Mae stori Gwenllian yn symboleiddio dewrder gwragedd Sir G芒r cymaint ag oedd Buddug yn symboleiddio dewrder y gwragedd Celtaidd o dan deyrnasiad y Rhufeinwyr. Cadwodd ei gweithredoedd ei henw fel gwir arwres yn yr oesoedd ar 么l hynny. Lleolir Maes Gwenllian milltir i'r gogledd o Gydweli. Dyma safle brwydr sy'n gysylltiedig ag un o'r gweithredoedd mwyaf arwrol yn hanes Sir G芒r. Mae enw'r maes yn coff谩u dewrder Gwenllian, gwraig Gruffudd ap Rhys, Tywysog y Deheubarth. Bu'r Deheubarth yn un o'r teyrnasoedd cryfaf yn y cyfnod hwnnw cyn goresgyniad y Normaniaid ac yr oedd ei diriogaethau yn cynnwys Sir G芒r , gyda'i phrifddinas yn Ninefwr, ger Llandeilo. Wedi marwolaeth Harri'r cyntaf Lloegr ym mis Rhagfyr 1135, ymunodd dynion y Deheubarth 芒 gwrthryfel yn erbyn teyrnasiad yr Eingl-Normanaidd. Codwyd byddin yn Sir Frycheiniog a gorymdeithiodd i'r de i ymosod ar Normaniaid Arglwyddiaeth G诺yr. Cafwyd brwydr yn agos i Gasllwchwr a lladdwyd 500 o Normaniaid. Achubodd Gruffudd ap Rhys ar y cyfle i geisio gwthio'r Normaniaid allan o'i diroedd. Ceisiodd ffurfio cynghrair gyda'r Tywysog Gruffudd ap Cynan. Gadawodd Gruffudd i fynd i'r Gogledd i geisio ennill cefnogaeth dros ryfel newydd dros annibyniaeth. Dyma'r adeg dyngedfennol pan ddechreuodd arweinydd y Normaniaid, Maurice de Londres, Arglwydd Cydweli, ei wrthymosodiad ei hun yn erbyn y Deheubarth.
(Daeth yr wybodaeth uchod o wefan Gymunedol Cwm Gwendraeth yn wreiddiol.)
Ydych chi'n gwybod fwy am yr hanes? Cyfrannwch yn y blwch isod.
|