Mae'r gair "Twmpath" yn golygu'r dyddiau hyn, efallai, noson wedi ei chanoli o gwmpas dawnsio gwerin (lle nad yw llwyddiant yr achlysur yn dibynnu ar ddesibelau'r system sain!) a chafwyd noson hynod o lwyddiannus yn y Priordy, Y Fenni, ar 1af o Orffennaf.
Roeddem yn ffodus iawn bod Huw Roberts a'i wraig Bethan a'u mab Si么n Gwilym ynghyd 芒 Rhiain Bebb wedi teithio o Sir F么n a Machynlleth yn arbennig i fod yno gyda ni, ac i rannu eu profiad eang ym myd dawnsio gwerin. Mae Rhiain a Huw yn aelodau o'r gr诺p poblogaidd "Rhes Ganol", ac estynnwn hefyd ein diolchiadau i Howard Potter am ei letygarwch iddynt dros y penwythnos.
Mae'r Priordy, Y Fenni, yn lleoliad ardderchog ar gyfer y math hwn o noson, ac y roedd yr ystafell yn llawn. Cafwyd cyflwyniad lliwgar gan Huw, a oedd yn gwisgo dillad traddodiadol (i gynlluniau gan Arglwyddes Llanofer!) am ddatblygiad gwisgoedd traddodiadol yng Nghymru. Cafodd y gynulleidfa berfformiadau o wahanol eitemau cerddorol ar y delyn deires gan Huw a Rhiain.
Mae Rhes Ganol yn hyrwyddo'r delyn deires dros Gymru ac mae Rhiain yn delynores flaengar yn y maes. Wedyn daeth tro Si么n Gwilym ac er mai llanc ifanc ydyw, rhoddodd berfformiad afieithus ac athletig iawn wrth ddawnsio'r glocsen ac roedd pawb wedi eu swyno'n fawr. Ond ni chafodd y gwesteion eu hanwybyddu chwaith, ac yn fuan iawn roedd pawb ar eu traed a Bethan yn dysgu dawnsiau newydd iddynt, a chafwyd llawer o hwyl. Roedd Hazel wedi paratoi bwffe blasus iawn; ychwanegodd hyn at naws y noson, a fydd yn fyw yn y cof am gryn amser.
Diolch yn fawr i bwyllgor Cymdeithas Gwenynen Gwent a weithiodd yn galed tu hwnt i sicrhau digwyddiad llwyddiannus iawn. Peidiwch ag anghofio digwyddiad nesaf Cymdeithas Gwenynen Gwent sef Ysgol Undydd yn y Priordy ar ddydd Sadwrn 14eg o Hydref 2006.
|