1966
David John Williams Un o'r 'Tri'. DJ'r heddychwr a'r heriwr 'Y wên na phyla amser' meddai Dafydd Iwan am Dafi John Abernant, sef y gwr annwyl o Rydcymerau, Sir Gaerfyrddin, a fu'n awdur yn athro ac yn ymgyrchwr gwleidyddol. 'Roedd DJ Williams, (1885 - 1970), yn Gymro i'r carn, yn genedlaetholwr ac yn heddychwr brwd a gweithgar. Gweithiai'n dawel a diwyd heb ddisgwyl sylw na chlod am wneud. Yn fachgen ifanc, bu'n löwr yng Nghwm Rhondda ond ei "filltir sgwâr" oedd ei hoff le. 'Roedd yn un o'r 'Tri,' ynghyd â Saunders Lewis a Lewis Valentine, a losgodd adeiladau'r ysgol fomio ym Mhenyberth yn 1936, ac am hynny dedfrydwyd ef i naw mis o garchar yn Wormwood Scrubs. Mae'n sôn yma am ei gyfrol o straeon byrion 'Yr Hen Dy Ffarm'.
Clipiau perthnasol:
O Dafi John Abernant darlledwyd yn gyntaf 10/05/1966
Er mwyn ichi wylio'r darn hwn bydd rhaid ichi osod chwaraewyr Real ar eich cyfrifiadur. Cewch gymorth yma i osod RealPlayer, ac i
|