1923
5WA yn galw Cerddorfa pump-aelod, a'r Cymric Quartette - dyddiau cynnar darlledu Cymreig Dyma oedd arwyddair cyntaf gorsaf ddarlledu Cymru. Fe ddaeth y byd darlledu i Gaerdydd ar Chwefror 13eg, 1923, ac mae'n ddiddorol nodi fod y penderfyniad i leoli'r stiwdio yng Nghaerdydd wedi'i wneud gan lywodraeth o dan reolaeth y Cymro David Lloyd George, er bod ei arweinyddiaeth ef wedi dod i ben cyn i'r stiwdio agor. Yn ystod yr wythnos gyntaf darlledwyd rhyw 21 awr o'r stiwdio gyda thraean o'r rhaglenni yn rhai cerddorol. Cerddorfa'r orsaf (5 aelod!) , y Cymric Quartette, ambell i gôr ac unigolion wedi gwasgu mewn i ystafell fach yn 19 Castle Street.
Clipiau perthnasol:
O Heddiw darlledwyd yn gyntaf 12/10/1966
Er mwyn ichi wylio'r darn hwn bydd rhaid ichi osod chwaraewyr Real ar eich cyfrifiadur. Cewch gymorth yma i osod RealPlayer, ac i
|