Cadeirio T Llew Jones 1958
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
Seremoni gadeirio Eisteddfod Glynebwy 1958 a T Llew Jones yn ennill y gadair am ei awdl, Caerllion-ar-Wysg.
Roedd yn brifathro 42 mlwydd oed pan enillodd y Gadair am y tro cyntaf yng Nglynebwy. Fel y nodir yn y clip du a gwyn hwn o raglen Newyddion y dydd, roedd eisoes yn adnabyddus fel awdur llyfrau plant.
Meddai Alan Llwyd am ei awdl fuddugol: "Yn ei awdl mae T. Llew Jones yn cynnig portread rhamantaidd o dir a phobl y gorllewin. 'Roedd o hefyd wedi gweld problem diboblogi a sylweddolodd fod y ddinas yn annog ieuenctid Cymru.
"Bachwyd yr ymadrodd 'Tua'r Gorllewin' yn yr awdl fel slogan gan genedlaetholwyr mudiad Adfer a geisiai annog y Cymry Cymraeg i ddychwelyd i gefn-gwlad Cymru."
Beirniaid y gystadleuaeth oedd Thomas Parry, D. J. Davies a Geraint Bowen a'r ail am y Gadair oedd R. Bryn Williams.
Enillodd T Llew Jones y gadair eto y flwyddyn ganlynol yng Nghaernarfon.
Am fwy o wybodaeth am Eisteddfod 1958,