| |
Adolygiad: ffromi efo ff么m
gan Lowri Johnston Rydych chi un ai yn dwli ar bartion foam neu yn eu casau a chas perffaith. Dydw i ddim yn un sy'n dwli arnyn nhw ac ni allaf feddwl am ddim byd gwaeth na bod yn sownd yng nghanol cannoedd o bobl a foam yn fy ngorchuddio o mhen i nhraed.
Ond, pawb at y peth a bo!
Mae'n siwr y byddai'r mwyafrif yn anghytuno gyda fi am bartion foam gan fod maes B yn llawn dop heno - efallai rhy llawn. Cynulleidfa dra gwahanol i'r arfer sy'n cael ei denu i'r parti Ibiza gyda llawer mwy o Saesneg i'w glywed, sy'n drueni mawr.
Mae'r naws yn wahanol hefyd gan fod pobl wedi dod am reswm gwahanol - i gael eu gorchuddio mewn foam ac nid i glywed a chefnogi cerddoriaeth Gymraeg.
Ond mae pawb yn edrych fel eu bod yn mwynhau a'r DJs yn llwyddo i lenwi y llawr ddawnsio.
Pan fo DJ Dafis ar y decs - prif set y noson - mae'r foam yn ymddangos ac mae'r bar yn dechrau gwacau ychydig wrth i bobl fentro mewn i'r bybls. DJ sy'n dwyn samplau pobl eraill yw DJ Dafis - rhai Caryl Parry Jones ran amlaf. Mae llwyfan un yn llawn a phawb yn dawnsio'n wyllt.
Cafwyd yr un broblem gyda'r foam flwyddyn yma a'r llynedd - pobl yn ei lyncu ar 么l cael eu gorchuddio ynddo ac yna'n mynd yn dost. Yn amlwg doedd pobl heb gymryd yr amser i ddarllen y rhybudd bach ar y wal cyn mynd mewn! Ar lwyfan dau fodd bynnag, mae Sofa (prosiect Dyl Mei Pep le Pew) yn cynnal parti ei hun, heb foam diolch byth!
Trueni fod cymaint yn y foam gan fod Sofa yn DJ talentog a'r gerddoriaeth yn ffynci a da.
Efallai mai dyma'r ffordd i'r Eisteddfod ddenu cynulleidfa i faes B ond nid dyma'r ffordd i hybu Cymreictod a rhoi cyfle i bobl ifanc gymdeithasu yn uniaith Gymraeg.
A minnau'n meddwl mai dyna oedd holl bwynt yr Eisteddfod?
|
|
|
|