch o gael ei anghofio - dyna 'dw i'n gobeithio'i wneud efo'r wythnos honno."
|