1974
Nansi Richards 'Telynores Maldwyn' a champ y delyn deires Gymreig. 'Roedd Nansi Richards ( 1888 - 1979 ) yn gymeriad bywiog, lliwgar a chyhoeddus a'i dileit oedd mynd o fan i fan i ganu'r delyn. Bu'n mynychu eisteddfodau mawr a bach am dros drigain mlynedd, a bu'n fuddugol yn y Genedlaethol dair gwaith yn olynol am ganu'r delyn deires. Aeth i Goleg y Guildhall yn Llundain a derbyn sawl gwahoddiad yn ddiweddarach i chwarae o flaen y Teulu Brenhinol. Bu'n gweithio ar y ffilmiau (Emlyn Williams) Last Days of Dolwyn a Fruitful Years. Yn ystod ei gyrfa, bu'n chwarae hefyd ar lwyfannau'r Unol Daleithiau. Iddi hi mae'r diolch yn bennaf bod y grefft o ganu'r delyn deires yn fyw yng Nghymru heddiw.
Clipiau perthnasol:
O Nansi Richards: Ym Mhenbontfawr darlledwyd yn gyntaf 01/03/1974
Er mwyn ichi wylio'r darn hwn bydd rhaid ichi osod chwaraewyr Real ar eich cyfrifiadur. Cewch gymorth yma i osod RealPlayer, ac i
|