19 Chwefror 2010
Gyda Phontypridd y cysylltir enw Evan James (Ieuan ab Iago) awdur geiriau Hen Wlad Fy Nhadau.
Yn wir, ni 诺yr pawb mai yng Nghaerffili y ganed ef - ym mis Hydref 1809 ond hyd yma nid oedd ond plac ar fur yng nghanol y dref yn dynodi fwy neu lai y man lle safai'r bwthyn lle'i ganed.
Ddydd Gwener, Chwefror 26, am hanner awr wedi hanner dydd dadorchuddir cofeb newydd iddo ym Mharc Dafydd Williams, Caerffili.
Lluniwyd y gofeb bren, sydd ar ffurf draig, o goeden sy'n parhau i sefyll yn y parc.
Wrth ei b么n ceir y geiriau "Evan James 1809-1878" a chytgan yr anthem.
Gwnaed y gwaith gan Rhys Harris, artist amgylcheddol sy'n byw ym Margod.
Er 1994 bu'n gweithio gyda phrosiectau celf yn y gymuned a chynorthwyo gyda phrosiectau gwirfoddol gyda Chyngor Bwrdeisdref Caerffili.
Ym 1999 cychwynnodd gyfnod yn artist preswyl ym Mharc Penallta, pencadlys y Cyngor yn Ystrad Mynach a wedi hynny bu'n gweithio gydag ysgolion lleol ac mewn partneriaeth gyda grwpiau cymunedol.
Y mae'n addas fod cerflunydd lleol wedi ei ddewis i lunio'r gofeb. Er ei eni yng Nghaerffili, symudodd teulu Evan James yn fuan iawn i fyny'r cwm a buont yn byw yng nghyffiniau Bargoed, yn yr Ancient Druid Inn yn Llwyncelyn, rhwng Argoed a Thredegyr, ac ar fferm Ffos-yr-hebog, ar waun Gelli-gaer.
Ardaloedd sydd bron bob un o fewn Bwrdeisdref bresennol Caerffili.
Yr oedd Evan James yn tynnu at ddeugain oed pan symudodd gyda'i deulu i fyw ym Mhontypridd, y dref y mae ei enw yn gysylltiedig 芒 hi a lle y cyfansoddodd ef a'i fab James James yr anthem ym 1856.
Agorir hefyd yng Nghaerffili gatiau newydd i goffau Eisteddfod Genedlaethol Caerffili 1950, Eisteddfod nodedig am mai hon oedd y gyntaf o dan drefn y rheol Gymraeg.
Mae'r gatiau yn arwain i gaeau chwarae Heol y Cilgant.
Ymhlith y siaradwyr bydd yr Archdderwydd etholedig, T. James Jones, Maer Bwrdeisdref Caerffili, John Evans, a Maer Tref Caerffili, Colin Elsbury.
Ceir perfformiadau gan blant ysgolion Caerffili a bydd Gwyn Griffiths, golygydd y gyfrol Cerddi Evan James, yn rhoi anerchiad wrth y gofeb newydd i awdur Hen Wlad Fy Nhadau, a bydd y Cynghorydd Phil Bevan, yr aelod o'r Cyngor gyda chyfrifoldeb dros ddiwylliant a hamdden, yn siarad yn y derbyniad wedyn.