Adolygiad : Drama gerdd Ann : braidd yn siomedig
Drama gerdd yn seiliedig ar fywyd Ann Griffiths, yr emynyddes o Ddolwar Fach yw drama gerdd Cwmni Theatr Maldwyn a berfformiwyd ym Mhafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol, nos Iau.
Sefydlwyd y cwmni theatr n么l ym 1981 ar gyfer Eisteddfod Maldwyn, a'r awduron gwreiddiol, Derec Williams, Penri Roberts a Linda Gittins sydd wedi dod yn 么l at ei gilydd i gynhyrchu'r sioe hon eleni, am ferch sy'n cael ei gosod ymysg beirdd crefyddol mwyaf gwledydd Prydain, am ei hemynau.
Gobaith y sioe hon, yn 么l Rhaglen yr Eisteddfod yw "i geisio rhoi goleuni newydd ar y Ferch o Ddolwar fach gan obeithio cynnig gogwydd newydd i'r rhai sy'n gyfarwydd 芒 hanes Ann Griffiths, a chyflwyno'r ferch unigryw hon i bobl ifanc nad ydynt yn gwybod dim amdani."
Rhaid i mi gyfaddef mai i'r ail gategori hwn dw i'n disgyn, a doedd y pwnc ddim go wir yn fy nenu. Ond roedd rhaid mynd i'w gweld gan fod cymaint o enw da i sioeau Theatr Maldwyn ( a minnau wedi gweld - a mwynhau eu sioe Pum Diwrnod o Ryddid sawl gwaith), roedd gen i ddisgwyliadau uchel i'r noson.
Mae'r sioe yn agor a chloi gyda Requiem i Ann. Nid stori lawn yr emynyddes sydd yn y ddrama, a nid dyna oedd bwriad yr awduron, ond "ymchwilio i ymennydd Ann ei hun a'r dylanwadau arni."
Sioe yn siomedig
Fe gafwyd hynny, do. Ond eto, cefais fy siomi gyda'r ddrama gerdd.
Does dim dadlau fod y perfformio yn wych. Roedd y canu yn arbennig, a llais Sara Meredydd yn ddelfrydol yn chwarae rhan Ann. Rhaid ei chanmol am ganu yn ddi-stop am awr a hanner hefyd.
Ond roedd yn siom i mi mai cyn lleied o ganeuon roedd y corws yn eu canu ar y llwyfan. Byswn yn bendant wedi mwynhau cael mwy o ganu y cast cyfan, er mor dda oedd yr unigolion, roedd angen chydig mwy o fywyd weithiau yn fy marn i.
O ystyried yr holl heip oedd i'r sioe cyn y noson, roedd pob tocyn fel aur, ac oedd, roedd y pafiliwn yn llawn, ac er bod y gynulleidfa ar y gorau yn ymddangos eu bod nhw wedi mwynhau, doeddwn i ddim wedi fy argyhoeddi yn gadael y Pafiliwn.
Ond rhaid canmol y cerddorion a ganodd eu hofferynnau trwy gydol y sioe heb saib o gwbwl, a'r actorion am berfformiadau arbennig.
Adolygiad : Elin Davies.