Adolygiad : 'Letus' y ddrama gomisiwn
Drama wedi ei hysbrydoli gan hanesion am Lis Letus, ydi'r ddrama gomisiwn yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod eleni.
Dynes fu'n crwydro Maldwyn am flynyddoedd oedd Lis Letus, a down i wybod bob yn dipyn am ei charwriaeth anarferol yn ystod cwrs y ddrama, pan mae'n edrych yn 么l dros ei gorffennol.
Mae'r ddrama wedi ei lleoli yn bennaf yn ystafell y meddyg mewn wyrcws, wrth i Lis, (Sara Harris-Davies) sydd bellach yn heneiddio, siarad gyda'r doctor (Meilyr Si么n) mae'n datgleu hanesion am ei gorffennol a'i phresennol.
Awn yn 么l ac ymlaen rhwng y gorffennol a'r presennol, a gwelwn olygfeydd o Letus yn cyfarfod ei chariad (Iwan Tudor.)
Cynhyrchiad Arad Goch
Cwmni Arad Goch sydd wedi cynhyrchu'r ddrama, ac yn 么l arfer y cwmni theatr sydd yn aml yn defnyddio llenyddiaeth a deunydd traddodiadol, mae yma elfennau o gerddoriaeth werin a chlasurol. Mae gan Letus obsesiwn gyda'r gerddoriaeth yn ei phen.
Prif gymeriad - elfennau annwyl a thrist
Mae Lis Letus yn gymeriad annwyl iawn, ac mae Sara Harries - Davies yn llwyddo i'w phortreadu yn real tu hwnt. Mae'n gymysgedd o'r dwys a'r digri - ac ambell i olygfa yn codi gw锚n, ac ambell i olygfa yn gwneud i ni chwerthin yn uchel. Mae rhywun yn tristau i raddau wrth ddod i adnabod Letus yn well, wrth ystyried ei chefndir, yn enwedig pan mae'n ymbil ar y doctor i'w helpu i derfynnu'r cwbl, a hithau wedi anobeithio byw.
Down ar draws pynciau sy'n berthnasol i bawb wrth i ni heneiddio yn y ddrama hon. Mae Letus yn edrych yn 么l ar ei bywyd carwriaethol anffodus. Mae'n ymwrthod 芒 chonfensiynau cymdeithasol - mae wedi crwydro ar hyd y wlad, o ardal i ardal yn cysgu allan o dan yr elfennau.
Mae'n digalonni, ac yn anobeithio gydai bywyd, ac mae nifer o gwestiynau yn cael eu codi, o farwolaeth i gariad.
Perfformiadau arbennig
Mae'r actio yn y ddrama hon yn arbennig. Mae Sara Hughes-Davies drwyddi draw yn ymroi i'r cymeriad yn llwyr. Mae ei pherfformiad yn argyhoeddi drwy'r ddrama. Mae'r un yn wir am Meilir Si么n fel y meddyg, ac er mai rhan dipyn llai sydd gan Iwan Tudor, mae yntau hefyd yn perfformio yn dda.
Gwella wrth fynd yn ei blaen
Roeddwn yn meddwl ar ddechrau'r ddrama na fyddwn yn ei mwynhau gymaint 芒 hynny. Roedd yn symud braidd yn araf, a doeddwn i ddim yn siwr a oeddwn yn mynd i ddeall y ddrama i gyd, ond newidiodd hynny, a phopeth yn dod at ei gilydd.
Adolygiad gan Elin Wyn Davies
Mi fydd cwmni Arad Goch yn perfformio y ddrama gomisiwn bob nos tan nos Wener, yn Theatr Clera, Y Trallwng am 8 o'r gloch.