成人论坛

Beth yw'r Eisteddfod

Pafiliwn

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Cymru Blaenau Gwent, rhwng 31 Gorffennaf a 7 Awst, 2010 yng Nglynebwy.

G诺yl gelfyddydol sy'n cael ei chynnal yn flynyddol, yn y de a'r gogledd bob yn ail yw'r Eisteddfod Genedlaethol.

Mae'n ddigwyddiad allweddol yn y calendr Cymreig a gellir ei disgrifio fel g诺yl dalent genedlaethol mewn cystadlaethau amrywiol o ddawnsio i lefaru, canu i fandiau pres a'r cyfan yn digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn rhan o'r 诺yl, cynhelir cyngherddau nosweithiol ac yn 2010 mae c么r Only Men Aloud yn dod adref i agor yr 诺yl yn nghyngerdd gyntaf yr wythnos. Ymysg yr artistiaid eraill sy'n cymryd rhan yng nghyngherddau'r pafiliwn mae Rhydian Roberts (X Factor), Catrin Finch a rhai o s锚r Cymru yn y West End. Cynhelir gigs amrywiol bob nos, dram芒u, comedi ac arddangosfeydd o gwmpas yr Eisteddfod ac oddi ar y maes swyddogol.

Pryd mae'n digwydd?

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Cymru Blaenau Gwent, rhwng 31 Gorffennaf - 7 Awst, 2010 yn nhref Glynebwy.

Croeso i bawb

Mae croeso i bawb i'r Maes, o'r Eisteddfodwyr selog i'r rhai chwilfrydig sy'n ymweld am y tro cyntaf. Mae rheol uniaith Gymraeg yn yr Eisteddfod ac er bod yr holl gystadlu'n digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg, mae croeso i'r rhai sydd ddim yn siarad yr iaith. Mae offer cyfieithu ar gael i'w casglu yn y Ganolfan Groeso wrth gyrraedd y Maes.

Beth i ddisgwyl?

Mae'r Eisteddfod yn denu, ar gyfartaledd dros 150,000 o ymwelwyr gydol yr wythnos (164,689 yn Y Bala yn 2009 a 156,697 yng Nghaerdydd yn 2008). Y pafiliwn mawr pinc yw canolbwynt yr 诺yl - yno mae'r cystadlu'n digwydd o gerddoriaeth a barddoniaeth i lefaru a dawnsio. Daw'r cystadlu i ben gan amlaf tua 4.30pm fel bod y prif seremon茂au yn gallu cymryd eu lle ar y llwyfan - y Coroni ar ddydd Llun, Gwobr Goffa Daniel Owen ar ddydd Mawrth, y Fedal Ryddiaith ar ddydd Mercher, a'r Cadeirio ar y dydd Gwener. Ar nos Fercher a nos Wener yr Eisteddfod mae'r cystadlu'n ail gychwyn ar 么l y seremon茂au ac yn parhau tan yr hwyr.

Pris mynediad?

Tocyn Diwrnod i'r Maes yn 拢15 i oedolion, 拢13 i bensiynwyr, 拢9 i blant 12 -18 oed a myfyrwyr (gyda cherdyn NUS) a 拢3 i blant dan 12 oed (am ddim i blant dan 3 oed).

O gwmpas y Maes a thu hwnt

Os nad y cystadlu sy'n mynd 芒'ch bryd chi, gallwch dreulio diwrnod ar faes yr Eisteddfod heb fynd i mewn i'r pafiliwn pinc, gan bod cymaint o bebyll eraill i ymweld 芒 nhw. Theatr y Maes, arddangosfeydd celf a chrefft, y Babell L锚n, Maes D (pabell y Dysgwyr) yn ogystal 芒 stondinau ac arddangosfeydd yn gwerthu dillad, gemwaith, llyfrau a nwyddau o bob math. Mae nifer o stondinau bwyd o gwmpas y maes, a bar yn gwerthu alcohol hefyd.

Mae pethau'n digwydd ar y Maes ac o gwmpas yr ardal yn ystod yr wythnos, gan gynnwys dram芒u, cyngherddau, barddoniaeth a chomedi, perfformiadau gan grwpiau lleol a nifer fawr o gigs amrywiol bob nos.

Maes D - Mae 'D' yn sefyll am 'Dysgwyr' - Wedi ei leoli ar faes yr Eisteddfod dyma babell i'r rhai sy'n dysgu Cymraeg. Mae'r gweithgareddau yma yn amrywio o sgyrsiau difyr i chwarae gemau i gystadleuthau.

Maes C - Wedi ei leoli fel arfer ar y maes carafanau, nepell o faes yr Eisteddfod. Mae'r adloniant nosweithiol a gynhelir yma wedi ei anelu at y teulu cyfan. Roedd arlwy 2009 yn amrywio o'r Stomp flynyddol a Thalwrn Tafarn gyda Twm Morys i gigs Mynediad am Ddim, Elin Fflur, Tebot Piws, Gwibdaith Hen Fran a mwy.


Straeon o'r Maes

Tudur Hallam

Edrych n么l

Ailfyw holl straeon a chyfweliadau'r wythnos o faes y Brifwyl yng Nglynebwy.

Canlyniadau

Bandiau pres

Rhestr lawn

Holl ganlyniadau'r wythnos a chlipiau fideo o'r buddugol.

成人论坛 iD

Llywio drwy鈥檙 成人论坛

成人论坛 漏 2014 Nid yw'r 成人论坛 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.