1960, 1930
Jim Griffiths Lladmerydd y glowyr a ddaeth yn Ysgrifennydd Gwladol cyntaf Cymru Ganwyd Jim Griffiths (1890 - 1975) yn Rhydaman, yr ieuengaf o 10 o blant. Dewiswyd ef yn Gynrychiolodd y glowyr yng Nghymru o 1925 i 1936 ac yn 1926 roedd yn bresennol yn ei gyfarfod cyntaf o Gyngor Ffederasiwn Glowyr De Cymru. Gwelodd dlodi a dioddefaint mawr yn ystod y Streic Fawr, gyda dyfodol y gweithwyr yn y fantol. Dywedodd mai Streic '26 oedd un o'r enghreifftiau gorau o undod yn hanes y dosbarth gweithiol. Yn Gymro Cymraeg, bu'n Aelod Seneddol dros Llanelli o 1936 i 1970 ac fe gefnogai ddatganoli yn gryf iawn. Yn 1964, yn 74 mlwydd oed, penodwyd ef yn Ysgrifennydd Gwladol cyntaf Cymru.
Clipiau perthnasol:
O Dylanwadau: Jim Griffiths darlledwyd yn gyntaf 02/08/1977
Er mwyn ichi wylio'r darn hwn bydd rhaid ichi osod chwaraewyr Real ar eich cyfrifiadur. Cewch gymorth yma i osod RealPlayer, ac i
|