Dyma daith o amgylch y llyn ym Mharc Bryn Bach yn Nhredegar. Mae'r parc bedair milltir i ffwrdd o safle'r Eisteddfod Genedlaethol eleni yng Nglynebwy. Mae hyd y daith o gwmpas 30 munud, ac mae'r llwybr yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn a phramiau. Mae modd parcio eich car ym Mharc Bryn Bach.
Gwrandewch ar Magi Dodd, cyflwynwydd Radio Cymru sydd yn eich tywys ar hyd y daith.
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
1. Canolfan Ymwelwyr: Dechrau'r daith
Mae'n anodd credu erbyn hyn, ond roedd Parc Bryn Bach arfer bod yn ardal oedd yn allweddol i'r diwydiant glo. Gyda'r dirywiad yn y diwydiant yn ystod yr 1980au, mae'r ardal wedi'i drawsnewid yn barc gwledig 340 erw, gyda llyn 36 erw yn ganolbwynt i'r cyfan.
2. Bio-amrywiaeth
Ers ei greu, mae'r parc wedi datblygu bio-amrywiaeth gyfoethog trwy blannu coetir amrywiol, gwella'r glaswelltir, diogelu'r gwlypdir ac annog dolydd blodau gwyllt.
Cliciwch yma i wrando ar ddau sy'n gweithio ym Mharc Bryn Bach.
Mwy
Cysylltiadau Rhyngrwyd
Straeon o'r Maes
Edrych n么l
Ailfyw holl straeon a chyfweliadau'r wythnos o faes y Brifwyl yng Nglynebwy.