25 Awst 2011
Adolygiad Gwyn Griffiths o M芒s o 'ma gan Meic Stevens. Y Lolfa. 拢9.95.
Mae'r gyfrol hon, sy'n dilyn Crwydryn a Mi, yn cychwyn fis Mai y llynedd gyda Meic Stevens ar ei ffordd i Vancouver i gychwyn bywyd newydd gyda hen gariad dyddiau coleg.
Mae'r freuddwyd yn gynnwrf ac yn rhamant i gyd.
Ysywaeth, a hithau'n 'Steddfod Wrecsam a'r gyfrol yn cael ei lawnsio yr oedd y bachan o Solfa yn 么l a'r freuddwyd honno, fel sawl un arall, trosodd. Dyna ddywed Lol, beth bynnag, ac mae'r cylchgrawn yna yn si诺r o fod yn gwybod!
Sawl sylw crafog
Bywyd carwriaethol y cyfaill o Ddyfed yw prif gynnwys y gyfrol hon, gyda sawl sylw crafog a dadlennol am gyflwr canu roc yng Nghymru a'r gwledydd Celtaidd.
Ambell syndod, hefyd, fel canfod na chafodd erioed wahoddiad i berfformio yng Ng诺yl Lorient ac yntau wedi perfformio gymaint yn Llydaw.
Hyd yn oed yn y noson Cymru / Llydaw honno yng Nghanolfan y Mileniwm llynedd - os wy'n cofio'n iawn - bu raid ei smyglo i'r llwyfan gan Nolwenn Korbell a Lleuwen Steffan i ganu gyda nhw mewn diweddglo iasol i'r noson.
"... bachwyd asiantaeth Lorient gan y gwerins arty-farty na wyddan nhw fawr ddim am gerddoriaeth Cymru na Llydaw - pobol fel y criwie bodhran jigi-jiglyd ... - sy'n meddwl mai hen fenyw yn maldodi telyn o fl芒n y t芒n mewn bwthyn bach to gwellt yw cerddoriaeth Cymru," meddai.
Nid oes, ychwanega, ddim yn y gwledydd Celtaidd eraill i gymharu 芒 roc Cymru.
Gwendid Llydaw
Er bod gan Lydaw offerynwyr "anhygoel" - fel Patrice Marzin - "un o'r tri gitarydd gorau yn Ffrainc" - dywed ei bod yn dibynnu gormod ar eu gwreiddiau gwerin.
Gwendid Llydaw, medd Meic, yw prinder canwyr a chyfansoddwyr caneuon modern.
"... fu ganddyn nhw erioed fand roc llwyddiannus fel y Cadillacs, Edward H. Dafis, Omega, Geraint Jarman a'r Cynghaneddwyr, Maffia Mr Huws ..."
Mae'r deunydd yng Nghymru. Yr angen yw pobol i'w hyrwyddo y tu hwnt i Gymru. A chawn alwad ganddo i atgyfodi Sgrech ar wedd newydd, mwy proffesiynol.
'Does ganddo ddim llawer i'w ddweud wrth y Gwyddelod a'r Albanwyr sy'n tueddu i ganu'n Saesneg ychwaith. Ac am Dominic Behan - "meddwyn c芒s yn rhy hoff o s诺n ei lais ei hun".
Yn ei wlad ei hun
Ni ellir dweud na chafodd Meic anrhydedd yn ei wlad ei hun ac y mae'n cydnabod hynny.
Coffa da am y noson yn Neuadd y Brangwyn, Abertawe, yn Rhagfyr 1999, pan gafodd e, Caryl Parry Jones, Delwyn Sion ac eraill berfformio caneuon i gyfeiliant Cerddorfa'r 成人论坛 a band Myfyr Isaac. Noson fawr.
A'r cyngerdd ym Mhafiliwn Eisteddfod T欧ddewi, 2002 - perfformio ar "lwyfan cysegredig" archdderwyddon, gorseddigion ac elite y genedl.
Drwy'r cwbl ceir y bywyd bohemaidd, y cariadon, y priodasau'n chwalu, magu plant ar ei ben ei hun, y cyffuriau a'r yfed.
Fe adawa i hynna i'r darllenydd a dychmygu beth fydd ymateb ambell seren o Gymraes o ganfod ei henw yn y gyfrol.
Cyfrol ddifyr am y byd roc Cymraeg gan un o gymeriadau mwyaf lliwgar y byd hwnnw.
Gwyn Griffiths