1970
Albert Evans-Jones - 'Cynan' Yr archdderwydd amryddawn, Cynan Ganwyd Albert Evans Jones (1895 -1970 ) ym Mhwllheli yn fab i siopwr. Graddiodd o Brifysgol Bangor ac ym 1916 danfonwyd ef dramor gyda'r lluoedd arfog. Bu'n swyddog meddygol gyda'r Corfflu Meddygol yn Salonika, ac yno hefyd cafodd ei ordeinio a'i apwyntio'n gaplan. 'Roedd yn wr galluog, amryddawn; pregethwr, darlithydd, bardd, dramodydd, actor, llenor a beirniad eisteddfodol. Bu'n Archdderwydd ddwy waith, gan gynnwys adeg yr Arwisgo yn 1969. Bu hefyd yn Gofiadur yr Orsedd o 1935 hyd ei farw ym 1970. Ymfalchïai mai 'Llanc o Lyn' ydoedd, a hwnnw a ddaw drosodd yn y ffilm hon.
Clipiau perthnasol:
Canfod mwy am...
O Llanc o Lyn darlledwyd yn gyntaf 02/08/1970
Er mwyn ichi wylio'r darn hwn bydd rhaid ichi osod chwaraewyr Real ar eich cyfrifiadur. Cewch gymorth yma i osod RealPlayer, ac i
|